Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 1 x Darlith 1 Awr |
Gweithdy | 10 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Prosiect Ymarferol mewn Gr?p | 50% |
Asesiad Semester | Portffolio o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, a fydd hefyd yn cynnwys adfyfyriad ar y deunyddiadau hynny (2500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Yn lle cyflwyno prosiect mewn grwp fe fydd angen cyflwyno gwaith ysgrifenedig hyd at 2500 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y portfolio yna gellir ail-gyflwyno?r gwaith wedi ei ddatblygu | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. arddangos cyfres o sgiliau dyfeisio prosiect ymarferol, gan ddefnyddio technegau ymchwil perthnasol
2. cydweithio gyda myfyrwyr eraill tuag at nod a bennir ganddynt hwy eu hunain, dan gyfarwyddyd aelodau staff perthnasol
3. arddangos gallu sylfaenol i adfyfyrio ar y broses greadigol o ddyfeisio, trefnu, golygu a chyflwyno deunydd trwy gyfrwng portffolio o ddeunyddiau a gasglwyd ac a ystyriwyd ganddynt wrth baratoi'r prosiect yn y broses gynhyrchu
4. arddangos gallu sylfaenol i gymhwyso'r deunydd dogfennol crai yn y portffolio, a'r osod mewn cyd-destun theoretaidd a/neu hanesyddol priodol.
Nod
Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i'r myfyrwyr i geisio dygymod a'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfrwng cyfuniad o lwyfannu byw a dyfeisiadau eraill megis gwaith fideo ayyb. Fe fydd yn baratoad pwysig ar gyfer gwaith creadigol pellach yn ystod Rhan 2 o'u cwrs gradd.
Disgrifiad cryno
Disgwylir i'r myfyrwyr weithio mewn gr'r, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy'n codi o ganlyniad i gydweithio fel tim. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau a pherfformio byw, ac yn profi eu gallu i addasu eu gweleidgaeth yn ol yr amgylchiadau a'r adnoddau penodol a fydd ar gael iddynt.
Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y gr'r yn y prosiect terfynol, a (ii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.
Cynnwys
Seilir cynnwys y modiwl ar gyfle neilltuol i weithio fel gr'r tuag at gynyrch terfynol a fydd yn waith theatraidd sydd o bosib wedi ei gyd-ddyfeisio gyda'r grwp prosiect cynyrchu Cyfryngau ond nid o reidrwydd. Gan bod y modiwl yn cynnig cyfle posib i gyda-weithio ar brosiect aml-gyfrwng fe fydd y deunydd yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol (perfformiad byw cyhoeddus, dangosiad fideo cyhoeddus, ei bostio ar youtube.com, sesh.tv a.y.b.). At hynny fydd y sesiynnau ymarferol a'r gwaith tuag at yr adfyfyriad ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriadau a thrafodaethau ar waith ymarferwyr allweddol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Fe fydd datblygu sgiliau cyfathrebu yn hanfodol bwysig ar gyer llwyddiant y prosiect ymarferol, o ran (i) cyfathrebu’n llwyddiannus â chynulleidfa trwy ddulliau creadigol, a (ii) cyfathrebu â chyd-aelodau’r grŵp ymarferol wrth ddyfeisio, dosrannu a threfnu’r gwaith. Fe asesir ansawdd y cyfathrebu wrth werthuso pob aseiniad ar gyfer y modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gan fod y modiwl hwn yn un Lefel 1, ni fydd yn cynnig unrhyw gyfarwyddyd ffurfiol tuag at gynllunio gyrfa. Fodd bynnag fel pob math waith creadigol ym maes Theatr, ffilm a theledu, fe fydd yn cynnig profiadau a her neilltuol i fyfyrwyr a all fod o ddefnydd mawr iddynt wrth ystyried cyfeiriad eu gwaith a’u diddordebau yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Fe fydd y Prosiect Ymarferol yn gofyn i’r myfyrwyr gydweithio’n agos â’i gilydd tuag at nod a fydd yn cael ei benderfynu ganddyn nhw eu hunain (mewn cydweithrediad ag aelod o staff). Fe fydd hyn gofyn iddynt ddatblygu medrau datrys problemau creadigol, trefniadol, a thechnegol er mwyn cyrraedd y nod. Fe fydd y sgiliau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith ymarferol gorffenedig. |
Gwaith Tim | Fe fydd datblygu’r gallu i weithio fel tîm yn gwbl allweddol i’r modiwl hwn, Fe asesir y medrau hyn yn uniongyrchol wrth ddyfarnu marc grŵp i’r Prosiect Ymarferol, ac yn anuniongyrchol wrth ystyried trafodaeth y myfyrwyr o’r broses greadigol yn y Portffolio a’r Arholiad Llafar. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe fydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y profiadau ymarferol amryfal y bydd aelodau’r grŵp wedi’u cael yn ystod Semester 1 o’u blwyddyn gyntaf: felly fe fydd yna elfen bwysig o wella a dtablygu eu perfformiad eu hunain yn ystod y modiwl hwn. Fe fydd y modiwl yn gofyn iddynt ddatblygu eu gallu hefyd i adfyfyrio’n ddwysach ar y broses ymarferol nag a wnaed yn y modiwlau 20 vcredyd blaenorol. Fodd bynnag, nid asesir y myfyrwyr ar sail datblygiad o un asesiad i’r llall yn y modiwl hwn,gan fod pob aseiniad yn canoli ar yr un broses ymarferol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd y portffolio a gyflwynir fel rhan o’r modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr ddangos y math o waith ymchwil a gyflawnwyd ganddynt wrth ddyfeisio a datblygu eu prosiect. Fe roddir cyfarwyddyd iddynt yn ystod y sesiynau darlith/seminar a’r tiwtorialau ynglŷn â ffynonellau a dulliau ymchwil priodol. |
Technoleg Gwybodaeth | Nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er y gall y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn elfen bwysig wrth gyflawni gwaith ymchwil i’r prosiect. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4