Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 2 x 1 awr darlith yr wythnos (22 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 4 x 1 awr tiwtorial (4 awr) |
Eraill | 2 x 3 awr gweithdai (6 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig. | 50% |
Asesiad Semester | Portffolio datblygu sgiliau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Arddangos hyfedredd wrth gyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar ac wrth weithio mewn grwpiau.
2. Arddangos sgiliau astudio effeithiol, yn cynnwys defnyddio'r llyfrgell.
3. Disgrifio'r rhyngberthynas rhwng y deunyddiau pwnc o fewn i'w cynllun gradd.
4. Arddangos gallu i gymhwyso TG wrth reoli testun, datrys problemau rhifyddol a chasglu a chyflwyno data.
5. Adnabod anghenion datblygu gyrfa a gosod targedau personol ac academaidd.
6. Adnabod gofynion Profiad Gwaith mewn Diwydiant/APL ac amodau ar gyfer cymeradwyo.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn ar gael yn unig i fyfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau FdSc yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Fe'i cynlluniwyd er mwyn rhoi cymorth academaidd a bugeiliol i fyfyrwyr yn ystod eu blwyddyn gyntaf a fframwaith i ddatblygu sgiliau astudio, sgiliau bywyd ac ymwybyddiaeth o yrfa drwyddo, gyda chefnogaeth Cynlluniau Datblygiad Personol. Bydd hefyd o gymorth wrth i fyfyrwyr integreiddio deunyddiau pwnc y cynlluniau. At hyn, bydd yn rhoi'r wybodaeth, y cefndir a'r cymorth angenrheidiol i fyfyrwyr sicrhau lleoliadau gwaith (sy'n rhan hanfodol o'r cynlluniau FdSc).
Cynnwys

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Ysgrifennu mewn cyd-destun academaidd a chyflwyniad llafar |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn cyflwyno'r Rhaglen Datblygu Gyrfa a gofynnir i fyfyrwyr lunio CV yn rhan o'r Portffolio Datblygu Sgiliau. Addasu hyn ar gyfer Profiad Gwaith mewn Diwydiant. |
Datrys Problemau | Defnyddio sgiliau TG wrth gyfrifo drwy daenlenni ac yn y portffolio datblygu sgiliau. |
Gwaith Tim | Cyflwyniad llafar mewn grwp |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd gofyn i'r myfyrwyr weithio'n annibynnol ar gyfer yr aseiniadau; bydd sesiwn cyflwyno ar ddefnyddio adnoddau'r llyfrgell hefyd yn nodwedd. Asesir drwy ddysgu i gyrraedd dyddiadau cau ar gyfer aseiniadau. |
Rhifedd | Gofynnir i fyfyrwyr ddangos hyfedredd sylfaenol mewn TG a sgiliau trafod data. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Canfod gwybodaeth ar gyfer y cyflwyniad ysgrifenedig air portffolio sgiliau. |
Technoleg Gwybodaeth | Gofynnir i fyfyrwyr ddangos hyfedredd sylfaenol mewn TG a sgiliau trafod data. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4