Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 5 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cynllun ymchwil manwl 1500 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect Hir | 80% |
Asesiad Semester | Cynllun ymchwil manwl 1500 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Prosiect hir Prosiect hir 8,500-10,000 o eiriau yn achos traethawd neu swmp o waith cyfatebol yn achos prosiect arall | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
trefnu a chydlynu prosiect seiliedig ar ymchwil wreiddiol.
datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n effeithiol o fewn terfynau amser
arddangos dealltwriaeth feirniadol o'r ffynonellau cynradd ac eilradd perthnasol.
cynhyrchu prosiect sy'n cyd-fynd o ran cyflwyniad a safonau academaidd addas.
Nod
Galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol o fewn yr Adran. Bydd y modiwl hwn yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o baratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig yn y Gymraeg (neu waith prosiect cyfatebol yn y Gymraeg) ar bwnc perthnasol i'w cynllun gradd.
Disgrifiad cryno
Cynigia rhan gyntaf y modiwl ragbaratoad i fyfyrwyr er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer prosiect hir ar lefel israddedig. Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr cymwys o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r prosiect arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod sut i ddewis a diffinio testun prosiect hir a sut i gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir hyfforddiant i ddod o hyd i ffynonellau ac i lunio llyfryddiaeth. Erbyn diwedd Semester 1 bydd y myfyrwyr yn cyflwyno cynllun manwl (tua 1,500 o eiriau). Yn Semester 2 bydd myfyrwyr yn cyfarfod a^'u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol wrth iddynt fwrw ymlaen gydag ymchwilio a chyflawni'r prosiect hir.
Cynnwys
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwylwyr (2 awr)
Sesiwn 3: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 4: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 5: Gweithdy I, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Sesiwn 6: Gweithdy II, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Semester Dau: Cyfarfodydd unigol gyda’r cyfarwyddwr yn ôl y galw (hyd at 5 awr).
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir medru cyfathrebu drwy gyfrwng y gweithdai a'r sesiynau tiwtorial lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg au cynnydd, ynghyd â thrwy'r broses o lunio'r prosiect hir. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith estynedig a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posibl a all godi wrth gynllunio ac ymchwilio i brosiect ymchwil a byddant yn trafod problemau ac atebion posibl yn y gweithdai a chyda'r goruchwylwyr. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-ROM, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6