Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminars / Tutorials | 8 x 3 awr o weithdai seminar/ymarferol wythnosol |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | a) Cyflwyniad Ymarferol mewn Grŵp Caiff y cyflwyniad ei ddogfennu er mwyn ei ddangos ir arholwr allanol ai gadw fel rhan o gofnodion y myfyriwr yn yr Adran. Fe ddefnyddir system o ddatgrynhoi marciau grŵp wrth asesur cyflwyniad hwn.) (Gofynnir i'r myfyrwyr ymrannu'n grwpiau bychain er mwyn llunio a chyflwyno perfformiad rhyngweithiol byr o 30 munud ar thema rhagbenodedig;. | 50% |
Semester Assessment | b) Sylwebaeth feirniadol ar gyfraniad yr unigolyn i'r prosiect gorffenedig: 2,000 o eiriau | 25% |
Semester Exam | 7 Hours c) Cyflwyniad Unigol Gofynnir i fyfyrwyr unigol i gyflwyno ymarfer unigol sydd yn gysylltiedig gyda'r gwaith grŵp. Gall hwn fod yn ymarfer rhagbaratoadol neu yn un olsyllol wedi'r gwaith grŵp. | 25% |
Supplementary Assessment | Rhaid ailgyflwyno'r gwaith a fethwyd. a) Cyflwyniad Ymarferol Grŵp (Gofynnir i'r myfyriwr ymgynnull grŵp er mwyn ail sefyll yr asesiad er mwyn llunio a chyflwyno perfformiad rhyngweithiol byr o 30 munud ar thema rhagbenodedig) | 50% |
Supplementary Assessment | b) Sylwebaeth feirniadol ar gyfraniad yr unigolyn i'r prosiect gorffenedig: 2,000 o eiriau | 25% |
Supplementary Exam | 7 Hours c) Cyflwyniad Unigol Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno ymarfer unigol | 25% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Arddangos dealltwriaeth o strategaethau a thechnegau cymhleth ar gyfer dyfeisio digwyddiad perfformiadol / cyfryngol / rhyngweithiol, gan gynnwys arddangos meistrolaeth o fethodolegau storiol sy'r briodol ar gyfer y rhychwant o gyfryngau dyfeisio a chyflwyno yn y digwyddiad hwnnw;.
2. Arddangos gallu i gymryd cyfrifoldeb dros weithredu egwyddorion methodolegol a chynrychioliadol mewn ffordd drefnus ac ystyrlon, a defnyddio sgiliau datblygedig wrth gyflawni ymchwil annibynnol a chreadigrwydd gweithredol a fydd yn arwain at gyflwyniad ymarferol;
3. Arddangos gallu i weithio'r effeithiol a chydweithredol mewn sefyllfa gymunol, a fydd yn cynnwys gweithredu a goruchwylio, cymryd cyfrifoldeb wrth reoli a llywio profiad unigol a phrofiad gr'r mewn sefyllfa greadigol;
4. Gwerthuso strategaethau a thechnegau cyfansoddi, strwythuro, llwyfannu a chyflwyno wrth greu estheteg berfformiadol / gyfryngol unigol;
Aims
a) i gyflwyno ac archwilio ystod eang o strategaethau a methodau o greu a chyflwyno deunydd ymarferol (gwaith corfforol byw a/neu waith a gyflwynir trwy'r cyfryngau). Fe fydd y strategaethau a methodau hyn yn hyrwyddo prosesau cysyniadol, cyfansoddi ac ymarfer;
b) i ddarparu sail ddeallusol ac ymarferol ar gyfer creu gwaith perfformio a chynhyrchu cyfoes trwy gyfrwng cyfres o wahanol fethodau dyfeisio;
c) i ddarparu cyfleoedd i weithredu'r strategaethau cyfansoddiadol a chysyniadol a archwilir yn ystod y gwaith cwrs;
d) i hyrwyddo a galluogi'r broses o lunio, datblygu a chyflwyno darnau o waith perfformiadol a chyfryngol.
Brief description
Mae hwn yn fodiwl ymarferol a fydd yn gofyn i fyfyrwyr archwilio a gweithredu strategaethau, methodau a thechnegau ar gyfer dyfeisio gwaith perfformio a chynhyrchu. Fe fydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agwedd neilltuol o'r broses ddyfeisio ac yn arwain at greu a chyflwyno darn byr o waith ymarferol a fydd yn arddangos yr egwyddorion a archwilir.
