Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 1 x 1,500 o eiriau adroddiad briffio | 100% |
Asesiad Semester | 1 x 1,500 o eiriau adroddiad briffio | 100% |
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn dechrau drwy edrych yn fanwl ar yr elfennau sy’n darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer yr ymdrech cyfredol i hyrwyddo rhagolygon y Gymraeg. Bydd y seminar cyntaf yn canolbwyntio ar ddogfennau strategaeth iaith allweddol Llywodraeth Cymru, yn gyntaf strategaeth y Gymraeg, Iaith Fyw, Iaith Byw (2012-17), ac yn ail y strategaeth addysg Cyfwng Cymraeg. Yna bydd yr ail seminar yn edrych ar oblygiadau Mesur yr Iaith Gymraeg 2011, oedd, ymhlith pethau eraill, yn cynnwys datganiad clir o statws y Gymraeg fel iaith swyddogol a hefyd yn sefydlu rôl Comisiynydd y Gymraeg. Bydd y sesiwn olaf yn camu i lawr o’r lefel genedlaethol i ganolbwyntio ar ymdrechion cynllunio iaith yn lleol i ffafrio’r Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys adfyfyrio ar yr heriau sy’n codi pan fydd ymdrechion yn cael eu gwneud i roi nodau cyffredinol, cenedlaethol ar waith mewn cyd-destunau lleol gwahanol a nodweddir yn aml gan ddemograffeg ieithyddol amrywiol.
Nod
Nod y modiwl yw cynnig cyflwyniad manwl i’r mesurau polisi a deddfwriaethol allweddol sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, ar y lefelau cenedlaethol a lleol, fel rhan o’r ymdrech i gynnal ac adfywio rhagolygon y Gymraeg a datblygu gallu ymhlith y rheini sy’n ei hastudio i werthuso’n feirniadol gryfderau a gwendidau’r mesurau hynny a hefyd archwilio eu harwyddocâd mewn perthynas â themâu cyffredinol fel llywodraethiant cenedlaethol a lleol, gweinyddiaeth gyhoeddus, cyfraith a chyfiawnder, hawliau sifil, adeiladu cenedl a hunaniaeth genedlaethol.
Cynnwys
2. Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 a Chomisiynydd y Gymraeg
3. Cynllunio iaith yn lleol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gallu i gyflwyno eu syniadau a’u dadleuon ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddan nhw’n dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i wneud y defnydd gorau ohonyn nhw. Byddan nhw’n dysgu sut i ddefnyddio’r ffynonellau niferus o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r math gorau o gyfathrebu yn y modd mwyaf manteisiol. Byddan nhw’n dysgu bod yn glir yn eu hysgrifennu a’u siarad ac yn uniongyrchol am nodau ac amcanion. Byddan nhw’n dysgu ystyried yr hyn sy’n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth yn unig. Bydd myfyrwyr hefyd yn gorfod cyflwyno eu hasesiad ar fformat prosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith hwn adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cynigir y modiwl fel darpariaeth DPP y gellir ei defnyddio gan unigolion i hwyluso datblygiad gyrfa broffesiynol |
Datrys Problemau | Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau’n nod canolog i’r modiwl. Wrth baratoi’r asesiad ysgrifenedig bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Caiff gallu myfyrwyr i ddatrys problemau ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddyn nhw: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a ffurfio ateb i’r broblem; ymresymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu problemau’n broblemau llai |
Gwaith Tim | Ar gyfer rhai o’r pynciau mae’r modiwl hwn yn eu cwmpasu, bydd seminarau yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bach lle bydd gofyn i fyfyrwyr drafod fel grwp y materion craidd yn ymwneud â’r pwnc seminar. Bydd y trafodaethau dosbarth hyn yn caniatau i fyfyrwyr ymdrin ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae’r modiwl yn anelu at hybu hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cynullydd modiwl a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfoethogi eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd ag ymchwil annibynnol ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau perthnasol |
Rhifedd | D/G |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth o sgiliau penodol i’r pwnc fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau penodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl • Gwerthuso persbectifau cystadleuol • Cymhwyso cysyniadau a fframweithiau cyffredinol mewn perthynas â phroblemau cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol wrth baratoi ar gyfer y sesiynau addysgu a hefyd wrth baratoi'r gwaith i’w asesu. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd disgwyl i fyfyrwyr gyflwyno’r gwaith a asesir mewn fformat prosesydd geiriau drwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Hefyd anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau o wybodaeth ar y we, yn ogystal â cheisio ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7