Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol a?r canrannau a nodir, uchod. | |
Asesiad Semester | Dyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu Dyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu yn olrhain profiad dysgu?r myfyrwyr a?r modd y cymhwysir theori yn ymarferol, yn enwedig mewn perthynas a?r portffolio gorffenedig (1,000 o eiriau). | 10% |
Asesiad Semester | Critique neu adroddiad beirniadol a Critique neu adroddiad beirniadol ar unrhyw dri dull creadigol (ynghyd ag enghreifftiau penodol) a drafodir ar y modiwl. (3,000 o eiriau) | 75% |
Asesiad Semester | Arwain trafodaeth mewn seminar Arwain trafodaeth mewn seminar | 15% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos eu bod wedi dirnad y gydberthynas rhwng ymchwil/darllen a chreadigrwydd.
deall a diffinio'r dulliau cyfansoddi canlynol: cynnwys a thema, cymeriadaeth; cywair; naratif; llais; disgrifio; deialog; ideoleg a rhywedd.
meithrin agwedd ymholgar wrth drafod dulliau cyfansoddi mewn amrywiaeth o destunau llenyddol; cyflwyno'r ystyriaethau hyn, ynghyd a dangos dealltwriaeth o'r dulliau cyfansoddi, mewn dull priodol, yn y tasgau a asesir.
adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy'r berthnasol i'r hanghenion creadigol penodol (sef y portffolio terfynol).
Disgrifiad cryno
Trafodir amrywiaeth o destunau (barddoniaeth a rhyddiaith) er mwyn galluogi myfyrwyr i ymchwilio, adnabod, dadansoddi a thrafod technegau cyfansoddi, a hynny yng nghyd-destun y proses creadigol. Trafodir testunau Cymraeg yn eu cyd-destun llenyddol ehangach, gan gynnwys y cyd-destun Ewropeaidd ac Americanaidd fel y bo'r briodol. Ymhellach, rhoddir arweiniad i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i ddechrau cynllunio eu portffolio creadigol ac i gymhwyso'r dulliau ymchwil a darllen at y prosiect creadigol hwnnw.
Nod
Yn wahanol i CYM0220, CYM0720, CYM0120 a CYM0820 sy'r canolbwyntio ar `greu? ac ar feithrin creadigrwydd, mae pwyslais beirniadol i'r modiwl hwn. Gweler Adran D, isod. Bydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i ddarparu hyfforddiant ymchwil priodol: cyweiriau iaith priodol, cywain ffynonellau a'r defnyddio'r briodol, llunio (troed)nodiadau a llyfryddiaethau, gochel llen-ladrad.
Cynnwys
1. rhagarweiniad
2. cynnwys a thema
3. cymeriadaeth
4. cywair
5. naratif
6. llais
7. disgrifio
8. deialog
9. ideoleg
10. rhywedd
Rhoddir cyflwyniad i bob pwnc mewn darlith; yna cynhelir seminarau er mwyn dadansoddi a thrafod enghreifftiau penodol. Bydd y darlithydd yn darparu enghreifftiau i'r trafod, ond anogir myfyrwyr i adnabod enghreifftiau addas hefyd trwy gyfrwng eu gwaith darllen ac ymchwil annibynnol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Dangos dealltwriaeth o’r dulliau cyfansoddi a’u harwyddocâd yng ngwaith awduron eraill ac mewn perthynas â’u gwaith creadigol eu hunain. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dysgir sgiliau ymchwil, dadansoddi a chymhwyso a fydd yn sylfaen i’w gwaith creadigol y tu hwnt i’r cynllun MA hwn. |
Datrys Problemau | Y gallu i weithio mewn modd cyson a chynyddol ar dasgau beirniadol dros gyfnod estynedig; medru dangos eu bod yn gallu cymhwyso gwedd feirniadol y modiwl at eu gweithgarwch creadigol eu hunain. |
Gwaith Tim | Trafod testunau llenyddol yn feirniadol a pharchu safbwyntiau myfyrwyr eraill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Y gallu i gynhyrchu tasgau beirniadol yn effeithiol, gan gynnwys cymhwyso’r ymchwil/darllen at eu portffolio creadigol eu hunain. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn benodol i’r pwnc. |
Sgiliau ymchwil | Ennill gwybodaeth am ddulliau cyfansoddi drwy ddarllen ac astudio rhychwant o destunau llenyddol. |
Technoleg Gwybodaeth | Y gallu i baratoi, llunio a chyhoeddi testunau electronig; defnyddio BwrddDu AberLearn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7