Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 11 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 10 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Briffio pennawd 1,500 e Neu 2 Erthygl yn mynegi Barn 750 e | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Papur Briffio pennawd (1,500 o eiriau) | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Dyddiadur myfyriol (3000 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Briffio pennawd 1,500 e Neu 2 Erthygl yn mynegi Barn 750 e OR two (2) Opinion Articles (750 words each) | 25% |
Asesiad Semester | Papur Briffio pennawd (1,500 o eiriau) | 25% |
Asesiad Semester | Dyddiadur myfyriol (3000 o eiriau) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod ac egluro goblygiadau gwleidyddiaeth ryngwladol digwyddiadau diweddar yn y byd sy'n cael eu hadrodd yn y cyfryngau.
Dangos gwybodaeth empiraidd o ystod o bynciau datblygol neu sy'n digwydd yn fynych ac sydd yn berthnasol i wleidyddiaeth ryngwladol.
Adnabod ac egluro cryfderau a gwendidau adroddiadau yn y cyfryngau ac erthyglau barn, o ran eu cynnwys a'u rhesymeg.
Dadansoddi a beirniadu'r rhagdybiaethau sy'n sail i adroddiadau a barn sy'n ymddangos yn y cyfryngau.
Gwerthuso a llunio syniadau ar gyfer gwella'r modd y mae digwyddiadau yn y byd yn cael eu hadrodd a'u dadansoddi mewn gwahanol gyfryngau.
Disgrifiad cryno
Mae 'Y Tu Ol i’r Penawdau' wedi'i gynllunio i ddyfnhau eich dealltwriaeth o natur y berthynas rhwng gwleidyddiaeth ryngwladol a'r cyfryngau. Prif nod y modiwl yw eich annog a'ch hyfforddi i drin adroddiadau gwleidyddol yn y cyfryngau mewn modd beirniadol. Bydd y modiwl yn eich annog i ystyried cwestiynau megis: Sut y mae gwahanol actorion yn defnyddio'r cyfryngau fel arf wleidyddol er mwyn dylanwadu ar gynulleidfaoedd targed a chyfleu negeseuon a gwerthoedd? Beth yw rol y cyfryngau mewn ymgyrchoedd gwleidyddol? Pam fo rhai straeon rhyngwladol yn cyrraedd y penawdau tra bod eraill yn cael eu hesgeuluso gan y wasg?
Cynnwys
Mae'r modiwl yn cyfuno'r elfen leol gyda'r elfen rhyngwladol ac yn rhoi'r cyfle i chi gyfarfod llu o newyddiadurwyr, lobiwyr, actifyddion ac academyddion sydd a blynyddoedd o brofiad yn y maes gwleidyddol – a hynny dros y byd i gyd. Tra bod gan rhai o'r unigolion profiadau o adrodd ar ddigwyddiadau gwleidyddol a byd-eang o bwys, megis cwymp Wal Berlin, newyn yn Ethiopia a Rhyfel y Gwlff, mae gan eraill brofiad uniongyrchol o lobio ac ymgymryd ag ymgyrchu gwleidyddol yng Nghymru. Mae'r modiwl yn rhoi'r cyfle i chi gyfarfod a siaradwyr Cymraeg sydd wedi cael dylanwad ar wleidyddiaeth mewn amryw ffyrdd.
Yn ogystal a chyfarfod ag ystod o unigolion, mae'r modiwl hefyd y rhoi blas i chi o beth yw bod yn newyddiadur neu newyddiadurwraig. Fel rhan o'r modiwl, cewch y cyfle i fynychu gweithdy a drefnir ar y cyd gyda BBC Cymru. Yn ystod y gweithdy hwn, cewch y cyfle i greu 'pecyn' newyddiadurol gyda newyddiadurwyr BBC Cymru. Prif amcan y gweithdy yw rhoi'r cyfle i chi ddysgu am agweddau o wleidyddiaeth a newyddiaduriaeth na ellir dysgu amdanynt mewn darlithoedd a seminarau, megis y penderfyniadau a'r dewisiadau golygyddol y mae'n rhaid i newyddiadurwyr eu hwynebu a hwythau ynghanol argyfyngau ac yn gweithio o dan bwysau.
Yn fras, mae'r modiwl wedi drefnu yn ol tri prif thema. Yn gyntaf, bydd y modiwl yn eich cyflwyno i'r weithred o lobio gwleidyddol, sef y broses o geisio dylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan swyddogion llywodraethol. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn eich hannog chi i ystyried y modd y mae'r cyfryngau wedi cyfrannu at ymgyrchoedd gwleidyddol diweddar megis Refferendwm yr Alban yn 2014 a Refferendwm 'Brexit' yn y DU sy'n digwydd yn awr.
Bydd ail rhan y modiwl yn trafod natur y berthynas rhwng gwleidyddiaeth ryngwladol a'r cyfryngau mewn cyd-destun hanesyddol, ac yn eich cyflwyno i'r modd y mae'r wasg wedi chwarae rol mewn digwyddiadau rhyngwladol yn hanesyddol. Edrychir yn benodol ar rol hanesyddol y wasg yn ystod cyfnodau o ryfel a heddwch. Yn ystod y rhan hwn, cynhelir sesiynau yn y Llyfrgell Genedlaethol lle bydd cyfle i chi wylio adroddiadau newyddiadurol a gwneud y mwyaf o adnoddau'r llyfrgell.
Bydd drydedd rhan y modiwl yn trafod natur y berthynas rhwng gwleidyddiaeth ryngwladol a'r cyfryngau mewn cyd-destun cyfoes. Adlewyrchir ar y modd y mae rol y cyfryngau wedi newid dros y blynyddoedd, yn sgil cyfryngau cymdeithasol.
Trefniadaeth y Modiwl
Mae'r modilw yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng darlithoedd a gweithdai. Ceir cyfanswm o 11 darlith, wedi'u cyflwyno unwaith yr wythnos. Ochr yn ochr a'r darlithoedd, ceir deg gweithdy, un yr wythnos
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4