Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Postiadau ar flog Postiadau ar flog a fydd yn ymateb i’r cyflwyniadau ac yn adolygu eitemau o’r gwaith darllen. | 30% |
Semester Assessment | Traethawd 1 traethawad 2,500 o eiriau | 70% |
Supplementary Assessment | Postiadau ar flog Postiadau newydd ar flog a fydd yn ymateb i’r cyflwyniadau ac yn adolygu eitemau o’r gwaith darllen | 30% |
Supplementary Assessment | Traethawd 1 traethawd 2,500 o eiriau (cwestiynau newydd) | 70% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Dangos ymwybyddiaeth o’r deunydd darllen a’r trafodaethau ym maes hanes Cymru 1282-1800.
Myfyrio ar a dadansoddi’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig.
Gweithio’n annibynnol.
Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.
Aims
• Annog dealltwriaeth o’r ffyrdd gwahanol mae haneswyr wedi gweld hanes.
• Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio a deall ffynonellau gwreiddiol.
• Paratoi myfyrwyr i astudio hanes Cymru ymhellach.
Content
1. a) Concwest Edward I; b) Cestyll Edward I.
2. a) Byw gyda’r Goncwest; b) Casgliad o Ohebiaeth o’r Calendar of Ancient Correspondence Concerning Wales.
3. a) Gwrthryfel Glyndŵr; b) Llythyr Pennal a Chronicl Adda Brynbuga.
4. a) Harri Tudur: Mab Darogan?; b) Cerddi Brud.
5. a) Harri VIII a’r Deddfau Uno; b) y Deddfau Uno.
6. a) Cymru a’r Dadeni Dysg; b) William Salesbury, Oll Synnwyr Pen Kembero Ygyd
7. a) Cymru a’r Diwygiad Protestannaidd; b) Eglwysi a’r Beibl.
8. a) Rhyfel Cartref; b) Llythyrau.
9. a) Addysg a Llythrennedd; b) Welsh Piety.
10. a) Y Diwygiad Methodistaidd; b) Llythyrau Howel Harris.
11. a) Twf Radicaliaeth Wleidyddol; b) Richard Price, Cariad at ein Gwlad.
12. a) Creu Cymreictod; b) Elfennau o Ddiwylliant Cymreig.
Brief description
Nod yr astudiaeth hon ar Gymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themâu hanes Cymru cyn datblygiad diwydiant sylweddol. Ceisir olrhain prif ddatblygiadau yn hanes y wlad o goncwest Edward I yn y drydedd ganrif ar ddeg hyd at yr arwyddion cynnar o radicaliaeth wleidyddol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Trwy gydol y cwrs, rhoddir sylw i ddyheadau diwylliannol y Cymry, gan geisio nodi'r elfennau o newid a pharhad a brofwyd yn y cyd-destun hwn.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llythrennedd myfyrwyr drwy’r blog a’r traethawd yn ogystal â thrwy negeseuon e-bost, sgyrsiau ffôn |
Improving own Learning and Performance | Bydd cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu dealltwriaeth a’u dysgu yn raddol ar eu blog |
Information Technology | Bydd myfyrwyr yn defnyddio TG wrth gael mynediad i’r modiwl, wrth baratoi, trafod a chyflwyno deunydd |
Personal Development and Career planning | Datblygir sgiliau ymchwil, datrys problemau a chyfathrebu fydd yn baratoad ar gyfer gyrfa yn y dyfodol |
Problem solving | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau hanesyddol |
Research skills | Bydd gofyn i fyfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y traethawd a’r blog |
Subject Specific Skills | Datblygu ymwybyddiaeth o ffynonellau priodol a llenyddiaeth hanesyddol yn gysylltiedig ag astudiaeth o’r Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynar. |
Team work | Bydd fforymau trafod ar gael ond nid asesir hyn yn ffurfiol |
Notes
This module is at CQFW Level 4