Module Information

Cod y Modiwl
BG24210
Teitl y Modiwl
Profiad Gwaith
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 8 x Darlithoedd 1 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio.  100%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Adfyfyrio'n fanwl ar brofiad mewn gweithle (Ffrwd 1)

2. Enwi cryfderau a gwendidau gan nodi strategaethau ar gyfer mynd i'r afael a'r ail (Ffrwd 1)

3. Cyfathrebu profiad mewn ffyrdd a ddisgwylir gan gyflogwyr (Ffrwd 1)

4. Cynllunio ar gyfer strategaeth gwella-gyrfa yn y dyfodol (Ffrwd 1)

5. Datblygu a chynnal portffolio ar gyfer adfyfyrio yn y dyfodol ar brofiadau gwaith ar ol i'r modiwl ddod i ben (Ffrwd 1)

1. Adfyfyrio'r fanwl ar brofiad mewn gweithle (Ffrwd 2)

2. Nodi nodweddion sy'r ofynnol ar gyfer mynd i yrfa benodol (Ffrwd 2)

3. Nodi strategaethau ar gyfer llwyddo yn y broses recriwtio a chyfweliad/dechrau busnes (Ffrwd 2)

4. Son yn llwyddiannus wrth gydfyfyrwyr am elfennau cyflogadwyedd datblygu gyrfa (Ffrwd 2)

5. Adfyfyrio ar ddatblygiad gyrfa yn y dyfodol (Ffrwd 2)

Disgrifiad cryno

Ffrwd 1 (awtomatig): bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau 50 awr o brofiad gwaith gwirfoddol neu gyflogedig (rhan-amser neu amser llawn) yn ystod yr ail flwyddyn a'r gwyliau cysylltiedig. Mae'n rhaid i'r profiad gwaith gydymffurfio a chyfres o feini prawf gofynnol, ond nid oes raid i'r gwaith fod yn uniongyrchol berthnasol i gynlluniau gradd. Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiadur adfyfyriol yn ystod eu cyfnod yn gweithio ac yn gwneud cyfres o asesiadau ffurfiannol. Ar ddiwedd y cyfnod gwaith, bydd myfyrwyr yn cyflwyno portffolio, ac yn hwn byddant yn adfyfyrio ar eu profiad, yn nodi sgiliau sydd angen eu datblygu (a chyfleoedd ar gyfer hyn) ac yn llunio cynllun CAMPUS/SMART, gyda'r nod o wella eu cyflogadwyedd ymhellach yn ystod y drydedd flwyddyn a thu hwnt.
Ffrwd 2: Bydd myfyrwyr sydd a phrofiad sylweddol o gyflogaeth ar lefel raddedig, neu sydd wedi sefydlu a rhedeg eu busnes eu hunain, neu sydd eisoes wedi cwblhau modiwl gwaith IBERS sy'n gysylltiedig a gradd (e.e. myfyrwyr sy'n trosglwyddo o gynlluniau sylfaen) yn adfyfyrio ar eu profiad yng nghyd-destun datblygu eu cyflogadwyedd gyda'r nod o gynhyrchu adnoddau cefnogol ar gyfer eu cydfyfyrwyr. Yn hytrach na'r profiad gwaith 50 awr a dyddiadur adfyfyriol, disgwylir i fyfyrwyr ffrwd 2 lunio dogfen briffio, wedi'i hanelu at eu cyd-fyfyrwyr, sef proffil o'u gyrfa yn canolbwyntio ar sgiliau, heriau a chyfleoedd. Yn ogystal, disgwylir i fyfyrwyr ffrwd 2 roi cyflwyniad byr 10 munud wedi'i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb, unwaith eto wedi'i anelu at eu cyd-fyfyrwyr. Bydd mynediad i ffrwd 2 yn amodol ar gymeradwyaeth staff ac yn dibynnu ar feini prawf cymhwyso llym.

