Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 11 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Arddangosiadau ymarferol canol term | 5% |
Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig (hyd at 20,000 o eiriau) a gwaith technegol cysylltiedig. a gwaith technegol cysylltiedig. a gwaith technegol cysylltiedig. | 95% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno elfennau o'r gwaith cwrs a fethwyd/ nas cyflwynwyd, neu elfennau o werth cyfatebol. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos gallu i ddadansoddi problem, datblygu modd o ymchwilio i’r broblem neu ei datrys, a chwblhau darn o waith dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter.
Arddangos gallu i ennill profiad mewn maes penodol, trwy astudio hunangyfeiriedig yn bennaf.
Arddangos gallu i ddefnyddio’r prif bethau a gyflawnwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau gradd yn annibynnol.
Llunio arfarniad beirniadol ysgrifenedig a llafar o’u gwaith, gan werthuso pob agwedd ar eu dull o weithredu
Disgrifiad cryno
Trwy weithio ar y prosiect hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gymhwyso a datblygu eu sgiliau wrth drafod problem benodol, cwblhau'r prosiect a dogfennu'r broses. Bydd y myfyrwyr yn datblygu cynnyrch gorffenedig o'r cam o fanylu ar y gofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys llunio dogfennau priodol, gan gynnwys dogfennau sy’n trafod y penderfyniadau cynllunio a wnaethpwyd. Bydd prosiectau ymchwil hefyd yn pwysleisio'r broses ymchwil ac yn gwerthuso'r canlyniadau.
Cynnwys
Darperir amryw ddeunyddiau ysgrifenedig, gan roi cyfarwyddyd ynghylch cyflawni'r prosiect, materion asesu, a chyflwyno'r prosiect. Disgwylir i fyfyrwyr drefnu eu hamser ar y prosiect bob wythnos a chyfarfod a^’u goruchwyliwr yn rheolaidd. Asesir y cwrs hwn ar sail cyflawni technegol, yn o^l tystiolaeth a gyflwynir drwy arddangosiadau, y gwaith technegol a'r canlyniadau, ynghyd ag adroddiad ysgrifenedig sylweddol.
Nod
Cyflawni darn sylweddol o waith technegol sy'n tynnu'r holl sgiliau a ddatblygwyd yn ystod cwrs y myfyriwr at ei gilydd. Adrodd ynghylch y gwaith technegol ar ffurf arddangosiadau, trafodaethau ac adroddiad ysgrifenedig.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Dylai'r modiwl hwn fod o fudd i'w sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig (traethawd estynedig) a llafar (arddangosiad). |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dylai'r modiwl hwn helpu myfyriwr i ddeall potensial eu gradd benodol ar gyfer sicrhau swydd, a darparu deunydd sylweddol ar gyfer eu portfolio. |
Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn elfen gynhenid o weithredu systemau Cyfrifiadura. |
Gwaith Tim | Amherthnasol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gofynnir i'r myfyriwr ystyried ei ddysgu a'i berfformiad ei hun. |
Rhifedd | Mae defnyddio gwybodaeth rifyddol yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifadura. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir mwy o wybodaeth fanwl mewn rhai sgiliau sy'n benodol i'r pwnc o ganlyniad i weithio ar y prosiect. Bydd sgiliau yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen iddynt archwilio ac ysgrifennu ynghylch parth defnyddio systemau cyfrifiadura. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae technoleg gwybodaeth yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifiadura. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6