Module Information
Cod y Modiwl
CY35420
Teitl y Modiwl
Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 22 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 3000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd: 3000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Trafod yn feirniadol waith prif feirdd y cyfnod dan sylw
Deall y gweithiau hyn yn eu cyd-destun llenyddol a chymdeithasol ehangach
Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gwaith dan sylw gan ddefnyddio ystod o dechnegau beirniadol
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad amseryddol bras i brif feirdd a mudiadau llenyddol y cyfnod 1900-79. Bydd yn gosod y beirdd hyn yn eu cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol. Y bwriad yw cynnig arolwg o'r cyfnod trwy ganolbwyntio ar feirdd nodedig.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu'n rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan ddefnyddio Cymraeg graenus a chywir. Neilltuir cyfran o bob darlith i drafod cerdd neu gerddi yn fanylach. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn meithrin sgiliau astudio ac ymchwil. Bydd cynnwys y mdiwl yn berthnasol i rai a fydd yn dilyn gyrfa ym myd dysgu, addysg a'r dyniaethau. |
Datrys Problemau | Meithrinnir medrau'r myfyrwyr mewn perthynas ag adnabod ac ymdrin a^ thestunau cymhleth o ran iaith, mynegiant a syniadaeth |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Meithrinnir cyneddfau beirniadol y myfyrwyr mewnn perthynas a^'r testunau a astudir ac a^'u gwaith eu hunain. Anogir myfyrwyr i ddarllen gwaith ei gilydd ac i drafod eu gwaith ysgrifenedig wrth iddo gael ei baratoi. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Dealltwriaeth o'r berthynas rhwng hanes meddyliol gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod dan sylw a'i gynnyrch barddonol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio traethawd sy'n gofyn darllen y tu hwnt i'r testunau a drafodir yn y darlithiau. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr (a'u hyfforddi lle bo hynny'n briodol) i ddefnyddio ffynonellau ar y we er mwyn ategu eu gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6