Cynnwys

Yn ystod blwyddyn 1, rhoddir gwybodaeth i'r holl fyfyrwyr am y modiwl (drwy hysbysiadau ar-lein, a chyflwyniadau), a son (wrth fyfyrwyr ffrwd 1) am yr angen i chwilio am gyfleoedd gwirfoddol neu waith addas yn ystod y cyfnod priodol. Bydd yn rhaid i'r cyfleoedd hyn fodloni meini prawf penodol (a gwiriadau priodol o ran Iechyd a Diogelwch ac yswiriant), ond y nod yw derbyn ystod cyfleoedd mor eang ag y bo modd yn unol a'r nod academaidd a nodwyd.
Mae cydlynwyr cynlluniau gradd yn rhydd i ddod o hyd i leoliadau gwaith sy'n gysylltiedig a gradd os ydynt yn teimlo bod angen hyn yn academaidd ac y gellir ei ddarparu ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n gwneud eu gradd. Cyfrifoldeb cydlynwyr y cynllun fydd hyn.
Ffrwd 1:
Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiadur adfyfyriol ar 50 awr cyntaf eu gwaith. Darperir pro-forma a disgwylir i fyfyrwyr wneud cofnod unwaith y diwrnod (neu tua cyfnod o 8 awr os yw'n rhan-amser). Cefnogir myfyrwyr gan adnoddau ar-lein a ddarperir ar Blackboard (fel pecynnau y gellir eu lawrlwytho / eu hargraffu ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd). Bydd y dyddiadur adfyfyriol yn rhan o'u portffolio.
Ar ol gwneud 50 awr o brofiad gwaith, bydd y myfyrwyr yn cwblhau cyfres o ymarferion sydd a'r nod o godi ymwybyddiaeth am y sgiliau a ddatblygwyd ganddynt, y ffordd y mae cyflogwyr yn ystyried y rhain a sut y gellir cyfleu'r hyn a gyflawnwyd ganddynt. Datblygir yr ymarferion mewn ymgynghoriad a'r Ganolfan Cynghori ar Yrfaoedd.
Disgwylir i fyfyrwyr hefyd lunio portffolio yn cynnwys (yn ogystal a'r dyddiadur adfyfyriol):
a. tystiolaeth o'r cyfnod gweithio
b. archwiliad sgiliau cyflawn (yn seiliedig ar yr AGAPh presennol)
c. tystiolaeth o ymwneud a'r Ganolfan Cynghori ar Yrfaoedd yn ystod blwyddyn 2
d. cynllun gweithredu CAMPUS/SMART sy'n nodi camau i'w cymryd ym mlwyddyn 3
e. CV sy'n cynnwys y profiad a gafwyd yn y lleoliad.
Bydd templedi priodol ar gael er mwyn i fyfyrwyr fedru ychwanegu mwy o brofiad gwaith yn y portffolio wrth i hwnnw ehangu a pharhau i fod yn adnodd iddynt ymhell ar ol diwedd y modiwl.
Ffrwd 2:
Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno eu cais i fynd i ffrwd 2, ynghyd a'r dystiolaeth briodol, cyn diwedd y flwyddyn gyntaf.
Bydd yn rhaid i'r myfyrwyr hyn lunio proffil 3000 gair, ac ynddo ddisgrifio'r elfennau canlynol gyda'r nod penodol o godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr ffrwd 1.
I'r rheiny sydd a phrofiad o weithio ar lefel raddedig, dylai'r proffil ddisgrifio sut aeth yr unigolyn i'r proffesiwn hwnnw, pa sgiliau sydd eu hangen i sicrhau'r swydd a'r broses recriwtio, pa sgiliau a ddatblygwyd ganddynt yn ystod eu cyfnod yn y swydd, sut y datblygodd y swydd yn ystod eu hamser ynddi, y llwybr gyrfa yr oeddynt wedi'i ddilyn, yr heriau a'r cyfleoedd a ddaeth yn sgil y swydd a disgrifiad o 'ddiwrnod' nodweddiadol yn y swydd.
I'r rhai sydd wedi sefydlu a rhedeg eu busnes eu hunain, bydd y proffil yn disgrifio'r broses o ddechrau'r busnes (cyllid, marchnata, ffynonellau cyngor a chymorth), sut y datblygwyd y busnes, heriau a chyfleoedd, delio a'r 'wladwriaeth', y sgiliau sydd eu hangen i ddechrau arni a'r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y broses a 'diwrnod' nodweddiadol wrth redeg y busnes.
Yn ogystal, disgwylir i'r myfyrwyr roi cyflwyniad byr 10 munud yn crynhoi eu proffiliau ac wedi'i anelu at eu cyd-fyfyrwyr ac yna sesiwn holi ac ateb gyda'u cynulleidfa.
Disgwylir i fyfyrwyr lunio portffolio yn cynnwys:
a. archwiliad sgiliau cyflawn (yn seiliedig ar yr AGAPh presennol)
b. tystiolaeth o ymwneud a'r Ganolfan Cynghori ar Yrfaoedd yn ystod blwyddyn 2
c. cynllun gweithredu CAMPUS/SMART sy'n nodi camau i'w cymryd ym mlwyddyn 3
d. CV sy'n cynnwys y profiad a gafwyd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu profiadau a datblygiad sgiliau sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ffordd sy'n hwylus i gyflogwyr (CV) ac i fyfyrwyr eraill (ffrwd 2)
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Adfyfyrio ar gyflawniadau / profiadau ac integreiddio'r rhain i'w CV wedi'i gefnogi drwy gysylltiad a'r Ganolfan Cynghori ar Yrfaoedd a llunio cynllun gwella gyrfa
Datrys Problemau
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Adfyfyrio ar brofiadau, adnabod diffygion sgiliau a chyfleoedd ar gyfer gwella sgiliau (dyddiadur adfyfyriol a chynllun neu broffil a chyflwyniad)
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Nodi cyfleoedd pellach ar gyfer datblygiad yn eu cynllun gwella gyrfa
Technoleg Gwybodaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5