Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno unrhyw elfennau na lwyddodd a/neu darparu unrhyw elfennau coll | |
Asesiad Semester | Cyfansoddi 2 darn rhyddiaith gwreiddiol (1,000 o eiriau yr un), ynghyd ag esboniad beirniadol 1,500 o eiriau i gyd-fynd a?r casgliad (3,500 o eiriau i gyd). | 60% |
Asesiad Semester | Cynnal a threfnu darlleniad cyhoeddus yn yr ail semester. Cofnodir y gweithgareddau hyn ar Ddyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu AberLearn (1,000 o eiriau). | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos dealltwriaeth o'r genres dan sylw yn eu hymarferion eu hunain; medru ystyried eu cryfderau a'r nodweddion eu hunain fel awduron. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.
dangos dealltwriaeth o'r posibiliadau sydd ar gael i awduron wrth gyflwyno deunydd ac o'r canlyniadau sy'r deillio o ddewis un genre yn lle'r llall. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.
dangos dealltwriaeth o'r agweddau allweddol ar y berthynas rhwng testunau a chyd-destunau; dangos ymchwil ffeithiol briodol. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.
medru llunio darn o ryddiaith ar un neu fwy o'r genres a astudir.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl ymarferol hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu rhychwant eang o ddulliau ysgrifennu rhyddiaith ac i ymateb i ofynion llenyddol yn ol natur y testun, y gynulleidfa, y genre a'r arddull.
Nod
Bwriad y modiwl hwn yw ehangu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r posibiliadau creadigol sydd ar gael i awduron rhyddiaith cyfoes yng Nghymru a thu hwnt a, thrwy hynny, i ymestyn ffiniau eu creadigrwydd.
Cynnwys
Cynigir yr arlwy ganlynol mewn sesiynau dwyawr (darlith a seminar; gweithdy):
- Rhagarweiniad: theori genre yn gyffredinol (1 sesiwn dwyawr);
- ffuglen (3 sesiwn dwyawr);
- ffuglen wyddonol (2 sesiwn dwyawr);
- ffuglen ffeithiol (2 sesiwn dwyawr);
- y cofiant a'r hunagofiant (2 sesiwn dwyawr).
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i’r seminarau a gynhelir ar y modiwl hwn; disgwylir i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfoes a damcaniaethau newydd mewn trafodaethau ynghylch rhyddiaith a’i genres. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nid felly, heblaw fod y modiwl hwn (a’r cynllun MA y mae’n perthyn iddo) yn dwyn perthynas amlwg â gyrfa ym maes ysgrifennu, ymchwil academaidd, neu’r diwydiant creadigol. Gw. hefyd 9 isod. |
Datrys Problemau | Bydd problemau sy’n deillio o’r broses greadigol ymarferol yn cael eu datrys gan fyfyrwyr mewn seminarau ac yn eu haseiniadau ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cydweithio i drefnu darlleniadau cyhoeddus o’u gwaith. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i fyfyrwyr allu cynhyrchu gweithiau rhyddiaith yn effeithiol, a gwella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol eu tiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i gynhyrchu a golygu testun(au) rhyddiaith i safon broffesiynol a soffistigedig. Anogir myfyrwyr i gyhoeddi eu gwaith ar Flog Adran y Gymraeg ac mewn cylchgronau llenyddol proffesiynol megis Taliesin, Tu Chwith, ‘Y Neuadd’ |
Sgiliau ymchwil | Mae sgiliau ymchwil yn hanfodol i’r aseiniadau a osodir ar gyfer y modiwl hwn: disgwylir i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am hanes, diwylliant a damcaniaethau beirniadol drwy astudio a dadansoddi rhychwant o destunau rhyddiaith o wahanol gyfnodau hanesyddol |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau, a dangos ymwybyddiaeth ynghylch llunio a chyhoeddi testunau electronig. Defnyddio BwrddDu AberLearn |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7