Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Amrywiol | 1 x Gweithgaredd Amrywiol 2 Awr |
Darlith | 17 x Darlithoedd 1 Awr |
Darlith | 16 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 1. Arholiad teir awr | 4% |
Asesiad Semester | Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 2. 5 e-ymarfer yn seiliedig ar Blackboard (yn trafod agweddau ar gynllunio ymchwil a dadansoddi ystadegol) | 4% |
Asesiad Semester | Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 3. | 4% |
Asesiad Semester | Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 4. Paratoi Cynllun Ymchwil | 4% |
Asesiad Semester | Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 5. Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau or asesiad syn cyfateb ir hyn a arweiniodd at fethur modiwl | 4% |
Arholiad Semester | 3 Awr Arholiad ystadegaeth ar-lein. | 30% |
Asesiad Semester | Ymarferiad darllen ar-lein. | 5% |
Asesiad Semester | Adolygiad llyfryddiaeth. Wici gr?p. | 5% |
Asesiad Semester | Adolygiad llyfryddiaeth. Unigolyn. | 15% |
Asesiad Semester | Cynllun ymchwil. Wici gr?p. | 5% |
Asesiad Semester | Cynllun ymchwil. Unigolyn. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 70% |
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Arholiad ystadegaeth ar-lein. Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Chwilio ac adolygu'r llenyddiaeth wyddonol er mwyn adnabod cwestiynau ymchwil dilys
2. Adnabod dulliau priodol o ddadansoddi ar gyfer gwahanol fathau o ymchwil
3. Cynllunio arbrofion sy'n ddilys yn ystadegol
4. Adnabod a mesur yn erbyn ffactorau sy'n drysu wrth gynllunio ymchwil
5. Dangos dealltwrieth o'r pynciau moesegol sydd ynghlwm wrth ymchwil
6. Dadansoddi data gan ddefnyddio ystod o dechnegau meintiol ac ansoddol
7. Dehongli canlyniadau dehongli data a chymhwyso gwybodaeth ystadegol wrth werthuso archwiliadau ymchwil.
Disgrifiad cryno
Bydd y cwrs yn trafod egwyddorion ac arferion ystod o weithdrefnau meintiol ac ansoddol sylfaenol dadansoddi data, ynghyd a dealltwriaeth o gynllunio ymchwil da. Bydd y dull cyflwyno yn dibynnu'r gryf ar e-ddysgu a'r myfyriwr yn ganolog iddo, gyda chymorth gweithdai cyfrifiadurol. Trwy e-ddysgu, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol, chwilio am lenyddiaeth a chynllunio ymchwil. Bydd y defnydd o fideos tiwtorial sy'r benodol i'r pwnc drwy Abercast yn sicrhau bod y myfyrwyr yn derbyn enghreifftiau esboniadol sy'n uniongyrchol berthnasol i'w maes pwnc arbennig. Ceir asesu ffurfiannol drwy ddefnyddio e-ymarferion Blackboard gan ddefnyddio rhyddhau ymaddasol, cyn cyflwyno cynllun ymchwil wedi'i ddatblygu'n gyflawn ac arholiad i brofi'r sgiliau ystadegol a ddysgwyd.
Cynnwys
Yn dilyn sylfaen greiddiol yng ngweithdrefnau sylfaenol dadansoddi data, bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddewis nifer cyfyngedig o dechnegau sy'n berthnasol i gynlluniau astudio penodol. Bydd y deunydd pwnc yn cynnwys:
Natur amrywioldeb
Poblogaethau, samplau a strategaethau samplo
Mathau o ddata
Tebygolrwydd
Gwyriad safonol
Dosraniad cyffredin
Samplo o'r dosraniad cyffredin, camgymeriad safonol
Dosraniad t myfyrwyr, profion t
Dadansoddi amrywiant
Dadansoddiadau amlffactoraidd, rhwystro
Cydberthyniad ac atchweliad
Dadansoddi chi-sgwar, tablau hapddigwyddiadau
Profion amharametrig
Techneg a strwythur holiaduron
Technegau cyfweld, grwpiau ffocws
Dadansoddi cynnwys (testunol, disgwrs, sgwrs, gweledol)
Cynllunio ymchwil
Ochr yn ochr a'r hyfforddiant dadansoddi data y bydd darlithoedd ar egwyddorion sylfaenol cynllunio arbrofol a chynllunio ymchwil. Bydd y rhain yn cynnwys:
Chwilio am lenyddiaeth a'i dehongli
Strategaethau a dulliau adolygu llenyddiaeth
Adnabod damcaniaethau a chwestiynau ymchwil
Strategaethau samplo a maint
Adnabod a mesur ffactorau sy'n drysu
Pynciau moesegol cynllunio ymchwil
Datblygiad protocol
Adnabod adnoddau
Datblygir y pynciau hyn drwy nifer o ymarferion ffurfiannol a gyflwynir drwy e-ddysgu. Bydd yr asesiad cyfunol terfynol yn gofyn i fyfyrwyr lunio, drwy ymgynghori ag aelodau o'r staff academaidd, gynllun ymchwil cynhwysfawr mewn maes unigryw sy'n berthnasol i'w cynllun astudio. Os bydd y cynllun yn cael ei gwblhau yn llwyddiannus, hwn fydd sylfaen traethawd estynedig blwyddyn derfynol y myfyriwr.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu cynllun ymchwil eglur, cryno a manwl |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Pennu'r cynllun ymchwil a'r dulliau dadansoddi mwyaf priodol i'w defnyddio gyda gwahanol fathau o ddata. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i fyfyrwyr adolygu a monitro cynnydd gwaith cwrs ffurfiannol a asesir er mwyn gwella'r perfformiad cyfan. |
Rhifedd | Bydd y rhan fwyaf o agweddau ar y modiwl hwn yn gofyn am drafod data a chymhwyso ystadegau. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Adnabod cwestiynau ymchwil, cynllun ymchwil, dadansoddi data a dehongli'r canlyniadau yng nghyd-destun ymchwiliad academaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Chwilio am lenyddiaeth a defnyddio chwilotwyr gwe a phecynnau ystadegol i ddadansoddi data. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5