Module Information

Cod y Modiwl
HC33130
Teitl y Modiwl
Cymru a'r Tuduriaid 1530-1603
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Arholiad Semester 3 Awr   (1 x arholiad 3 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 3 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Dangos ymwybyddiaeth o gorff arwyddocaol o ddeunydd hanesyddiaethol ym meysydd cymdeithas, crefydd ac awdurdod yng Nghymru yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.
2. Trin ffynonellau mewn ffordd feirniadol a deall y prif ddatblygiadau yn hanes Cymru yn y cyfnod, gan gynnwys y broses o ganoli awdurdod a'r newidiadau crefyddol yn ystod y rhaniad oddi wrth Rufain.
3. Darllen a dadansoddi testunau eilaidd a gwreiddiol, yn enwedig testunau'r Deddfau Uno, y propaganda Protestanaidd a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod, a'r trafodaethau hanesyddol ar y derbyniad a roddwyd i Brotestaniaeth yng Nghymru.
4. Datblygu'r gallu i werthuso cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol a, ble bo'n briodol, i'w herio.

Disgrifiad cryno

Bwriad y cwrs yw archwilio effeithiau rhai o ddatblygiadau arwyddocaol y cyfnod hwn ar Gymru. Astudir rhai pynciau yn fanwl, gan gynnwys cwestiwn dadleuol yr 'uno' rhwng Cymru a Lloegr, ynghyd a natur ac arwyddocad y berthynas rhwng llinach y Tuduriaid a phobl Cymru. Archwilir yn ogystal natur dylanwad y Dadeni Dysg ar Gymru a'r effeithiau ar yr iaith Gymraeg yn fwyaf arbennig. Rhoddir sylw hefyd i dderbyniad y grefydd Brotestannaidd yn y wlad a cheisir asesu'r graddau y llwyddodd y ffydd newydd ac estron hon i ddadorseddu grym dylanwad ofergoeliaeth a dewiniaeth ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol.

Cynnwys

Darlithoedd:
1. Cyflwyniad i'r cyfnod.
2. Harri Tudur a'r ffordd i Bosworth
3. Harri VII: 'y mab darogan'?
4. Natur y gymdeithas yng Nghymru'r cyfnod
5. Harri VIII: tuag at Uno
6. Yr Eglwys ar drothwy'r Diwygiad
7. Harri VIII a'i Ddiwygiad
8. Y 'Deddfau Uno' 1536-43
9. Effeithiau'r Deddfau Uno
10. Twf y bonedd
11. Edward VI: y bachgen frenin a phlannu Protestaniaeth
12. 'Mari Waedlyd'?
13. Elisabeth I, yr Eglwys Anglicanaidd a Chymru
14. Y Gwrthwynebiad i Eglwys Oes Elisabeth
15. Cymru a'r Dadeni
16. Ofergoeliaeth, dewiniaeth a chrefydd yng Nghymru
17. Llywodraeth oes Elisabeth: effeithiau hir dymor yr Uno
18. Diweddglo: Y Tuduriaid, Cymru a'r Cymry

Seminarau:
Harri Tudur a Chymru
'Uno' Cymru a Lloegr
Y Diwygiad Protestannaidd
Y Dadeni a'r Iaith Gymraeg
Y Tuduriaid a'r Cymry

Nod

I ddatblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r prif ddadleuon ynglyn a'r newidiadau a'r datblygiadau mewn awdurdod a chrefydd yn y cyfnod dan sylw, a'r ffyrdd yr effeithiwyd ar bobl Cymru.
I roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth o gyfnod holl-bwysig yn hanes Cymru lle bu uno gwleidyddol a chyfreithiol a Lloegr, a chyfnod a dystiodd ddatblygiadau pwysig a gyfrannodd at oroesiad hir dymor yr iaith Gymraeg.
I roi cyfle i fyfyrwyr drafod materion yn ymwneud â phropaganda ar ddwy ochr y rhaniad crefyddol, yn ogystal a'r agweddau tuag at yr iaith Gymraeg yng nghyd-destun crefydd ac ysgolheictod.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6