Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 11 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | n Awr Asesiad 1- Traethawd academaidd ar Ran A, 2,000 gair | 50% |
Asesiad Semester | n Awr Asesiad 2 - Adroddiad polisi ar Ran B 2,000 gair | 50% |
Asesiad Ailsefyll | n Awr Asesiad ail eistedd 1 | 50% |
Asesiad Ailsefyll | n Awr Asesiad ail eistedd 2 | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod prosesau allweddol sy’n llywio newidiadau gwledig a dinesig cyfoes.
Dehongli’n feirniadol a defnyddio’n briodol ystod o lenyddiaeth ddamcaniaethol perthnasol o newidiadau gwledig a dinesig.
Adnabod yr oblygiadau polisi o’r newidiadau mewn ardaloedd gwledig a dinesig.
Arddangos sgiliau darllen beirniadol, dehongli, a gwerthuso mentrau polisi ar gyfer ardaloedd gwledig a dinesig.
a.y.y.b.
Nod
Cyflwyna’r modiwl daearyddiaethau dinesig a chefn gwlad i fyfyrwyr, a’r pynciau llosg sydd yn derbyn sylw cyfoes yn y meysydd hyn. Datblyga’r modiwl eu dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn dod i’r amlwg mewn ffyrdd penodol. Rhoddir sylw priodol gan y modiwl at agweddau o newid economaidd, demograffaidd, cymdeithasol, a diwylliannol, a’u heffeithiau ar gymunedau gwledig a threfol.
Cynnwys
Darlithoedd
Rhan A
1 Cyflwyniad: y dinesig a’r gwledig.
2 Newidiadau economaidd a chefn gwlad.
3 Cadwraeth wledig.
4 Newidiadau Demograffig ac arferion beunyddiol cefn gwlad.
5 Gwrthdaro a gwrthdystio gwledig.
Rhan B
6 Globaleiddio a newidiadau economaidd yn y ddinas.
7 Adfywio’r ddinas: polisi, preifateiddio, a phartneriaeth
8 Rheoli’r ddinas: polisi, graddfa, a grym.
9 Treuliant, boneddigeiddio, a pholareiddio cymdeithasol yn y ddinas.
10 Casgliadau.
Seminarau
Cynhelir un seminar pob wythnos gan dynnu ar themâu sy’n pontio cynnwys y darlithoedd a gofynion y gwaith cwrs.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Gwneir yn ysgrifenedig drwy’r gwaith cwrs. Gwneir ar lafar drwy gyfraniadau at seminarau |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau trosglwyddadwy megis cyd-weithio, rheoli amser, rheoli adnoddau, a chyfathrebu. |
Datrys Problemau | Gwneir drwy’r gwaith cwrs |
Gwaith Tim | Datblygir drwy strategaethau addysgu gweithredol a fydd yn cael yn cael eu cynnwys mewn seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir drwy gwaith paratoi unigol ar gyfer y seminarau a’r gwaith cwrs. Golyga presenoldeb deunydd addysgu ar-lein bod yna gyfle i fyfyrwyr ddychwelyd aqtynt i wella eu dealltwriaeth. |
Rhifedd | Ni ddatblygir hwn yn benodol, er mae’n bosib bydd rhai darlleniadau a/neu gweithgareddau addysgu gweithredol yn cynnwys elfennau o ddadansoddi ystadegol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gysyniadau allweddol sy’n berthnasol ar gyfer daearyddiaethau gwledig a threfol. |
Sgiliau ymchwil | Gwneir drwy’r gwaith cwrs |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir drwy ddefnyddio’r llwyfan dysgu Xerte er mwyn cael mynediad at y deunydd addysgu ar-lein. Datblygir hefyd drwy ddefnyddio ffynonellau ar-lein megis e-gyfnodolion a straeon newyddion wrth baratoi ar gyfer yr arholiad |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4