Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Astudiaeth Agored (5,000 gair) | 65% |
Asesiad Semester | 2 Adroddiad Adfyfyriol Astudiaethau Proffesiynol (3,000 gair | 35% |
Asesiad Ailsefyll | Astudiaeth Agored (5,000 gair) | 65% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Adroddiad Adfyfyriol Astudiaethau Proffesiynol (3,000 gair | 35% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol effeithiolrwydd y strategaethau addysgu a dysgu y maent wedi'u harsylwi a'u defnyddio ar draws ystod eang o anghenion dysgu;
Creu perthynas feriniadol rhwng damcaniaethau cymhelliant ag arferion ysgol a dosbarth drwy dynnu ar enghreifftiau o'u harsylwi a'u hymarfer mewn Profiad Ysgol;
Dangos yn feirniadol dealltwriaeth dda o sut mae ymchwil a damcaniaeth yn gallu cael eu defnyddio'n ymarferol drwy ymgymryd a Thraethawd Astudiaeth Agored;
Defnyddi'r llenyddiaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a ddetholwyd ar gyfer y Traethawd Astudiaeth Agored yn feriniadol ac yn gynhwysfawr;
Gwerthuso eu hymarfer proffesiynol eu hunain yn feirniadol drwy dynnu ar eu hathroniaeth eu hunain o addysgu a dysgu yn ogystal a gwersi a arsylwyd a'r rheini a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd ganddynt;
Deall a meddu ar wybodaeth weithredol o ofynion proffesiynol eraill megis dyletswyddau proffesiynol athrawon, ymrwymiadau cyfreithiol athrawon, iechyd a diogelwch, sefydlu perthynas waith da a chydweithwyr proffesiynol a'r angen i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol eu hunain;
Deall a meddu ar wybodaeth weithredol o ystod eang o faterion yn ymwneud ag addysg dysgwyr, gan gynnwys dimensiynau trawsgwricwlaidd megis ABCh, y Cwricwlwm Cymreig, Dinasyddiaeth Fyd-eang a Datblygiad Cynaliadwy;
Monitro eu datblygiad proffesiynol parhaus drwy fyfyrio a gwerthuso'u profiadau eu hunain yn erbyn y Safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Cynnwys
Bydd themau cynnwys yr 11 wythnos (dros ddau semester) yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i hyfforddeion o:
1. Anghenion amrywiol dysgwyr beth bynnag eu dyheadau unigol, eu hamgylchiadau personol neu gefndir diwylliannol, ieithyddol, crefyddol ac ethnig
2. Y nodweddion proffesiynol sydd a'r amcan o gymell ac ysbrydoli dysgwyr a sicrhau eu datblygiad deallusol a phersonol
3. Y fframweithiau statudol sy'n ymwneud a chyfrifoldebau athrawon, gan gynnwys Amddiffyn Plant
4. Y gwerthoedd, amcanion a dibenion a'r gofynion addysgu cyffredinol a geir yn Manteisio i'r eithaf ar ddysgu - gweithredu'r cwricwlwm diwygiedig, y Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru a Sgiliau ar draws y Cwricwlwm
5. Eu cyfrifoldebau dan y Cod Ymarfer AAA i Gymru a sut i geisio cyngor gan arbenigwyr ar fathau llai cyffredin o anghenion addysgol arbennig
6. Gofynion a gweithdrefnau asesu
7. Sut i ddefnyddio TGCh yn effeithiol, i addysgu eu pwnc a chefnogi eu rol broffesiynol ehangach
8. Materion yn ymwneud a chynhwysiad cymdeithasol a chyfle cyfartal
9. Y canllawiau cenedlaethol diweddaraf ar addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang
10. Eu cyfraniad i ddatblygiad ehangach yr ysgol a'r proffesiwn a bod yn ymwybodol o bwysigrwydd diweddaru gwybodaeth broffesiynol, dealltwriaeth a sgiliau yn barhaus a gallu myfyrio ar eu harferion eu hunain
11. Eu hanghenion proffesiynol eu hunain a'r angen i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol parhaus
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn bennaf yn ymdrin a rol yr 'athro myfyriol' o fewn cyd-destun datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd yn canolbwyntio ar gael hyfforddeion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu datblygiad proffesiynol eu hunain. Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i hyfforddeion ymchwilio mewn dyfnder i faes astudio sy'n ymwneud ag addysg dysgwyr mewn ysgolion Uwchradd. Ymhellach, mae'r modiwl yn rhoi cyfle i archwilio, trafod, dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ffactorau dethol sy'n cyfrannu at addysgu a dysgu effeithiol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Drwy weithgareddau gweithdy, bydd yn ofynnol i hyfforddeion rannu profiadau datblygu proffesiynol a chant eu hannog i fynegi eu barn a'u safbwyntiau ar faterion addysgol (heb ei asesu). Mae eu hadolygiad beirniadol o'u datblygiad proffesiynol yn ffurfio elfen allweddol o'r modiwl hwn a chaiff ei asesu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae cryfderau a blaenoriaethau hyfforddeion ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol yn ffurfio elfen o'r Portffolio Datblygiad Proffesiynol. Bydd cwblhau'r PDP yn caniatau i fyfyrwyr ddynodi'n gliriach y dystiolaeth sy'n atgyfnerthu eu cyflawniadau (cryfderau, galluoedd, medrau), eu dyheadau a'u blaenoriaethau datblygiad proffesiynol, a bydd yn eu helpu i gwblhau adran A o’r Proffil Mynediad Gyrfa fydd yn gweithredu fel crynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal a'u paratoi ar gyfer eu Cyfnod Sefydlu. |
Datrys Problemau | Bydd yn ofynnol i hyfforddeion ddatrys unrhyw ddiffygion mewn perthynas a Safonau SAC, drwy adnabod strategaethau a chynlluniau gweithredu priodol. Byddant hefyd yn ystyried y dulliau mwyaf priodol o gymell dysgwyr. |
Gwaith Tim | Bydd hyfforddeion yn ymgymryd a thasgau grwp o fewn y modiwl hwn. Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol drwy drafodaethau grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Yn greiddiol i'r modiwl hwn mae'r cysyniad o ddatblygu'r 'ymarferwr myfyriol' sy'n golygu ei bod bellach yn ddymunol ac yn arfer dda i athrawon gydnabod pwysigrwydd ymgymryd a myfyrio beirniadol mewn perthynas a'u hymarfer proffesiynol. Fel gofyniad, bydd angen i hyfforddeion gyfiawnhau'n feirniadol pa gynnydd sydd wedi'i wneud drwy gydol y cwrs mewn perthynas a Safonau SAC. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd yn ofynnol i hyfforddeion ymgymryd a Thraethawd Hir Astudiaeth Agored ar faes o astudiaethau proffesiynol sy'n cynnwys cymhwyso ymchwil a damcaniaeth i ymarfer. Bydd yn ofynnol i hyfforddeion syntheseiddio a gwerthuso gwybodaeth yn ymwneud a thestun y Traethawd Hir Astudiaeth Agored yn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r We i ddibenion ymchwil a hefyd llunio aseiniadau ar brosesydd geiriau. Datblygu hunanhyder yn y defnydd o TGCh wrth gynllunio a chyflwyno gwersi. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7