Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad Prif Bwnc (1300 gair) | 55% |
Asesiad Semester | Aseiniad Ail Bwnc (700 gair) | 30% |
Asesiad Semester | 2 Detholiad Ymarfer Dysgu (400 gair) | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Prif Bwnc (1300 gair) | 55% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ail Bwnc (700 gair) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Detholiad Ymarfer Dysgu (400 gair) | 15% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o'u prif bwnc/bynciau arbenigol a fydd yn galluogi iddynt eu haddysgu yn hyderus ac yn gywir yn CA3 a CA4 ac ol-16 lle bo'n berthnasol;
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o gynnwys y pwnc a chwricwlwm yr is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3*;
Parhau i gynllunio ar gyfer, addysgu a rheoli eu dosbarthiadau'n effeithiol, gan sicrhau dysgu datblygiadol a disgyblaeth gadarn;
Trafod a dadansoddi'n fanylach sut mae dysgwyr yn dysgu a chynllunio'n unol a hynny;
Dadansoddi dysgu y dysgwyr yn feirniadol drwy dynnu ar amrywiaeth o asesiadau o ystod eang o waith dysgwyr a gallu gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr a chyflwyno adroddiadau cynhwysfawr i rieni;
Tynnu ar arsylwadau gwersi ac addysgu tim (lle bo'n briodol) gyda golwg ar uchafu eu gwybodaeth a'u hyder yn yr is-bwnc methodoleg*
Trafod yn feirniadol sut y maent yn datblygu i fod yn ymarferwyr ystyriol drwy adnabod eu cryfderau a'u hanghenion eu hunain.
- Yn gymwys i’r rheini sy’n cymryd Is-bwnc methodoleg yn unig
Cynnwys
Bydd y themau cynnwys ar gyfer y chwech wythnos yn y brifysgol fel a ganlyn a byddant yn tynnu ar enghreifftiau o adnoddau dysgu ac addysgu sy'n gymwys i addysgu'r prif a'r is-bwnc methodoleg (lle bo'n berthnasol).
Prif Bwnc Methodoleg (8-10 awr/wythnos*)
1. Ol-ystyried profiadau ymarfer dysgu a rhannu arferion da
2. Cwricwlwm y prif bwnc methodoleg yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 a lle bo'n berthnasol, ol-16
3. Y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig, Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang
4. Atgyfnerthu asesu yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 a lle bo'n berthnasol, ol-16, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a Llwybrau Dysgu
5. Y defnydd effeithiol o TGCh gydag unigolion, grwpiau a'r dosbarth cyfan
6. Rhannu strategaethau a phrofiadau rheoli dosbarth
7. Atgyfnerthu cynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy'n heriol ac yn berthnasol i'r holl ddysgwyr
8. Atgyfnerthu addysgu gwersi sy'n strwythuredig, amrywiol, symbylol a rhyngweithiol
9. Datblygu a defnyddio gwaniaethu gan gynnwys y rheini ag AAA ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
10. Dethol a defnyddio strategaethau monitro ac asesu priodol i werthuso a chofnodi cynnydd dysgwyr a defnyddio asesiadau i wella agweddau penodol o addysgu, a gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr
11. Cyflwyniad i'r defnydd o sgiliau addysgu uwch
Is-Bwnc Methodoleg (2 awr/wythnos) (lle bo'n berthnasol)
1. Ol-ystyried profiadau ymarfer dysgu a rhannu arferion da
2. Cwricwlwm yr is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3
3. Atgyfnerthu asesu yng Nghyfnod Allweddol 3
4. Rhannu strategaethau a phrofiadau rheoli dosbarth
5. Atgyfnerthu cynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy'n heriol ac yn berthnasol i'r holl ddysgwyr
6. Atgyfnerthu addysgu gwersi sy'n strwythuredig, amrywiol, symbylol a rhyngweithiol
- Lle nad yw hyfforddeion yn cymryd (fel gyda Gwyddoniaeth yn PA) neu yn dewis (Fel yn PB) Is-bwnc Methodoleg, yna bydd hyfforddeion yn derbyn 10 awr/wythnos yn eu Prif Bwnc Methodoleg. Lle mae hyfforddeion yn cymryd (fel gyda phob pwnc arall yn PA) neu yn dewis (Fel yn PB) Is-bwnc Methodoleg, yna bydd hyfforddeion yn derbyn 8 awr/wythnos yn eu Prif Bwnc Methodoleg.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn atgyfnerthu damcaniaeth ac ymarfer addysgu yn yr ysgol uwchradd drwy waith ar y prif bwnc methodoleg ac addysgu ymarferol.
Caiff hyfforddeion eu harwain ymhellach o ran cynllunio, addysgu ac asesu is-bwnc methodoleg (lle bo'n berthnasol).
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Drwy weithgareddau gweithdy, bydd rhaid i hyfforddeion rannu profiadau datblygiad proffesiynol a chant eu hannog i fynegi eu barn a'u safbwyntiau ar faterion addysgol (heb ei asesu). Mae'r adolygiad beirniadol o'u datblygiad proffesiynol yn elfen allweddol o'r modiwl hwn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae cryfderau a blaenoriaethau hyfforddeion ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol yn ffurfio elfen o'r Portffolio Datblygiad Proffesiynol. Bydd cwblhau'r PDP yn galluogi i fyfyrwyr ddynodi'n gliriach y dystiolaeth sy'n profi eu cyflawniadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol, a bydd yn eu helpu i gwblhau Adran A o'r Proffil Mynediad Gyrfa fydd yn gweithredu fel crynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal a'u paratoi ar gyfer eu cyfnod Sefydlu. |
Datrys Problemau | Bydd gofyn i hyfforddeion ddethol y strategaethau addysgu ac asesu mwyaf priodol ar gyfer testunau o fewn eu pwnc. Byddant hefyd yn ystyried yr agweddau at addysgu testunau trawsgwricwlaidd. |
Gwaith Tim | Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol mewn trafodaethau grwp |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol mewn trafodaethau grwp. Caiff hyfforddeion eu hannog i archwilio eu profiadau Prif bwnc ac is-bwnc (lle bo'n berthnasol) yn eu Portffolio Datblygiad Proffesiynol |
Rhifedd | Bydd y sgil allweddol hwn yn cael sylw mewn rhai pynciau megis gwyddoniaeth. |
Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau sy'n ymwneud ag addysgu'r prif bwnc methodoleg |
Sgiliau ymchwil | Bydd yn ofynnol i hyfforddeion syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol gwybodaeth yn ymwneud a materion perthnasol wrth addysgu eu prif a/neu is-bwnc (lle bo'n berthnasol). |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r We i ddibenion ymchwil a hefyd llunio'r aseiniad ar brosesydd geiriau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6