Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlithoedd/Seminar ar ddyfeisio gwaith mewn grwpiau a sesiynau tiwtorial ar Sgiliau Cyflwyno - 10 x 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Os methir yr elfen o waith Portffolio neur Arholiad Llafar uchod, rhaid ail-gyflwynor elfennau hynny. Os methir yr elfen o waith Prosiect Ymarferol, fe ellir gosod traethawd ir myfyrwyr a fydd yn gofyn iddyn nhw adlewyrchu ar enghreifftiau neilltuol o waith amlgyfrwng ar her o gyflwyno gwaith mewn sefyllfa grwp (hyd at 3000 o eiriau) | 100% |
Asesiad Semester | Arholiad Llafar Unigol | 20% |
Asesiad Semester | Prosiect Ymarferol mewn Grwp | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, a fydd hefyd yn cynnwys adfyfyriad ar y deunyddiadau hynny (3000 o eiriau) | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. arddangos cyfres o sgiliau dyfeisio prosiect ymarferol, gan ddefnyddio technegau ymchwil perthnasol
2. cydweithio gyda myfyrwyr eraill tuag at nod a bennir ganddynt hwy eu hunain, dan gyfarwyddyd aelodau staff perthnasol
3. arddangos gallu sylfaenol i adfyfyrio ar y broses greadigol o ddyfeisio, trefnu, golygu a chyflwyno deunydd trwy gyfrwng portffolio o ddeunyddiau a gasglwyd ac a ystyriwyd ganddynt wrth baratoi'r prosiect yn y broses gynhyrchu
4. arddangos gallu sylfaenol i gymhwyso'r deunydd dogfennol crai yn y portffolio, a'i osod mewn cyd-destun theoretaidd a/neu hanesyddol priodol
5. arddangos gallu sylfaenol i werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyd-fyfyrwyr trwy gyfrwng arholiad llafar
Nod
Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gosod her i'r myfyrwyr i geisio dygymod a'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfrwng cyfuniad o lwyfannu byw a defnydd o'r cyfryngau: gan hynny, fe fydd yn baratoad pwysig ar gyfer gwaith creadigol pellach yn ystod Rhan 2 o'u cwrs gradd.
Cynnwys
Fe fydd y deunydd a ddangosir yn cael ei baratoi trwy gyfres o sesiynau gweithdy ymarferol (ymarfer byw a gwaith saethu/golygu fideo a.y.b.) ac yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol (perfformiad byw cyhoeddus, dangosiad fideo cyhoeddus, ei bostio ar youtube.com, sesh.tv a.y.b.).
Disgrifiad cryno
Disgwylir i'r myfyrwyr weithio mewn grwp, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy'n codi o ganlyniad i gydweithio fel tim. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau a pherfformio byw, ac yn profi eu gallu i addasu eu gweleidgaeth yn ol yr amgylchiadau a'r adnoddau penodol a fydd ar gael iddynt.
Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y grwp yn y prosiect terfynol, (ii) trwy arholiad llafar unigol, a (iii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Fe fydd datblygu sgiliau cyfathrebu yn hanfodol bwysig ar gyfer llwyddiant y prosiect ymarferol, o ran (i) cyfathrebu'n llwyddiannus a chynulleidfa trwy dduliau creadigol, a (ii) cyfathrebu a chyd-aelodau'r grwp ymarferol wrth ddyfeisio, dosrannu a threfnu'rgwaith. Fe asesir ansawdd y cyfathrebu wrth werthuso pob aseiniad ar gyfer y modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gan fod y modiwl hwn yn un Lefel 1, ni fydd yn cynnig unrhyw gyfarwyddyd ffurfiol tuag at gynllunio gyrfa. Fodd bynnag fel pob math waith creadigol ym maes Theatr, Ffilm a Theledu, fe fydd yn cynnig profiadau a her neilltuol i fyfyrwyr a all fod o ddefnydd mawr iddynt wrth ystyried cyfeiriad eu gwaith a'u diddordebau yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Fe fydd y Prosiect Ymarferol yn gofyn i'r myfyrwyr gydweithio'n agos a'i gilydd tuag at nod a fydd yn cael ei benderfynu ganddyn nhw eu hunain (mewn cydweithrediad ag aelod o staff). Fe fydd hyn yn gofyn iddynt ddatblygu medrau datrys problemau creadigol, trefniadol, a thechnegol er mwyn cyrraedd y nod. Fe fydd y sgiliau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith ymarferol gorffenedig. |
