Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 36 x Seminarau 2 Awr |
Darlith | 4 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Seminar 1 (cyflwyniad 15%, asesiad gan gydfyfyrwyr 5%) | 20% |
Asesiad Semester | Seminar 2 (cyflwyniad 35%, cyfrannu at drafodaeth 5%) | 40% |
Asesiad Semester | Erthygl cylchgrawn 1 (500 gair) | 15% |
Asesiad Semester | Erthygl cylchgrawn 2 (500 gair) | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Bydd yn rhaid i'r myfyrwyr gymryd elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Ymchwilio a chrynhoi pynciau cyfredol o ddiddordeb i'w gradd.
2. Cyflwyno a thrafod eu crynodebau ar lafar mewn seminarau.
3. Ysgrifennu erthygl i gyfathrebu'r pwnc i gynulleidfa gyffredinol.
Disgrifiad cryno
Diben y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ymchwilio'n ddyfnach i bwnc o ddiddordeb iddynt ac sy'n berthnasol i'w cynllun gradd. Byddant nid yn unig yn dysgu mwy am eu pwnc dewisol, ond byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau o safbwynt ymchwil gwyddonol a chyfathrebu. Mae'r modiwl yn seiliedig ar eu hymchwil annibynnol i'w pwnc, ac wedi'i ategu gydag ambell ddarlith ar sgiliau cyfathrebu penodol. Yna, byddant yn ymarfer y sgiliau cyfathrebu hynny trwy rannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gyda chymheiriaid gwyddonol a'r cyhoedd.
Nod
Nod y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ar gyfer meddwl yn feirniadol, syntheseisio, a chyfathrebu gwyddoniaeth.
Cynnwys
Dau weithdy 2-awr ar sgiliau cyfathrebu penodol, i'w dilyn gan seminarau dan arweiniad y myfyrwyr ar eu pynciau dewisol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu ymchwil i gynulleidfa wyddonol a chyffredinol ac asesir nifer o wahanol ffurfiau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfathrebu sy'n allweddol i wella cyflogadwyedd. |
Datrys Problemau | Mae'r sgil hon yn elfen allweddol o'r modiwl, sef gweithio allan sut i grynhoi gwybodaeth a'i chyflwyno mewn fformat hygyrch. |
Gwaith Tim | Ceir elfennau o weithio mewn tîm yn ystod y darlithoedd/gweithdai cychwynnol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth ar y seminar gyntaf a'r erthygl blog cyntaf, felly gall y myfyrwyr ddefnyddio'r adborth ffurfiannol i wella'u perfformiad mewn asesiadau diweddarach. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau sy'n berthnasol i'w cynlluniau gradd, a thrwy hynny byddant yn datblygu dealltwriaeth bellach o'u pwnc dewisol. |
Sgiliau ymchwil | Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil ac yn gofyn i fyfyrwyr gymathu gwybodaeth o lenyddiaeth academaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir amrywiaeth o fformatau TG yn ystod y modiwl hwn |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6