Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd ar theori polisi iaith. Dim mwy na 2,500 o eiriau. | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd ar agwedd ar bolisi iaith yng Nghymru - addysg, y gyfraith neu'r gymdeithas. Dim mwy na 2,500 o eiriau. | 40% |
Asesiad Semester | Llunio dogfen bolisi iaith sefydliad dychmygol. Dim mwy na 750 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol â’r canrannau a nodir, uchod. |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
deall a diffinio hanes datblygiad polisïau iaith yng Nghymru
deall a diffinio egwyddorion sylfaenol theorïau polisi iaith
meithrin sgiliau dadansoddi trwy bwyso a mesur gwendidau a chryfderau polisïau iaith yng nghyd-destun addysg, y gyfraith a’r gymdeithas
deall a diffinio natur polisïau iaith mewn gwledydd eraill
adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy’n berthnasol i’r maes.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno gwybodaeth hanesyddol, theoretig ac ymarferol am bolisi iaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am gyd-destun polisi iaith yng Nghymru gan ystyried effaith polisïau iaith cenedlaethol ar sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Dysgir sgiliau dadansoddi wrth i’r myfyrwyr bwyso a mesur gwendidau a chryfderau polisïau iaith hanesyddol a chyfredol. Edrychir ar effaith polisïau iaith ar feysydd penodol sef addysg, y gyfraith a’r gymdeithas. Cymherir sefyllfa Cymru gyda sefyllfa ieithoedd lleiafrifol mewn gwledydd eraill a sefyllfa gwledydd amlieithog eraill gan ystyried a oes modd dysgu o’u hesiampl nhw.
Cynnwys
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Hanes Polisi Iaith yng Nghymru
Wythnos 2
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Theori Polisi Iaith
Wythnos 3
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Theori Polisi Iaith
Wythnos 4
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Cymharu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Comisiynydd Iaith
Wythnos 5
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Effaith y Safonau Iaith ar sefydliadau cyhoeddus a phreifat
Wythnos 6
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Polisi Iaith ac Addysg
Wythnos 7
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Polisi Iaith a'r Gyfraith
Wythnos 8
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Polisi Iaith a'r Gymdeithas
Wythnos 9
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Gwledydd eraill: Gwledydd ac ardaloedd amlieithog (Quebec, Gwlad Belg)
Wythnos 10
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Gwledydd eraill: Ieithoedd lleiafrifol (Gwlad y Basg, Iwerddon)
Bydd y sesiynau dwyawr yn rhoi cyflwyniad i'r meysydd a amlinellir uchod ac yn rhoi'r cyfle i'r myfyrwyr drafod y pynciau.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i’r seminarau a gynhelir ar y modiwl hwn; disgwylir i’r myfyrwyr gyfrannu at drafodaethau wrth asesu gwahanol bolisïau iaith. Disgwylir i'r myfyrwyr wneud defnydd o Gymraeg cywir yn ysgrifenedig fel rhan o'u haseiniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dysgir sgiliau ymchwil, dadansoddi a chymhwyso. Mae cynnwys y modiwl hwn yn cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes polisi iaith. |
Datrys Problemau | Wrth drafod natur polisïau iaith sefydliadol a chenedlaethol disgwylir i’r myfyrwyr gymhwyso gwedd ddadansoddol y modiwl wrth lunio eu polisïau eu hunain. |
Gwaith Tim | Bydd angen i'r myfyrwyr drafod theori polisi iaith a dadansoddi polisïau iaith penodol a pharchu safbwyntiau myfyrwyr eraill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Y gallu i gynhyrchu tasgau dadansoddol yn effeithiol, gan gynnwys cymhwyso’r ymchwil/darllen wrth lunio’r aseiniadau ar bolisi iaith. |
Rhifedd | Amherthnasol yn y cyswllt hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Mae sgiliau ymchwil yn rhan bwysig o’r aseiniadau a osodir ar y modiwl hwn: disgwylir i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am hanes a theori polisi iaith a dadansoddi ystod o bolisïau sefydliadol a chenedlaethol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau wrth lunio eu haseiniadau yn ogystal â gwneud gwaith ymchwil ar-lein. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7