Gwaith Tim | Fe fydd datblygu'r gallu i weithio fel tim yn gwbl allweddol i'r modiwl hwn. Fe asesir y medrau hyn yn uniongyrchol wrth ddyfarnu marc grwp i'r Prosiect Ymarferol, ac yn anuniongyrchol wrth ystyried trafodaeth y myfyrwyr o'r broses greadigol yn y Portffolio a'r Arholiad Llafar. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe fydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y profiadau ymarferol amryfal y bydd aelodau'r grwp wedi'u cael yn ystod Sester 1 o'u blwyddyn gyntaf: felly fe fydd yna elfen bwysig o wella a datblygu eu perfformiad eu hunain yn ystod y modiwl hwn. Fe fydd y modiwl yn gofyn iddynt ddatblygu eu gallu hefyd i adfyfyrio'n ddwysach ar y broses ymarferol nag a wnaed yn y modiwlau 20 credyd blaenorol. Fodd bynnag, nid asesir y myfyrwyr ar sail datblygiad o un asesiad i'r llall yn y modiwl hwn, gan fod pob aseiniad yn canoli ar yr un broses ymarferol. |
Rhifedd | Ni ddatblygir y medrau hyn yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd y portffolio a gyflwynir fel rhan o'r modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr ddangos y math o waith ymchwil a gyflawnwyd ganddynt wrth ddyfeisio a datblygu eu prosiect. Fe roddir cyfarwyddyd iddynt yn ystod y sesiynau darlith/seminar a'r tiwtorialau ynglyn a ffynonellau a dulliau ymchwil priodol. |
Technoleg Gwybodaeth | Nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er y gall y defnydd o dechnoleg gwybodaeth fod yn elfen bwysig wrth gyflawni gwaith ymchwil i'r prosiect. |
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydAlfreds, Mike (2008) Different Every Night Nick Hern Books Chwilio Primo Barba, Eugenio (1991) A Dictionary of Theatre Anthropolgy - The Secret Arts of the Performer Routledge/CPR Chwilio Primo Barker, Clive (1989) Theatre Games Methuen Chwilio Primo Bartow, Arthur (ed) (2008) Handbook of Acting Techniques Nick Hern Books Chwilio Primo Boal, Augusto (1992) Games for Actors and Non-Actors Routledge Chwilio Primo Chapple, F, and C. Kattrnbelt (eds) (2007) Intermediality in Theatre and Performance Rodopi Chwilio Primo Counsell, C. (1996) Signs of Performance: An Introduction to Twentieth-Century Theatre Routledge Chwilio Primo Crittenden, Roger (2005) Fine Cuts: The Art of European Film Editing Focal Press Chwilio Primo Elwes, Catherine (2006) Video Art: A Guided Tour Chwilio Primo Etchells, T. (1999) Certain Fragments: Contemporary Performance and Forced Entertainment Chwilio Primo Foster, Gwendolyn Audrey and Wheeler Winston-Dixon (2002) Experimental Cinema: The Film Reader Routledge Chwilio Primo Garner, S. (1994) Bodied Spaces: Phenomenology and Performance in Contemporary Drama Cornell University Press Chwilio Primo Grau, Oliver (2008) MediaArtHistories MIT Press Chwilio Primo Jenkins, H. (2006) Convergence Culture New York Chwilio Primo Jones, A. and A. Stephenson (eds.) (1999) Performing the Body/Performing the Text Chwilio Primo Kaye, N. (2000) Site Specifics: Performance, Place and Documentation Routledge Chwilio Primo Lee, John J. Jr. (2005) The Producer's Business Handbook Focal Press Chwilio Primo Musburger, Robert B. Single-Camera Video Production Chwilio Primo Pearson, M. and M. Shanks (2001) Theatre/Archaeology Routledge Chwilio Primo Proferes, Nicholas (2004) Film Directing Fundementals Focal Press Chwilio Primo Schechner, R. (1973) Environmental Theatre New York: Hawthorn Chwilio Primo Schechner, Richard (2002) Performance Studies: An Introduction Routledge Chwilio Primo Watts, Harris (1992) Directing on Camera: A Checklist of Video and Film Technique Aavo Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4