Module Information
Cod y Modiwl
DA22100
Teitl y Modiwl
Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Daearyddiaeth Anrhydedd Sengl neu Gyfun fel arfer
Elfennau Anghymharus
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Bydd myfyrwyr sy'n methu'r modiwl fel arfer yn cael ailsefyll, trwy ail-gyflwyno aseiniadau a fethwyd a/neu cyflwyno unrhyw aseniadau na chyflwynwyd. | |
Asesiad Semester | Dylai myfyrwyr nodi bod mynychu dosbarthiadau tiwtorial yn orfodol, yn ogystal a chyflwyno gwaith a osodir gan y tiwtor erbyn y dyddiad cau. 100% gwaith cwrs. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos gwybodaeth o ddatblygiad Daearyddiaeth dros y degawdau diwethaf.
Trafod a dadansoddi’r defnydd o safbwyntiau damcaniaethol gwahanol o fewn Daearyddiaeth.
Dangos gwerthfawrogiad o natur a defnydd priodol o wahanol strategaethau methodolegol mewn Daearyddiaeth.
Dangos ymwybyddiaeth o faterion moesegol mewn ymchwil Daearyddiaeth.
Nodi problem neu bwnc ymchwil a dylunio strategaeth ymchwil briodol.
Trafod llenyddiaeth gyfoes mewn Daearyddiaeth yn feirniadol.
Ysgrifennu mewn arddull academaidd.
Gwneud cyflwyniad llafar i grŵp bach.
Nod
• Datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad myfyrwyr o Ddaearyddiaeth fel disgyblaeth academaidd cyfoes a'i esblygiad hanesyddol
• Meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o faterion damcaniaethol a methodolegol mewn Daearyddiaeth
• Datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol ac ysgrifennu academaidd myfyrwyr
• I gefnogi paratoadau myfyrwyr ar gyfer y Traethawd Hir neu Brosiect Prif Bwnc / Anrhydedd Gyfun
• Darparu cymorth ar gyfer modiwlau craidd mewn Daearyddiaeth
• Datblygu sgiliau astudio myfyrwyr
• Datblygu sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr

Amlinelliad o'r modiwl
Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n gwneud cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl, Prif Bwnc a Chyfun mewn Daearyddiaeth. Ni all myfyrwyr eraill ei gymryd ond trwy drefniant arbennig gyda Chydgysylltydd y Modiwl. Y mae'n fodiwl sy'n darparu sail i gyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.
Y mae iddo dri nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell cyswllt clos, fe fydd yn ymdrin a phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, cynlluniwyd pob Modiwl Tiwtorial Daearyddiaeth yn ol maes llafur academaidd annibynnol. Yn Lefel 2 bydd hyn yn canolbwyntio ar theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar feysydd trafod cyfoes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a/ neu Daearyddiaeth Ddynol. Yn drydydd, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.
GWAITH CWRS ACADEMAIDD
Bydd gwaith y cwrs academaidd ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a theori Daearyddiaeth a Daearyddiaethymarferol, yn ogystal a meysydd trafod cyfoes o fewn i'r pwnc. Yn y naill achos a'r llall, bydd y dosbarthiadau tiwtorial yn datblygu'r themau hyn o fewn i gyd-destun Daearyddiaeth Ffisegol neu Ddaearyddiaeth Ddynol, fel sy'n briodol i'r grwp tiwtorial. Caiff y gwaith ei ddatblygu trwy gyfrwng trafodaeth a thraethodau tiwtorial, fel a nodir isod.
SGILIAU ASTUDIO
Bydd y sgiliau astudio a gynhwysir ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a'r canlynol:
Yn ystod y semester cyntaf, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar sgiliau astudio hanfodol ac ar natur trafodaeth
ddaearyddol. Seilir yr asesiad ar dri darn o waith i'w gyflwyno. Bydd rhain yn cynnwys.
I fyfyrwyr anrhydedd sengl,prif bwnc a gradd gyfun bwriedir i'r semester roi cymorth uniongyrchol ar gyfer paratoadau i'r traethawd hir neu prosiect prif bwnc/ anrhydededd gyfun. Byddant yn paratoi i'w hasesu dri papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf yn ymdrin a methodoleg ymchwil, amgyffred problemau ac adolygiad o lenyddiaeth.

- Gwaith prosiect/Traethowdau hir [yn cynnwys datblygu problemau/cynlluniau ynchwil : ffynonellau gwybodaeth/technegau: paratoi llyfryddiaethau/: technegau ysgrifennu adroddiadau]
- Cyflwyniadau Llafar
- Arweiniad gyrfa/hunan-asesu
- Mathau o syniadaeth ddaearyddol/gofodol/cyfunol/ecolegol/systematig/gwerthusol
Yn ystod y semester cyntaf, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar sgiliau astudio hanfodol ac ar natur trafodaeth
ddaearyddol. Seilir yr asesiad ar dri darn o waith i'w gyflwyno. Bydd rhain yn cynnwys.
- un darn o waith prosiect yn ymwneud a datblygiad sgiliau astudio canlynol:
- dau draethawd academaidd ar bynciau y bydd y tiwtor yn penderfynu arnynt.
I fyfyrwyr anrhydedd sengl,prif bwnc a gradd gyfun bwriedir i'r semester roi cymorth uniongyrchol ar gyfer paratoadau i'r traethawd hir neu prosiect prif bwnc/ anrhydededd gyfun. Byddant yn paratoi i'w hasesu dri papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf yn ymdrin a methodoleg ymchwil, amgyffred problemau ac adolygiad o lenyddiaeth.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5