Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 22 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 2 x Seminarau 3 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd a chyflwyniad poster / cyflwyniad | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 60% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Ailgyflwyno gwaith cwrs a fethwyd neu waith gwahanol | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno gwaith cwrs a fethwyd neu waith gwahanol | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos gwybodaeth ynghylch sut y gellir astudio microbau yn eu cynefinoedd naturiol a chyfyngiadau'r dulliau hyn.
2. Dangos dealltwriaeth o'r swyddogaethau unigryw a chwaraeir gan ficrobau gwahanol mewn cylchoedd carbon a nitrogen.
3. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y mae microbau'n ymwneud ag organebau uwch.
4. Defnyddio sgiliau TG i ddadansoddi a gwerthuso llenyddiaeth ar gyfer seminarau a chyflwyniadau poster mewn grwp.
5. Perfformio mewn tim i baratoi a chyflwyno seminar a phoster ar bwnc penodol ym maes ecoleg microbial.
Disgrifiad cryno
Drwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd a gweithdai bydd y modiwl yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r rhan a chwaraeir gan ficro-organau (gan gynnwys ffyngau, bacteria, archaea, algae) mewn ecosystemau daearol a dwr, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd mewn cylchedd biogeogemegol ynghyd a'r methodolegau a ddefnyddir i astudio'r organeddau hyn.
Nod
2. Cynyddu dealltwriaeth o swyddogaethau ficrobau gwahanol mewn cylchoedd carbon a nitrogen.
3. Cynyddu dealltwriaeth o rhyngweithiadau microbau ag organebau uwch.
4. Gwerthuso llenyddiaeth addas ar gyfer seminarau a chyflwyniadau poster mewn grwp.
5. Y gallu i berfformio mewn tim i baratoi a chyflwyno seminar a phoster ar bwnc penodol ym maes ecoleg microbial.
Cynnwys
I gynnwys gwybodaeth am fethodolegau mewn ecoleg microbial (bio-gemegol/moleciwlaidd), amrywiaeth bio-gemegol a genetig mewn Bacteria/Archaea, swyddogaeth ffyngau mewn diraddiad lignoselwlos, rhyngweithio microbial mewn llynnoedd/afonydd, swyddogaeth ffyngau wrth brosesu gweddillion mewn afonydd, cynhyrchiant cynradd mewn cynefinoedd pelagig, rhyngweithio rhwng microbau ac anifeiliaid, rhyngweithio (ffermio ffyngau/ microbioleg y geg / ecosystem y rumen) rhwng microbau a phlanhigion (mycorhisol/sefydlynnau nitrogen).
Seminarau
I gynnwys paratoi a chyflwyno posteri fel grwp ar astudiaethau achos penodol mewn ecoleg microbial. (Bydd hyn yn caniatau elfen o arbenigo yn unol a chynllun gradd unigolion).
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd mynychu darlithoedd a pharatoi a chyflwyno yn y seminar, cyflwyno poster a thraethawd yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau cyflwyno (llafar ac ysgrifenedig) a sgiliau gwrando. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd ymwybyddiaeth o sgiliau datblygu personol a gyrfaol yn cael eu datblygu drwy'r gwaith cwrs, e.e. gwaith tîm ar gyfer posteri. |
Datrys Problemau | Bydd seminarau a pharatoi poster yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau datrys problemau. |
Gwaith Tim | Cynhyrchu a chyflwyno posteri grwp. Sesiynau ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Wrth fynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai, paratoi ar gyfer amserlen seminarau a gweithdai, a pharatoi ar gyfer arholiadau, bydd gofyn datblygu strategaethau hunan-reoli a chynlluniau gweithredu personol. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd sgiliau penodol i'r cysyniadau perthnasol mewn ecoleg microbau yn cael eu datblygu. |
Sgiliau ymchwil | Seminarau a pharatoi poster gan ddefnyddio'r lyfrgell ac adnoddau ar y we. |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir sgiliau TG mewn seminarau ac wrth gyflwyno posteri drwy * ganfod gwybodaeth o'r llyfrgell a'r we * defnyddio PowerPoint * paratoi poster |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5