Module Information
Cod y Modiwl
TC35620
Teitl y Modiwl
Cynhyrchu Amlblatfform
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 10 x Sesiynau Ymarferol2 Awr |
Seminar | 10 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Prosiect Cynhyrchu Amlblatfform | 70% |
Asesiad Semester | Asesiad Ysgrifenedig (2000 o eiriau) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect Cynhyrchu Amlblatfform | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad Ysgrifenedig (2000 o eiriau) | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos gallu uwch i greu ystod eang o gynnwys amlblatfform.
2. Mynegi bwriadau artistig uchelgeisiol gyda chreadigrwydd, gwreiddioldeb a soffistigeiddrwydd technegol.
3. Dangos dealltwriaeth wybodus o ystod eang o dechnegau cynhyrchu a dosbarthu amlblatfform.
4. Dangos lefel uchel o alluoedd dadansoddi a gwerthuso wedi'u miniogi.
5. Dangos gwerthfawrogiad gwirioneddol o'r angen am waith tîm a gallu cynyddol i gynnig a derbyn beirniadaeth adeiladol.
Disgrifiad cryno
Mae datblygiad cyflym technolegau sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd yn ehangu (ac yn aml yn drysu) y posibiliadau ar gyfer cynhyrchu a defnydd cyfryngol. Mae cyrff cyfryngau traddodiadol a newydd, bach a mawr, yn defnyddio'r technolegau newydd hyn ar draws platfformau cyfryngol niferus i ddosbarthu cynnwys, cynyddu rhyngweithio a newid profiad y gwyliwr.
Bydd y modiwl hwn sy'n seiliedig ar ymarfer yn cynnig cyfle i chi arbrofi gyda thechnegau cynhyrchu a darlledu rhyngrwyd niferus. Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol a pherthnasol ym maes creu a dosbarthu cynnwys amlblatfform, gan gysylltu a rhyngweithio â chynulleidfaoedd gwirioneddol mewn amrywiaeth o fforymau.
Bydd y modiwl hwn sy'n seiliedig ar ymarfer yn cynnig cyfle i chi arbrofi gyda thechnegau cynhyrchu a darlledu rhyngrwyd niferus. Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol a pherthnasol ym maes creu a dosbarthu cynnwys amlblatfform, gan gysylltu a rhyngweithio â chynulleidfaoedd gwirioneddol mewn amrywiaeth o fforymau.
Cynnwys
Mae yna ddwy sesiwn ddwy awr bob wythnos - bydd un sesiwn yn canolbwyntio ar ddadansoddi a thrafod astudiaethau achos amlblatfform, gyda'r ail sesiwn yn cynnwys gweithdai ymarferol a gwaith grŵp beirniadol. Bydd fformat y sesiynau'n amrywio gan ddibynnu ar y maes penodol dan sylw.
Cyflwyniad i Gynhyrchu Amlblatfform
Cyflwyniad i Gynhyrchu Amlblatfform
- Nodweddion Cynhyrchu Allweddol
- Technolegau Camera Amgen
- Saethu ar gyfer y we
- Golygu ar gyfer y we
- Darlledu'n fyw - stiwdio ac ar leoliad
- Frydio - yn fyw ac ar-alw
- Dogfennau rhyngweithiol
- Hyrwyddo cynnwys
- Denu, adeiladu a chynnal cymuned
- Nodweddion brandio
- Adnabod a datblygu hunaniaeth prosiect
- Naratifau amlblatfform
- Cysylltu technolegau
- Podlediadau, apiau a phosibiliadau eraill
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Caiff sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol eu datblygu a'u hymestyn fel rhan allweddol o'r modiwl hwn. Gan eu bod yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn datblygu lefel uchel o sgiliau cyfathrebu. Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu clywedol wrth greu gwefannau a blogiau, ac wrth gyfathrebu gyda'u cynulleidfa. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn rolau a ddiffinnir yn broffesiynol mewn gweithdai a chynyrchiadau amblatfform, ac felly yn ennill ymdeimlad o gynyrchiadau proffesiynol ac amgylcheddau creu cynnwys. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect cyfryngol, gan ddatrys problemau technolegol a chreadigol. |
Gwaith Tim | Mae'r modiwl yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd cydweithio agos a gwaith tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn gofyn am feirniadaeth o bob maes o gynhyrchu, o gynllunio i olygu ac i ddosbarthu. Ar ben hynny, mae'n ofynnol bod myfyrwyr yn trafod y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer asesiadau yn y cyfnod cyn-gynhyrchu. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hannog i addasu eu gwaith mewn ymateb i'r asesiad hwn. Mae'r broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain yn gyson. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modd o ddysgu yn y modiwl hwn. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd sgiliau cyn-gynhyrchu yn cael ei ddatblygu drwy'r cenhedlu a chynllunio o gynyrchiadau amlblatfform. Bydd sgiliau cynhyrchu camera sengl yn cael ei ddatblygu i lefel newydd, yn ogystal â darlledu byw a chyhoeddi podlediadau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eu dealltwriaeth o feddalwedd a chaledwedd perthnasol. |
Sgiliau ymchwil | Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil mewn ystod eang o ddulliau cynhyrchu teledu ac amlblatfform, yn ogystal a chysyniadau beirniadol, damcaniaethol a hanesyddol. Bydd ffilmio, golygu a dosbarthu fideo yn cynnwys ymchwil i systemau a gweithdrefnau technegol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathrebu ar-lein. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6