Module Information

Cod y Modiwl
CC12320
Teitl y Modiwl
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 22 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Un aseiniad  100%
Asesiad Semester Sesiynau tiwtorial: cyfranogaeth weithredol  10%
Asesiad Semester Aseiniad unigol  50%
Asesiad Semester Hyd at 5 aseiniad ymarferol bach  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Disgrifio ac esbonio'r prif wahaniaethau rhwng rhaglennu gweithdrefnol a rhaglennu gwrthrych-gyfeiriadol

2. Dod o hyd i wrthrychau, dosbarthau a dulliau ar sail datganiad problem, a thrwy hynny ddangos y gallu i gymhwyso cysyniadau haniaethau ac amgau.

3. Mapio diagramau achos-defnyddio, dosbarth a dilyniant UML ar go^d gwrthrych-gyfeiriadol.

4. Datblygu rhaglen gwrthrych-gyfeiriadol hanfodol sy'n cynnwys rhyngwyneb defnyddiwr graffigol, a thrwy hynny ddangos y gallu i ddelio a^ rhaglennu syml a yrrir gan ddigwyddiadau.

5. Dangos y gallu i gymhwyso cysyniadau cyfansoddiad, etifeddiad ac amryffurfedd.

6. Dangos, mewn co^d gwrthrych-gyfeiriadol, sut i ymdrin ag amodau gwallau.

7. Dangos, mewn co^d gwrthrych-gyfeiriadol, sut i storio ac adalw data i ac o ffeiliau

Nod

Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar CS12020 Introduction to Programming. Bydd yn edrych ar y modd y caiff y patrwm gwrthrych-gyfeiriadol ei ddefnyddio a’i ymgorffori yn iaith raglennu Java. Bydd yn cael ei ddysgu ar y cyd ag CS10720 – Problems and Solutions, a bydd yn diffinio ac yn defnyddio UML wrth fodelu gofynion a dylunio.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar CS12020 Introduction to Programming. Yn benodol, bydd yn edrych y defnydd o'r patrwm gwrthrych-egyfeiriado, a'i ymgorffori yn iaith raglennu Java. Bydd nodiant UML (Iaith Fodelu Unedig) yn cael eu diffinio a'u defnyddio fel bo'n briodol. Mae'n darparu sylfaen ar gyfer modiwlau Rhan 2 sy'n defnyddio ieithoedd gwrthrych-gyfeiriadol, megis CS21120 - Data Structures and Algorithms, a CS22120 - The Software Development Life Cycle.

Cynnwys

Bydd patrwm dysgu wythnosol y modwil hwn yn cynnwys 2 sesiwn ddysgu 2 awr dan arweiniad darlithydd mewn labordy cyfrifiadura mawr. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i roi cyflwyniadau byr, i'w dilyn gan ymarferion ymarferol a chwisiau perthnasol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael sesiwn diwtorial 1 awr mewn grwpiau bach i wneud ymarferion dylunio a chodio mewn timau.

Wythnos 1 - Gweithdai rhagarweiniol i roi blas o'r gwahanol bynciau a drafodir yn ystod y modiwl: Y syniad o ddosbarth a gwrthrych. Storio data mewn newidynnau achlysuron. Dulliau. Co^d beit (bytecode) a Pheiriant Rhithwir Java. Rhaglenni sy'n rhedeg o offeryn amgylchedd datblygu integredig. Adolygu cysyniadau o semester un a ddefnyddir yn Java: newidynnau, profion amodol, dolenni.
Wythnos 2 - Cysyniadau sylfaenol. Archwilio gwrthrychau a dosbarthau. Diagram dosbarth UML. Newidynnau achlysuron, dulliau a pharamedrau, diagramau gwrthrych. Y berthynas rhwng dosbarthiadau ar modd y'u cynrychiolir mewn diagramau dosbarth. Mapio rhaglen weithredol syml o semester un i raglen Java.
Wythnos 3 - Adolygu cysyniadau sylfaenol. Darllen o'r allweddell. Cyfeiriadau nwl. Rhedeg rhaglenni o'r llinell orchymyn. Sylwadau Javadoc. Confensiynau enwi. Tiwtorial ar ddefnyddio'r dechneg Dosbarthau, Cyfrifoldebau a Chydweithredu.
Wythnos 4 - Mathau a chydraddoldeb. Chwilio, llwytho a chadw. Darllen o ffeiliau, ac ysgrifennu i ffeiliau. Iteriadau dros Gasgliadau Java, araeau Java, diagramau dilyniant UML.
Wythnos 5 - Addaswyr mynediad. Pecynnau a ffeiliau JAR. Yr addasydd sefydlog. Bwrw golwg arall ar haniaethu ac amgau. Cydweddu'r dyluniad a'r modd mae'n cael ei weithredu. Ro^l diagramau achos-defnyddio a'u perthynas a^ diagramau dosbarth a sut maent yn cael eu rhoi ar waith.
Wythnosau 7 ac 8 - Canolbwyntio ar etifeddiad, amryffurfedd, rhyngwynebau a dosbarthiadau haniaethol. Trosreoli'r dull hafalu. Dosbarthiadau o eithriadau.
Wythnosau 9 a 10 - Rhyngwynebau defnyddiwr graffigol. Rhaglennu a yrrir gan ddigwyddiadau. Gwahanu cyfrannau.
Wythnos 11 - adolygu

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu mewn ystyr technegol drwy ddiagramau UML
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Darperir rhagor o wybodaeth ynghylch beth mae peiriannwyr meddalwedd yn ei wneud
Datrys Problemau Datrys sgiliau dylunio a chodio
Gwaith Tim Sesiynau tiwtorial
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun O'r adborth a ddarperir gan staff a chyd-fyfyrwyr trwy'r drefn asesu gan gymheiriaid
Rhifedd Natur y pwnc
Sgiliau pwnc penodol Diagramau UML, sgiliau datblygu co^d, defnyddio amgylcheddau datblygu integredig.
Sgiliau ymchwil Sgiliau cyfrifiadura sylfaenol
Technoleg Gwybodaeth Natur y pwnc

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4