Module Information

Module Identifier
YF11310
Module Title
Concwest, Uno a Hunaniaeth : Cymru 1282-1800
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Distance Learning

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Postiadau ar flog  Postiadau ar flog a fydd yn ymateb i’r cyflwyniadau ac yn adolygu eitemau o’r gwaith darllen.  30%
Semester Assessment Traethawd  1 traethawad 2,500 o eiriau  70%
Supplementary Assessment Postiadau ar flog  Postiadau newydd ar flog a fydd yn ymateb i’r cyflwyniadau ac yn adolygu eitemau o’r gwaith darllen  30%
Supplementary Assessment Traethawd  1 traethawd 2,500 o eiriau (cwestiynau newydd)  70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Dangos ymwybyddiaeth o’r deunydd darllen a’r trafodaethau ym maes hanes Cymru 1282-1800.

Myfyrio ar a dadansoddi’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig.

Gweithio’n annibynnol.

Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.

Aims

• Cynnig cyflwyniad i hanes Cymru rhwng 1282 a 1800.
• Annog dealltwriaeth o’r ffyrdd gwahanol mae haneswyr wedi gweld hanes.
• Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio a deall ffynonellau gwreiddiol.
• Paratoi myfyrwyr i astudio hanes Cymru ymhellach.

Content

Cyflwyniadau ar ffurf fideo/mp3/pdf; ar gyfer pob testun ceir cyflwyniad i ffynhonnell (neu ffynonellau) yn ogystal â chyflwyniad cyffredinol.
1. a) Concwest Edward I; b) Cestyll Edward I.
2. a) Byw gyda’r Goncwest; b) Casgliad o Ohebiaeth o’r Calendar of Ancient Correspondence Concerning Wales.
3. a) Gwrthryfel Glyndŵr; b) Llythyr Pennal a Chronicl Adda Brynbuga.
4. a) Harri Tudur: Mab Darogan?; b) Cerddi Brud.
5. a) Harri VIII a’r Deddfau Uno; b) y Deddfau Uno.
6. a) Cymru a’r Dadeni Dysg; b) William Salesbury, Oll Synnwyr Pen Kembero Ygyd
7. a) Cymru a’r Diwygiad Protestannaidd; b) Eglwysi a’r Beibl.
8. a) Rhyfel Cartref; b) Llythyrau.
9. a) Addysg a Llythrennedd; b) Welsh Piety.
10. a) Y Diwygiad Methodistaidd; b) Llythyrau Howel Harris.
11. a) Twf Radicaliaeth Wleidyddol; b) Richard Price, Cariad at ein Gwlad.
12. a) Creu Cymreictod; b) Elfennau o Ddiwylliant Cymreig.

Brief description

Nod yr astudiaeth hon ar Gymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themâu hanes Cymru cyn datblygiad diwydiant sylweddol. Ceisir olrhain prif ddatblygiadau yn hanes y wlad o goncwest Edward I yn y drydedd ganrif ar ddeg hyd at yr arwyddion cynnar o radicaliaeth wleidyddol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Trwy gydol y cwrs, rhoddir sylw i ddyheadau diwylliannol y Cymry, gan geisio nodi'r elfennau o newid a pharhad a brofwyd yn y cyd-destun hwn.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number
Communication Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llythrennedd myfyrwyr drwy’r blog a’r traethawd yn ogystal â thrwy negeseuon e-bost, sgyrsiau ffôn
Improving own Learning and Performance Bydd cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu dealltwriaeth a’u dysgu yn raddol ar eu blog
Information Technology Bydd myfyrwyr yn defnyddio TG wrth gael mynediad i’r modiwl, wrth baratoi, trafod a chyflwyno deunydd
Personal Development and Career planning Datblygir sgiliau ymchwil, datrys problemau a chyfathrebu fydd yn baratoad ar gyfer gyrfa yn y dyfodol
Problem solving Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau hanesyddol
Research skills Bydd gofyn i fyfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y traethawd a’r blog
Subject Specific Skills Datblygu ymwybyddiaeth o ffynonellau priodol a llenyddiaeth hanesyddol yn gysylltiedig ag astudiaeth o’r Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynar.
Team work Bydd fforymau trafod ar gael ond nid asesir hyn yn ffurfiol

Notes

This module is at CQFW Level 4