Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 5 x 1 awr mewn grwp |
Seminarau / Tiwtorialau | 3 x 1 awr unigol |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Naill ai Traethawd Hir 20,000 o eiriau i gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth. Neu (i) Cynhyrchiad Perfformiadol neu Gyfryngol (50%); a (ii) Traethawd Beirniadol 10,000 o eiriau i gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth (50%). Disgwylir i gynhyrchiad perfformiadol neu gyfyngol byw cyfwerth a 10,000 o eiriau bara am rhwng 30 a 40 munud o hyd. Bydd pob cynhyrchiad perfformiadol byw yn cael ei recordio ar gyfer cofnodion yr Adran. | 100% |
Asesiad Ailsefyll | Naill ai Traethawd Hir 20,000 o eiriau i gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth. Neu (i) Cynhyrchiad Perfformiadol neu Gyfryngol (50%) a fydd yn para am 30 a 40 munud o hyd; a (ii) Traethawd Beirniadol 10,000 o eiriau i gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth (50%). | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Traethawd Hir
1. Ffurfio a mynegi cwestiwn ymchwil ynghyd a chynllunio a gweithredu prosesau ymchwil cadarn.
2. Dadansoddi canlyniadau ymchwil, gan gyfleu dealltwriaeth o'u pwysigrwydd a'u harwyddocad (gan gynnwys eu cyfyngiadau).
3. Perthnasu'r gwaith ymchwil i'w gyd-destun academaidd, gan gynnwys ymdriniaeth feirniadol o faes damcaniaethol y diwydiannau creadigol.
Cynhyrchiad perfformiadol/cyfryngol a Thraethawd Beirniadol
1. Ffurfio a mynegi cwestiwn ymchwil ynghyd a chynllunio a gweithredu prosesau ymchwil cadarn, gan gynnwys meistroli'r strategaethau angenrheidiol ar gyfer llwyfannu perfformiad neu gynhyrchu gwaith cyfryngol yng nghyd-destun cynhyrchiad 'ymarfer-fel-ymchwil'.
2. Dangos canlyniadau creadigol sydd wedi eu mynegi drwy ymarfer a hynny o fewn traddodiad ymchwil fel ymarfer, gan gyfleu dealltwriaeth o'u harwyddocad.
3. Gwerthuso'r canlyniadau hyn mewn perthynas a gwybodaeth ysgolheigaidd, gan gynnwys gwaith ymarferol, ac mewn perthynas a maes damcaniaethol y diwydiannau creadigol.
Cynnwys
1) Datblygu'r cynnig ymchwil
2) Cynllunio a gweithredu'r prosiect ymchwil
3) Agweddau ar gynllunio cynhyrchiad perfformiadol neu gyfryngol
4) Cofnodi a dogfennu'r broses ymchwil
5) Gweithdy ysgrifennu
Fe gaiff pob myfyriwr tri sesiwn arolygu unigol gyda'r tiwtor arolygu yn ystod y cyfnod hwn.
Nod
1) Datblygu'r cynnig ymchwil
2) Cynllunio a gweithredu'r prosiect ymchwil
3) Agweddau ar gynllunio cynhyrchiad perfformiadol neu gyfryngol
4) Cofnodi a dogfennu'r broses ymchwil
5) Gweithdy ysgrifennu
Fe gaiff pob myfyriwr tri sesiwn arolygu unigol gyda'r tiwtor arolygu yn ystod y cyfnod hwn.
Disgrifiad cryno
1) Datblygu'r cynnig ymchwil
2) Cynllunio a gweithredu'r prosiect ymchwil
3) Agweddau ar gynllunio cynhyrchiad perfformiadol neu gyfryngol
4) Cofnodi a dogfennu'r broses ymchwil
5) Gweithdy ysgrifennu
Fe gaiff pob myfyriwr tri sesiwn arolygu unigol gyda'r tiwtor arolygu yn ystod y cyfnod hwn.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd pob myfyrwyr yn meithrin sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon ysgolheigaidd yn ystod y modiwl hwn ac fe fydd y sawl sydd yn dewis cyflwyno rhan o'r modiwl drwy ymarfer hefyd yn meithrin sgiliau cyfathrebu drwy gynhyrchiad perfformiadol neu gyfryngol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y sgiliau trosglwyddadwy yn gyfle i ddatblygu sgiliau personol a chynllunio gyrfa. Gall y prosiect ymchwil fod yn gyfle i'r myfyriwr ystyried eu dewisiadau gyrfa ymhellach. |
Datrys Problemau | Sgiliau datrys problemau deallusol, damcaniaethol ac ymarferol; adnabod strategaethau priodol a gweithdrefnau effeithiol i wneud hynny. |
Gwaith Tim | Dysgir o leiaf 5 seminar ar y cyd, ble disgwylir i bob myfyriwr gyfrannu'n feirniadol ac adeiladol at y gwaith. Yn achos myfyrwyr sydd yn gwneud gwaith cynhyrchu (perfformiadol neu gyfryngol), gellir cydweithio mewn tim i gynhyrchu'r elfen hon (o dan y cyfyngiadau a nodir uchod) |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir y sgiliau hyn yn ystod y broses o baratoi a chwblhau'r gwaith ymchwil. Rhaid wrth hunanddisgyblaeth, hunan-ysgogiad, hunanfeirniadaeth a sgiliau rheoli amser ar gyfer hyn |
Rhifedd | Gall myfyrwyr ddefnyddio gwybodaeth rifyddol yn eu hymchwil unigol, os bydd testun a methodoleg eu hymchwil yn caniatau. *Asesir os bydd yn greiddiol i'r fethodoleg a ddefnyddir gan y myfyriwr unigol. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Medrau ymchwil annibynnol yn greiddiol i'r modiwl hwn. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith asesedig gan ddefnyddio technoleg gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7