Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 10 x Gweithdai 3 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio Creadigol – cyfwerth â 1,000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Cynhyrchiad Grŵp a Dogfennaeth | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Creadigol – cyfwerth â 1,000 o eiriau | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Cynhyrchiad Grŵp a Dogfennaeth | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Arddangos gallu uchel i gynhyrchu ystod eang o ffurfiau teleweledol, gan ddefnyddio a herio confensiynau'r cyfrwng.
2. Allu mynegi a gweithredu uchelgeisiau ac amcanion artistig, gan arddangos creadigrwydd, gwreiddioldeb, a soffistigeiddrwydd technegol.
3. Arddangos gallu a hyder wrth greu, ynghyd a dealltwriaeth wybodus o ystod eang o dechnegau cynhyrchu aml-gamera.
4. Arddangos gallu craff er mwyn dadansoddi a gwerthuso gwaith cynhyrchu, gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwaith tîm, a gallu cynyddol i rannu, derbyn a rhannu beirniadaeth gynhyrchiol.
Disgrifiad cryno
Gan gychwyn gyda chyfres o weithdai a fydd yn atgyfnerthu ac yn ymestyn profiadau blaenorol, bydd myfyrwyr yn raddol yn cwblhau tasgau mwy uchelgeisiol a hunan-gynyrchiadol, yn datblygu ac yn gwireddu cysyniadau ar lefelau mwy dwys ac ymdrechgar. Bydd disgwyl i unigolyn ymgymryd â nifer o rolau cynhyrchu gwahanol, ond bydd y gwaith hefyd yn mynnu lefel uchel o gydweithio a gwaith tîm.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw rhoi cynnig i fyfyrwyr i weithredu rhai o'r sgiliau technegol a chreadigol y byddent eisoes wedi'u magu yn ystod dwy flynedd gyntaf y radd, gyda’r bwriad o greu gwaith mewn stiwdio sydd yn gynyddol yn annibynnol a hynny ar gyfer ystod eang o ffurfiau ffeithiol a ffuglen. Mae'r modiwl yn cychwyn gyda dulliau cynhyrchu teledu traddodiadol, cyn symud ymlaen at genrau mwy blaengar a hybrid sy'n cyfuno sawl arddull a ffurf wahanol.
Cynnwys
2. Cynhyrchu newyddion
3. Cynhyrchu chwaraeon
4. Cynhyrchu materion cyfoes
5. 'Gŵyl Ffilmiau': cyfuno cynhyrchu stiwdio gyda lleoliad (1)
6.'Gŵyl Ffilmiau': cyfuno cynhyrchu stiwdio gyda lleoliad (2)
7. Datblygu sgript
8. Actio ar gyfer y sgrin
9. Ymweliad stiwdio
10. Recordio prosiect ffuglen (drama, opera sebon, comedi sefyllfa)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau ysgrifennu wrth greu sgriptiau. Gan fod y prosiectau yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn ddibynnol ar sgiliau cyfathrebu uchel. Hefyd fe gynhelir trafodaethau yn seiliedig ar waith fydd yn cael ei arddangos, gan gynnwys sgriptiau'r myfyrwyr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y myfyrwyr yn gweithio yn y gweithdai ac yn y cynyrchiadau terfynol yn ôl rolau proffesiynol penodedig, gan ddysgu trwy adlewyrchu ar sefyllfa gynhyrchu broffesiynol |
Datrys Problemau | Bydd y gweithdai wythnosol yn y cyflwyno myfyrwyr gyda gwahanol heriau artistig ac ymarferol sydd yn gysylltiedig â nifer o ffurfiau teleweledol gwahanol. Wrth gynhyrchu'r gwaith, bydd y myfyrwyr yn cael profiad o ddatrys problemau logistaidd, cyllidol, a thechnegol, a all godi fel rhan o'r prosiect cynhyrchu. |
Gwaith Tim | Mae'r modiwl yn rhoi pwyslais arbennig ar bwysigrwydd y gallu i gyd-weithio'n agos ac ar waith tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth ar waith fydd yn cael ei asesu a rhoddir adborth adeiladol ffurfiannol barhaus i'r myfyrwyr ar hyd y modiwl. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir sgiliau cyd-gynhyrchu trwy ffurfio cysyniadau a chynllunio nifer o wahanol o gynyrchiadau. Rhagwelir y bydd y modiwl yn ymestyn sgiliau aml-gamera y myfyrwyr; yn yr un modd datblygir sgiliau golygu ymhellach trwy olygu'r gwahanol weithiau. |
Sgiliau ymchwil | Bydd creu gweithiau fideo yn ddibynnol ar ymchwil i ystod eang o adnoddau beirniadol-ddamcaniaethol, hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol mewn perthynas â chynhyrchu teledu. Bydd ffilmio a golygu'r gwaith yn ddibynnol ar ymchwil i'r systemau technegol sy'n rhan o'r broses o greu. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd angen defnyddio prosesydd geiriau ar gyfer cyflwyno sgriptiau/cynigion. Bydd fideo digidol yn cael ei olygu ar gyfrifiadur yn defnyddio Avid Media Composer neu Final Cut Pro. Mae'n debygol y bydd hefyd angen defnyddio rhaglenni cyfrifiadur eraill, yn ôl anghenion prosiectau annibynnol y myfyriwr. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6