Module Information

Cod y Modiwl
BG12920
Teitl y Modiwl
Llystyfiant ac Ecosystemau
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 33 x Darlithoedd 1 Awr
Ymarferol 2 x Sesiynau Ymarferol2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad ymarferol ecoleg.  20%
Arholiad Semester 1 Awr   Prawf ymarferol.  20%
Arholiad Semester 1.5 Awr   60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  20%
Arholiad Ailsefyll 1 Awr   Prawf ymarferol.  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  20%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro trefniant a swyddogaeth ecosystemau, gan gynnwys lefelau troffig, rol priddoedd, rhyngweithio biotig ac egnieg ecosystemau.

2. Arddangos gwybodaeth o fioamrywiaeth prif grwpiau fflora'r tir, gan gynnwys adnabod nodweddion enghreifftiau o blanhigion sy'n berthnasol i adnabod rhywogaethau.

3. Trafod pynciau sylfaenol sy'n rhan o gadwraeth cynefinoedd mewn ffordd wybodus.

4. Arddangos gwybodaeth o strwythur, swyddogaeth a defnydd planhigion hadog i ddyn.

5. Gwerthuso'r ffyrdd y mae gweithgaredd dyn yn ddibynnol ar egwyddorion ecolegol sylfaenol, a sut y gall gweithgaredd dyn amharu arnynt.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno llystyfiant naturiol a chnydau, yng nghyd-destun ehangach cymunedau, cynefinoedd ac ecoleg fyd-eang. Fe'i cynlluniwyd er mwyn cyflwyno'r sgiliau sylfaenol a dealltwriaeth ecolegol i fyfyrwyr a fydd o bosibl yn chwilio am yrfa yn ymwneud ag arolygu ecolegol neu reolaeth cefn gwlad. Ond mi fydd ar yr un pryd yn wybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr sy'n ymddiddori yn ymchwil gwyddor planhigion neu wella cnydau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd gofyn i fyfyrwyr arddangos sgiliau cyfathrebu gwyddonol yn yr adroddiadau arbrofol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Trwy bwysleisio arwyddocâd planhigion i ddyn, cynlluniwyd y modiwl fel ei fod yn uniongyrchol berthnasol i sawl gyrfa. Dysgir y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd cefn gwlad penodol
Datrys Problemau Dehongli data o'r sesiynau ymarferol
Gwaith Tim Bydd y sesiynau ymarferol yn cynnwys elfen o weithio mewn tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yr aseiniad yn cynnwys elfen ffurfiannol y bydd myfyrwyr yn derbyn adborth arni, a'r cyfle i wella eu gwaith cyn iddo gael ei ailgyflwyno ar ddiwedd y modiwl
Rhifedd Bydd y sesiynau ymarferol yn cynhyrchu data y disgwylir i'r myfyrwyr ei gyflwyno a'i ddehongli yn yr adroddiadau
Sgiliau pwnc penodol Mae'r modiwl yn disgwyl i fyfyrwyr feithrin sgiliau labordy a maes ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer sawl gyrfa fiolegol
Sgiliau ymchwil Datblygir y sgiliau ymchwil sy'n gysylltiedig â chasglu a phrosesu gwybodaeth berthnasol
Technoleg Gwybodaeth Bydd angen defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio a chyflwyno'r adroddiadau arbrofol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4