Module Information

Cod y Modiwl
MTM9840
Teitl y Modiwl
Prif Brosiect
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Myfyrwyr MMath blwyddyn olaf yn unig all ddilyn y modiwl

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ysgrifenedig.  100%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fod wedi arddangos:
1. y gallu i gasglu gwybodaeth yn annibynnol, gan ddefnyddio'r llyfrgell, rhwydwaith cyfrifiaduro ac adnoddau'r rhyngrwyd;

2. y gallu i ddechrau ymchwiliadau, llunio problemau addas ar gyfer yr ymchwiliadau a'u datrys;

3. y gallu i gyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith a wnaed wedi ei baratoi gan ddefnyddio prosesydd geiriau.

Nod

Cynnig profiad i'r myfyriwr o astudio pwnc mewn Mathemateg neu Ystadegaeth yn annibynnol.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyriwr MMath blwyddyn olaf i ddilyn ymchwiliadau mathemategol neu ystadegol gan weithio mor annibynnol a phosibl o gyfarwyddyd uniongyrchol, ac i baratoi adroddiad cydlynol o'r ymchwiliadau. Dewisir y testun neilltuol mewn ymgynghoriad a goruchwylydd, a bydd y myfyriwr yn cyfarfod a'r goruchwylydd am ddwy awr yr wythnos ar y mwyaf. Prif bwrpas y tiwtorialau yma yw i sicrhau nad yw datblygiad y prosiect yn cael ei amharu gan anawsterau neu gamddealltwriaeth ac i wneud awgrymiadau fel bo'n briodol.

Cynnwys

Bydd y testun a'r deunyddiau adnoddau yn cael ei drefnu mewn ymgynghoriad a'r goruchwylydd.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7