Content
Wythnos 1
1. Dyfeisio: diffiniadau a dulliau ymarfer
2. Y Storiol, y Testunol a'r Perfformiadol
Wythnos 2
3. Safleoedd, llefydd a lleoliadau
4. Dramatwrgiaeth I: natur a ffynonellau deunydd dramataidd
Wythnos 3
5. Dramatwrgiaeth II: trefnu a golygu'r deunydd dramataidd
6. Dramatwrgiaeth III: cymalu a chyfryngu'r deunydd a gyfansoddwyd
Wythnos 4
7. Trosglwyddo rhwng Cyfryngau
8. Cyfansoddi I: gosod a threfnu'r perfformiad / cynhyrchiad mewn gofod
Wythnos 5
9. Cyfansoddi II: gosod a threfnu'r perfformiad / cynhyrchiad mewn amser
10. Pa mor Bresennol?: Y Gynulleidfa
Yn cyd-redeg gyda'r uchod mi fydd myfyrwyr yn cael 4 awr dros 5 wythnos o hyfforddiant arbenigol a fydd yn adlewyrchu'r pynciau a ddysgir yn ystod y gweithdai dwys uchod
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Ni ddatblygir medrau rhifyddol fel rhan o'r modiwl hwn. |
Communication | Disgwylir i'r myfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn trwy ofyn iddynt ystyried a dangos proses a chanlyniadau ymchwil yn yr aseiniadau. |
Improving own Learning and Performance | Fe fydd y modiwl yn cymell myfyrwyr i ddatblygu ac i werthuso allbwn creadigol personol effeithiol a gwreiddiol. Gofynnir iddynt hefyd i asesu perthnasedd yr arbrawf ymarferol yn y modiwl hwn ar gyfer eu gwaith pellach. |
Information Technology | Ni ddatblygir medrau TG fel rhan o'r modiwl hwn. |
Personal Development and Career planning | Fe rydd y modiwl gyfle i'r myfyrwyr wylio gwaith ymarferwyr gwadd. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu medrau perfformio a chymathu egwyddorion ymarferol a all fod o ddefnydd mewn gyrfa broffesiynol. Nid asesir yr agweddau proffesiynol hyn fel rhan o'r modiwl, fodd bynnag. |
Problem solving | Fe fydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy eu herio i geisio ymgorffori'r deunydd a'r egwyddorion a gyflwynwyd ac wrth geisio cwrdd â'r brîff rhagosodedig yn yr aseiniad ymarferol ac ysgrifenedig. |
Research skills | Fe fydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy ofyn iddynt ystyried a dangos proses a chanlyniadau ymchwil yr aseiniadau. |
Subject Specific Skills | Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu ac ymestyn medrau yn ymwneud ag arddangos gwybodaeth wedi'i ymgorffori; cymhwyso strategaethau a thechnegau cyfansoddiadol ar gyfer cyflwyno sgiliau cyfathrebu personol; a gweithredu creadigol soffistigedig. |
Team work | Fe fydd y modiwl hwn yn cymell myfyrwyr i weithio gyda'i gilydd ac i ddatblygu strategaeth effeithiol wrth gydweithio â'u cyd-fyfyrwyr tuag at y nod creadigol. Fe fydd ansawdd y gwaith grŵp yn rhan allweddol bwysig o lwyddiant y cyflwyniad ymarferol. |
Reading List
Recommended TextBarba, E. (1991) A Dictionay of Theare Anthropology Routledge/CPR Primo search Etchells, Tim (2000) Certain Fragments: Contemporary Performance and Forced Entertainment Routledge Primo search Garoian, C.R. (1999) Performing Pedagogy State University of New York Press Primo search Goldberg, R (2001) Performance Art Thames & Hudson Primo search Gregory, R.L. (1998) Eye and Brain: The Psychology of Seeing Oxford University Press Primo search Grotowski, Jerzy (1969) Towards a Poor Theatre Methuen Primo search Heathfield, A. (2000) Small Acts: Performance, the Millenium and the Marking of Time London: Black Dog Press Primo search Howell, A. (1999) The Analysis of Performance Art Amsterdam: Harwood Academic Primo search Kaye, Nick (2000) Site-specific art: performance, place and documentation Routledge Primo search Levin, Thomas Y., Frohne, Ursula and Weibel, Peter (eds.) (2002) CTRL: Rhetorics of Suveillance from Bentham to Big Brother MIT Press Primo search O'Pray, Michael (ed.) (1996) The British Avant-garde Film, 1926-1995: An Anthology of Writings University of Luton Primo search Rogoff, I. (2000) Terra inferma: geography's visual culture Routledge Primo search Schneider, R. and Cody, G. (2001) Re: Direction Routledge Primo search Sitney, P. Adams (2002) Visionay Film: the American Avant-Garde, 1943-2000 Oxford University Press Primo search Sterritt, David (ed.) (c.1998) Jean-Luc Godard: Interviews University Press of Mississippi Primo search Stevenson, jack (c.2003) Dogme uncut: Lars von Trier, Thomas Vinterburg, and the gang that took on Hollywood Santa Monica Press Primo search Wees, William C. (1992) Light Moving in Time: Studies in the Visual Aesthetics of Avant-Garde Film University of California Press Primo search Zarrilli, Phillip (1995) Acting (re) Considered Routledge Primo search
Notes
This module is at CQFW Level 7