Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 11 x Gweithdai 1 Awr |
Darlith | 9 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Llunio Blog ar lein ar bwnc y cytunir arno gyda chydlynydd y modiwl. Dim mwy na 1,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Semester | Llunio darn ysgrifenedig sy'n gwneud defnydd o rethreg. Dim mwy na 1,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Semester | 2 gyflwyniad llafar ar bynciau gosodedig. 10 munud o hyd yr un. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol â’r canrannau a nodir, uchod. |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
deall a diffinio gwahanol gyweiriau'r iaith Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
meithrin sgiliau cyflwyno proffesiynol ar lafar ar gyfer sawl cyd-destun.
meistroli sgiliau ysgrifenedig a llafar proffesiynol penodol: llunio cofnodion, adroddiadau, datganiadau i'r wasg, e-byst a llythyron proffesiynol, a dogfennau polisi; gwneud defnydd o Pwerbwynt a Prezi; cynnal pwyllgorau.
meistroli Cymraeg ysgrifenedig o safon uchel a fydd yn addas ar gyfer y gweithle.
adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy’n berthnasol i’w cyflwyniadau ac aseiniadau.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno sgiliau llafar ac ysgrifenedig sylfaenol ar gyfer y gweithle. Trafodir natur a phwrpas gwahanol gyweiriau'r Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i ddewis cywair addas ar gyfer sawl cyd-destun proffesiynol. Rhoddir arweiniad i'r myfyrwyr ar eu sgiliau cyflwyno yn ysgrifenedig ac ar lafar. Dysgir sut i wneud defnydd o dechnoleg gwybodaeth i lunio blog ac i greu cyflwyniadau ar raglenni fel Pwerbwynt a Prezi. Yn ogystal, dysgir sgiliau gweinyddu penodol ar gyfer y gweithle megis llunio cofnodion, adroddiadau, datganiadau i'r wasg ayyb a sgiliau ymarferol ar gyfer y gweithle megis sut i gynnal pwyllgorau.
Cynnwys
Darlith - Beth yw Cywair?
Gweithdy - Tasgau Cywair
Wythnos 2
Darlith - Cymraeg Ffurfiol
Gweithdy - Tasgau Cywair
Wythnos 3
Darlith - Cymraeg Swyddogol - iaith polisi
Gweithdy - Llunio dogfennau polisi
Wythnos 4
Darlith - Iaith y Cyfryngau Cymdeithasol a Byd y Blogiau
Gweithdy mewn ystafell gyfrifiadurol - Dylunio blog
Wythnos 5
Darlith - Gweinyddu - Adroddiadau, Cofnodion, Datganiad i'r Wasg, E-bost, Llythyr, Cylchlythyr gwaith
Gweithdy - Llunio adroddiad / cofnodion
Wythnos 6
Darlith - Cyflwyniadau llafar: sgiliau sylfaenol
Gweithdy - Datganiad i'r wasg - tasg timau
Wythnos 7
Darlith/Gweithdy mewn ystafell gyfrifiadurol - Llunio cyflwyniad Pwerbwynt / Prezi effeithiol
Gweithdy - Cyflwyniad llafar 1 - cyfweliad am swydd
Wythnos 8
Darlith - Cyflwyniadau llafar: rhethreg
Gweithdy - Cyflwyniad llafar 2 - dwyn perswâd
Wythnos 9
Darlith - Cyflwyniadau llafar: gwahanol gyweiriau, addasu i'r cyd-destun, deunyddiau recordio
Gweithdy - Cyflwyniad llafar 3: cynhyrchu a recordio cyflwyniad marchnata ar gyfer 2 gyd-destun gwahanol
Wythnos 10
Darlith - Sut i gynnal pwyllgor
Gweithdy - Cynnal Pwyllgor
Bydd pob gweithdy yn adeiladu ar elfen a gyflwynir yn y ddarlith, ac yn rhoi'r cyfle i'r myfyrwyr ymarfer a datblygu'r sgiliau a ddysgir. Cânt brofiad ymarferol o gyfansoddi amrywiaeth o ddarnau ysgrifenedig ar gyfer y gweithle yn ogystal ag o siarad yn gyhoeddus mewn sawl cyd-destun.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r gweithdai a gynhelir ar y modiwl hwn, yn ogystal â'r asesu. Disgwylir i'r myfyrwyr fynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig yn gywir, a gan wneud defnydd o gyweiriau addas. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dysgir sgiliau cyflwyno llafar ac ysgrifenedig sylfaenol ar gyfer gweithio mewn unrhyw gyd-destun yn y Gymraeg. |
Datrys Problemau | Bydd problemau sy’n deillio o’r tasgau proffesiynol yn cael eu datrys gan fyfyrwyr mewn seminarau ac yn eu haseiniadau ysgrifenedig. Cywirdeb wrth ysgrifennu a siarad mewn sefyllfaoedd proffesiynol. |
Gwaith Tim | Disgwylir i'r myfyrwyr weithio fel tîm wrth gyflawni tasgau ymarferol megis cynnal pwyllgor a llunio ac ymateb i ddatganiad i'r wasg. Bydd angen i'r myfyrwyr ymateb i'w cyflwyniadau llafar ei gilydd a pharchu safbwyntiau myfyrwyr eraill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i fyfyrwyr allu cynhyrchu tasgau ysgrifenedig megis y Blog a chyflwyniadau llafar yn effeithiol, a gwella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol a fynegir mewn seminarau gan eu tiwtoriaid a’u cyd-fyfyrwyr. |
Rhifedd | Amherthnasol yn y cyswllt hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | Dysgir sgiliau gweinyddu proffesiynol penodol megis llunio cofnodion, adroddiadau, datganiadau i'r wasg ayyb. Dysgir sgiliau cyflwyno proffesiynol sy'n gwneud defnydd o offer electronig megis Pwerbwynt a Prezi. |
Sgiliau ymchwil | Bydd sgiliau ymchwil yn bwysig wrth baratoi'r cyflwyniadau llafar a'r aseiniadau ysgrifenedig ar gyfer y modiwl hwn. Disgwylir i'r myfyrwyr ennill gwybodaeth am bynciau eu cyflwyniadau a'u haseiniadau a chefnogi eu gwaith gyda thystiolaeth briodol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau, gwneud defnydd effeithiol o raglenni megis Pwerbwynt a Prezi ar gyfer cyflwyniadau llafar, a dylunio blog trwy wneud defnydd o FwrddDu Aberlearn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7