Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 11 x Gweithdai 2 Awr |
Darlith | 11 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig | 70% |
Asesiad Semester | Rhoi gwaith i mewn o Weithdai 1-4 | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ddiwedd y modiwl, dylai myfyriwr fedru:
1. manipiwleiddio rhifau cymhlyg a defnyddio theorem DeMoivre.
2. Defnyddio algorithm rhannu ar gyfer polynomial
3. Deillio unfathiannau yn ymwneud ag israddau polynomial a'i gyfeirnodau
4. Braslunio graffau ffwythiannau syml
5. Esbonio cysyniad ffwythiant gwrthdro
6. Mynegi ffwythiannau mewn termau cyfres pwer
7. Dosbarthu hafaliadau differol yn nhermau gradd, homogenaidd, llinol a chyffredin/rhannol.
8. Adnabod strategaeth datrys ar gyfer hafaliadau differol cyffredin
9. Pennu'r nifer o amodau terfyn sydd eu angen I ddatrys hafaliad differol
10. Gwahanu hafaliadau differol cyffredin gwahanadwy a llinol-homogenaidd gyda cyfrenodau cyson
11. Gosod problemau ffisegol syml megys edwiniad ymbelydrol yn nhermau hafaliadau differol, ar wahan i enwau'r newidyddion a ddefnyddir mewn gwahanol nghyddestunau ffisegol.
Nod
I ddarparu myfyrwyr gyda dealltwriaeth cysyniadaol o algebra megys rhifau cymhlyg, polinomialauau, a ffwythiannau, sydd eu angen i ddeall cysyniadau ffisegol ac i ddatrys problemau ffisegol. I gyflwyno'r cysyniadau o hafaliadau differol cyffredin, a strategaeth datrys sylfaenol ar gyfer yr hafaliadau yma mewn gwahanol cyddestunau ffisegol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn cyflwyno'r algebra sylfaenol sydd ei angen I astudio cysyniadau ffisegol ac i brosesu yn feintiol. Mae hefyd yn cyflwyno hafaliadau differol cyffredin, sy'n gynsail I bynciau megys acwsteg a mecaneg cwantwm.
Cynnwys
Polynomialau: rhannu polynomial, ffwythiannau cymesurol, perthynas rhwng israddau polynomial a'i gyfernodau.
Ffwythiannau o newidydd real: Graffiau o ffwythiannau sylfaenol (polynomia, esbonyddol, logarithmig, trigonometrig, hyperbolig ayyb), ffwythiannau cyfnodol, od- ac eil-ffwythiannau. Gweithrediadau ar ffwythiannau: adio, lluosi, rhannu, cyfansoddiad, asymptot, ffwythiannau gwrthdro.
Cyfres: cydgyfeiriant cyfres. Cyfres pwer.
Dosbarthu hafaliadau differol: gradd, cyffredin vs. rhannol, homogenaidd, llinol.
Hafaliadau gradd-gyntaf gyda newidyddion gwahanadwy. Edwiniad ymbelydrol. Amodau terfyn (e.e. gwerthoedd cychwynol)
Hafaliadau llinol gradd-cyntaf homogenaidd. Dull ffactor integru. Graddau uwch. (Disgyn yn rhydd o awyren)
Hafaliadau anhomogenaidd. Ffwythiant arbennig. Osgileiddiad wedi'i yrru. Achosion arbennig: rhan heterogenaidd yn datrys hafaliad homogenaidd.
Hafaliad differol cyffredin llinol gyda chyfernodau cyson. Polynomial nodweddiadol. Achosion arbennig: israddau dirywiedig. Tonnau sefyll
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Problemau mathemategol i'w datrys yn y gweithdai |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | |
Technoleg Gwybodaeth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4