Module Information

Cod y Modiwl
CYM1440
Teitl y Modiwl
Profiad Gwaith
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio Profiad Gwaith  Portffolio Profiad Gwaith a fydd yn cynnwys yr elfennau canlynol: • Dyddiadur hunanfyfyriol • Adroddiad ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus • Dadansoddiad o waith, pwrpas a strwythur y sefydliad • Adlewyrchiad ar gyrsiau cyflwyno / anwytho’r sefydliad • CV • Cais am swydd • Llythyr esboniadol   Dim mwy na 8,000 o eiriau  80%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar ar y cyfnod profiad gwaith  (20 munud o hyd)  20%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol â’r canrannau a nodir, uchod. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

deall a diffinio natur agweddau cyffredin ar weithleoedd megis iechyd a diogelwch a gwaith adnoddau dynol

deall gofynion y broses ymgeisio am swyddi a gallu llunio cais effeithiol am swydd

meithrin sgiliau proffesiynol perthnasol fel rhan o’u cyfnod o brofiad gwaith megis sgiliau gweinyddu, cyfieithu, cyfathrebu, gweithio mewn tîm

adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy’n berthnasol i’r maes

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl hwn yw rhoi cyflwyniad i strwythur y gweithle proffesiynol, a dysgu sgiliau datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i wneud cais llwyddiannus am swydd, a beth yw gofynion y broses. Dysgir hefyd am wahanol adrannau’r gweithle a’u gwaith, megis iechyd a diogelwch ac adnoddau dynol. Canolbwynt y modiwl yw’r cyfnod o brofiad gwaith ei hun a fydd yn rhoi profiad ymarferol i’r myfyrwyr o weithio mewn sefydliad proffesiynol. Bydd y myfyrwyr yn adeiladu ar y profiad hwn trwy lunio portffolio a fydd yn cymhwyso’u profiadau a’r sgiliau a ddatblygir yn y darlithoedd a’r sesiynau ymarferol. Disgwylir hefyd i’r myfyrwyr feithrin sgiliau cyfathrebu llwyddiannus trwy roi cyflwyniad llafar am eu profiad gwaith ar ddiwedd y modiwl.

Cynnwys

Wythnos 1 Darlith – Arweiniad ar drefnu’r cyfnod o brofiad gwaith ac ar sut i lunio’r portffolio
Wythnos 2 Darlith – Adnoddau Dynol
Wythnos 3 Darlith – Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
Wythnos 4 Darlith – Llunio llythyr esboniadol
Wythnos 5 Darlith – Ffurflenni Cais
Wythnos 6 Darlith – Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Wythnos 7 Gweithdy – Cyfweliad am swydd
Cyfnod o brofiad gwaith – 1 mis / 2 x pythefnos

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i'r myfyrwyr wneud defnydd o Gymraeg cywir yn ysgrifenedig fel rhan o'u haseiniadau. Bydd gwaith cyfathrebu ysgrifenedig a llafar yn rhan hanfodol o’u cyfnod o brofiad gwaith. Disgwylir iddynt feithrin sgiliau cyflwyno proffesiynol ar gyfer yr asesiad llafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Rhoddir pwyslais arbennig yn y modiwl hwn ar ddatblygiad proffesiynol parhaus. Amcan y modiwl yw paratoi myfyrwyr at wneud ceisiadau am swyddi a gwella’u dealltwriaeth o’r broses ymgeisio ac o’r gweithle proffesiynol.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn datrys problemau proffesiynol amrywiol fel rhan o’u cyfnod o brofiad gwaith. Disgwylir hefyd i fyfyrwyr ymateb i gwestiynau heriol ffurflenni cais a chyfweliadau am swydd.
Gwaith Tim Bydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gwaith tîm fel rhan o’u cyfnod o brofiad gwaith.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ffocws y modiwl fydd datblygiad proffesiynol, a disgwylir i’r myfyrwyr adlewyrchu ar eu datblygiad unigol fel rhan o’r dyddiadur profiad gwaith a fel rhan o’r adroddiad datblygiad proffesiynol parhaus.
Rhifedd Amherthnasol yn y cyswllt hwn.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil am y sefydliad lle cyflawnir eu cyfnod o brofiad gwaith. Dysgwylir iddynt gefnogi cynnwys eu portffolio a’u cyflwyniadau llafar gyda thystiolaeth briodol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau wrth lunio eu haseiniadau. Disgwylir iddynt wneud defnydd o pwerbwynt neu prezi fel rhan o’u cyflwyniad llafar. Bydd gofyn hefyd i’r myfyrwyr wneud defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn ystod eu cyfnodau o brofiad gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7