Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 10 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio Critigol (3000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Critigol (3000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Trafod hanes darlledu yng Nghymru gan seilio'r dadleuon ar rychwant eang o ffynonellau hanesyddol.
2. Dangos eu gallu i ymdrin a'r cysyniad genedligrwydd yng nghyd-destun darlledu.
3. Dadansoddi a gwerhuso'r berthynas rhwng darllwdu a'r genedl.
4. Ysgrifennu gwaith academaidd sy'n dangos ol galluoedd gwerthusol a dadansoddol.
Nod
Cyfwynir y modiwl hwn fel rhan o ailstrwthuro'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Dysgir y modiwl ar y cyd a'r modiwl cyfatebol ar Lefel 3 ond asesir y modiwl yn wahanol ac mae'r canlyniadau dysgu hefyd yn amrywio.
Disgrifiad cryno
Mae'r hanesydd, y Dr. John Davies, wedi dadlau bod gan darlledu rol ganolog ac anhepgor ym mywyd diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol Cymru. Fe fydd y modiwl hwn yn trafod y cysyniad hwn trwy gynnig astudiaeth a gorolwg hanesyddol o ddarlledu a'r genedl Gymreig. Ymhlith y testunau a drafodir bydd y syniad o genedligrwydd, hanes darlledu (yn arbenning yn yr iaith Gymraeg) a'r cyd-berthynas rhwng y ddau.
Cynnwys
- Diffinio'r genedl
- Diffinio cenedligrwydd
- Dechreadau darlledu yng Nghymru
- Darlledu wedi'r rhyfel a dyfodiad y teledu
- Teledu masnachol yng Nghymru
- Yr ymgyrch dros y bedwaredd sianel
- Cymru a'r Rhyngrwyd
- Polisi darlledu yng Nghymru
- Y Wladwriaeth a darlledu yng Nghymru
- Dyfodol darlledu yng Nghymru
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymlethdodau wrth geisio ffurfio atebion i'r traethawd a'r deunydd portffolio. |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl ar y portffolio a'r traethawd ar y ffurflenni asesu. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwiliio i ystod eang o ffynonellau, (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau am y traethawd a'r portffolio. |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5