Module Information

Cod y Modiwl
FG35620
Teitl y Modiwl
Prosiect (20 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
PH15720 neu PH15510 a chwblhau Blwyddyn 2 yn llwyddiannus.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adolygiad o'r llenyddiaeth a Chynllun Prosiect.  30%
Asesiad Semester Adroddiad Terfynol  45%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (Yn Gymraeg)  15%
Asesiad Semester Cynnydd Prosiect  10%
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gweithio'n annibynnol ar brosiect penagored.

Chwilio, dadansoddi a dyfynnu lenyddiaeth wyddonol yn briodol.

Paratoi a chyflwyno adroddiad cynhwysfawr erbyn y dyddiad cyflwyno a roddir.

Cyflwyno y gwaith ar lafar.

Disgrifiad cryno

Prosiect yw'r modiwl hwn lle mae myfyrwyr yn ymchwilio i broblem o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Gall natur y broblem fod yn arbrofol, damcaniaethol, dadansoddi data, offer neu fodelu cyfrifiadurol. Mae'r modiwl dwbl ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn Anrhydedd Cyfun a Chynlluniau Gradd Prif bwnc/Is-bwnc.

Mae'r myfyrwyr fel arfer yn gweithio mewn parau neu ar eu pen eu hunain. Bydd pob myfyriwr yn rhoi cyflwyniad ac adroddiad. Mae anghenion labordy, cyfrifiadura, dadansoddi ayb y gwahanol brosiectau yn wahanol, ond fel canllaw dylai cyfanswm yr amser ar y prosiect fod yn 200 awr.

Cynnwys

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwiliad penagored o bwnc Ffiseg penodol. Dylai hyn ganiatau i'r myfyrwyr gymhwyso gwybodaeth a thechnegau y maent wedi'u dysgu yn y cwrs hyd yma. Rhoddir pwyslais ar ddeall a chymhwyso egwyddorion ffiseg sylfaenol.

Disgwylir i fyfyrwyr gynllunio a rheoli rhaglen astudio annibynnol, gydag arweiniad gan eu Goruchwylydd, ac i ysgrifennu adroddiad gwyddonol ffurfiol.

Bydd cyflwyniad llafar yn cael ei roi ar ddiwedd y modiwl i ddangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol y prosiect a'i gyd-destun ehangach.

Bydd goruchwylydd neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r Cynllun Prosiect a'r Cyflwyniad Llafar yn Gymraeg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6