Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad Prif Bwnc (4000 gair) | 70% |
Asesiad Semester | Aseiniad Ail Bwnc (1000 gair) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Prif Bwnc (4000 gair) | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ail Bwnc (1000 gair) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | 3 Enghraifft o?r Detholiad Ymarfer Dysgu (600 gair) | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth sicr o'u prif bwnc/bynciau arbenigol a fydd yn galluogi iddynt eu haddysgu yn CA3 a CA4 ac ôl-16 lle bo'n berthnasol
Dangos ymwybyddiaeth o gynnwys y pwnc a chwricwlwm is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3*
Cynllunio ar gyfer, addysgu a rheoli eu dosbarthiadau'n effeithiol, gan sicrhau dysgu datblygiadol a disgyblaeth gadarn
Trafod a dadansoddi'n feirniadol sut mae dysgwyr yn dysgu a chynllunio'n unol â hynny
Dadansoddi dysgu y dysgwyr yn feirniadol drwy dynnu ar amrywiaeth o asesiadau o ystod eang o waith dysgwyr a gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr a chyflwyno adroddiadau cynhwysfawr i rieni
Tynnu ar arsylwadau gwersi ac addysgu tîm (lle bo'n briodol) gyda golwg ar uchafu eu gwybodaeth a'u hyder yn yr is-bwnc methodoleg*
Gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu i fod yn ymarferwyr ystyriol ac adnabod eu cryfderau a'u hanghenion eu hunain.
- Yn gymwys i’r rheini sy’n cymryd Is-bwnc methodoleg yn unig
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6