Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 11 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad ar-lein aml-ddewis. | 100% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad ar-lein aml-ddewis. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. arddangos dealltwriaeth o brosesau geomorffig sylfaenol megis erydiad, cludiant a dyddodiad.
2. arddangos dealltwriaeth o'r prosesau, tirffurfiau a'r strategaethau rheoli sy'r gysylltiedig ag amgylcheddau amrywiol.
3. arddangos dealltwriaeth o sut y gellir adlunio esblygiad tirwedd ac, hyd yn oed, ei ragdybio wrth arsylwi prosesau a thirffurfiau cyfoes.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad gwerthfawr i'r prosesau dynamig sy'n gweithredu ar wyneb y ddaear. Pwysleisir yr angen i gyfuno dealltwriaeth o brosesau cyfoes gyda dealltwriaeth o dirweddau cyfoes a hynafol. Cyflwynir a dadansoddir amryw o amgylcheddau dros wyneb y ddaear, sylwir ar elfennau tirwedd, y prosesau sy'n gweithredu a'r problemau a wynebir wrth geisio eu rheoli. Bydd y darlithoedd yn dilyn drefn ganlynol:
Cynnwys
Darlith 1: Trosolwg Byd-eang
Darlith 2-4: Amgylcheddau Afonol
Darlith: 5-7: Amgylcheddau Rhewlifol
Darlith 8-10: Amgylcheddau Cras
Darlith 11 : Paratoi i'r arholiad
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir y myfyrwyr i gyfathrebu ar lafar yn y darlithoedd, e.e. mewn grwpiau trafod ac fel unigolion ond ni asesir hyn yn ffurfiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni asesir hyn yn ffurfiol. |
Datrys Problemau | Datblygir hyn wrth i’r myfyrwyr ddehongli a pharatoi ar gyfer yr arholiad. Bydd rhai o’r cwestiynau yn gofyn am ymateb i ddiagramau, lluniau a mapiau a bydd hyn yn datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
Gwaith Tim | Ni asesir hyn yn ffurfiol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ni asesir hyn y ffurfiol, ond mi fydd angen i’r myfyrwyr gymryd cyfrifoldeb am hyn wrth baratoi at yr arholiad. |
Rhifedd | Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddeall a dehongli elfennau rhifyddol y darlithoedd er mwyn medru ateb rhai o gwestiynau’r arholiad. |
Sgiliau ymchwil | Anogir y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ac wrth ddarllen erthyglau a gwerslyfrau academaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth er mwyn cwblhau’r arholiad, ac wrth ddarllen erthyglau academaidd. Anogir y myfyrwyr i astudio cronfeydd data ar-lein yn ymwneud gyda geomorffoleg. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4