Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 33 x Darlithoedd 1 Awr |
Ymarferol | 11 x Sesiynau Ymarferol2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Ymarferol Arholiad Ymarferol 2 awr, lle caiff ymgeiswyr ddefnyddioi nodiadau (50%); adroddiad arolwg (50%) Arholiad Ymarferol 2 awr, lle caiff ymgeiswyr ddefnyddioi nodiadau (50%); adroddiad arolwg (50%) | 100% |
Asesiad Semester | Gwaith Cwrs | 40% |
Asesiad Semester | Adroddiad Arolwg | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hyn, dylai'r myfyrwyr allu:
Gweithredu'r theori ar gyfer samplu meidraidd;
Cyfrifo meintiau'r samplau sydd eu hangen er mwyn cyflawni targedau penodol;
Llunio samplau o fath addas ar gyfer amryw o boblogaethau;
Llunio holiadur er mwyn casglu gwybodaeth o ansawdd da;
Casglu, coladu, cyflwyno, dadansoddi a dehongli data arolwg sampl.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwerthfawrogiad i'r myfyriwr o werth theori ystadegol ynghyd a'r anawsterau sy'n gysylltiedig a chymhwysiad ymarferol y syniadau yma. Bydd y myfyriwr yn ennill profiad o weithio fel aelod o dim, cynllunio a threfnu arolwg sampl, creu holiadur, trin a dadansoddi data real ac ysgrifennu adroddiad.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyfuno theori samplu gyda phrofiad o gynllunio a chynnal arolwg sampl.
Cynnwys
1. CYFLWYNIAD: Buddion samplu. Yr angen i gynllunio'n drylwyr. Poblogaethau, unedau samplu, fframiau samplu, cynlluniau samplu. Gofyn y cwestiwn cywir er mwyn cael gwybodaeth o'r ansawdd gorau posib.
2. THEORI SAMPLU MEIDRAIDD: Theori hapsamplu syml. Cywiriadau poblogaethau meidraidd. Haenu, Cwotau, Clystyru, dulliau Systematig ac Amlran. Cymharu dyluniadau samplu ar gyfer amcangyfrif cymedrau, cyfansymiau, amrywiannau, cyfrannau. Samplu optimaidd pan mae'r maint llawn neu'r gost wedi'i bennu.
3. CYNLLUNIO AROLWG SAMPL: Diffinio'r broblem, gosod amserlen, penderfynu ar gynllun samplu addas, creu holiadur.
4. RHAI PROBLEMAU: Poblogaethau targed. Diffyg ymateb. Arolygu pynciau sensitif. Poblogaethau natur gwyllt, poblogaethau anodd ei dal/holi. Ol-haenu.
5. DADANSODDI DATA: Gwirio am wallau. Dadansoddiad o dablau newidynnau, cymharu cyfraneddau, dulliau sy'n rhydd o ddosraniad (swm rhengoedd), cyflwyniad eglur o'r canlyniadau.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5