Module Information

Cod y Modiwl
IE30420
Teitl y Modiwl
Patagonia Gyfoes
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 1 awr yr wythnos
Seminarau / Tiwtorialau 1 awr yr wythnos
Dadansoddi Llwyth Gwaith Paratoi ar gyfer/gwaith yn dilyn darlithoedd: 20 awr Paratoi ar gyfer/gwaith yn dilyn seminar: 20 awr Ysgrifennu prosiect: 60 awr Paratoi ar gyfer cyflwyniad: 20 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect ysgrifenedig unigol (2,000 gair)  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar ar y prosiect ysgrifenedig unigol  20%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos eu bod nhw'n gallu ymdrin yn feirniadol a phrif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia yn ei chyd-destun (mewn perthynas a'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol);

Dangos eu bod nhw'n yn gyfarwydd a cherrig milltir hanes Patagonia a gallu gwneud cysylltiadau ac adnabod patrymau cyffredinol

Dangos eu bod nhw'n gallu dadansoddi elfennau o hanes cyfredol yr ardal a'u cysylltu a digwyddiadau'r gorffennol;

Dangos eu bod nhw wedi datblygu ystod o sgiliau perthnasol sydd yn eu galluogi i ystyried deunyddiau llenyddiaeth a ffilm yn feirniadol ac yn ddadansoddol er mwyn ffurfio barn.

Disgrifiad cryno

Edrychir ar gerrig milltir hanes yr ardal mewn perthynas a'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol er mwyn meithrin dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiad Patagonia hyd at y presennol.

DS: Nid oes rhaid medru Sbaeneg er mwyn dilyn y modiwl hwn.

Cynnwys

Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno prif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia gyfoes i fyfyrwyr israddedig drwy ddeunyddiau llenyddiaeth, ffilm a chyfryngau amrywiol. Edrychir ar gerrig milltir hanes yr ardal mewn perthynas a'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol er mwyn meithrin dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiad Patagonia hyd at y presennol. Trafodir yn y darlithoedd pynciau megis: Fforio Patagonia: 'darganfod' a mapio; Poblogaeth Patagonia: brodorion a mewnfudwyr; Iparraguirre a'i nofel La tierra del fuego;
Patagonia a'r gwahanol ddychmygion: tlws y wladwriaeth, tirlun teithio i dramorwyr, tirlun teithio i Archentwyr, cerdyn post Patagonia ar ffilm; Realiti Patagonia a dilyniant gorthrwm; Cyfnod yr Adennill: lleisiau Patagonaidd, brodorion yn mynnu hawliau; Patagonia ar y newyddion.

Wythnos Themau

1.
15 Cyflwyniad i'r modiwl + aseiniadau
Cyflwyniad i'r rhanbarth - 'Cewri' Patagonia - Brodorion - Yr Oes Darganfod: mordwyo a mapio Patagonia

2.
16 Bwrlwm mordwyo: cyrchfan llongau tramor - Y Byd yn llygadu Patagonia - Patagonia'n Dir Neb - Gwlad iwtopiau: Teyrnas Araucania a Phatagonia - Mordeithiau'r Beagle

3.
17 Yr Ariannin a Chile: adeiladu gwlad - Meddylfryd 'Gwareiddiad yn erbyn Barbariaeth': Ymgyrchoedd yn erbyn y brodorion - Poblogi Patagonia ddwyreiniol a gorchfygu'r 'anialwch'

4.
18 Trafod cynlluniau marcio ar gyfer y cyflwyniad a'r prosiect ysgrifenedig
Poblogi Patagonia ddwyreiniol: yr Ariannin ar ol 1885 - Canlyniadau 'Concwest yr Anialwch': brodorion a thirfeddianwyr - Gwlad iwtopiau: y Wladfa

5.
19 Meddiannu Patagonia: Patagonia Drasig Borrero - Nouzeilles 1999: gwrthdroi mythau daearyddol ymerodrol a chyflwyno Patagonia fel ymgorfforiad o'r Wladwriaeth - Perito Moreno: mapio'r tiroedd ac adeiladu'r genedl - Gwyddoniaeth a'r Fyddin - Strategaethau tuag at y brodorion - Delweddu'r rhanbarth: ffantasi rwystredig ond tirlun Patagonia fel ffetis - Patagonia fel Tlws y Wladwriaeth

6.
20 Patagonia fel tirlun teithio i dramorwyr ac Archentwyr - Cerdyn post Patagonia: Patagonwyr fel travelees - Y Wladfa heddiw

7.
21 Cyflwyniadau llafar ar brosiectau ysgrifenedig
Realiti Patagonia: brodorion, tirfeddianwyr (e.e. Gwrthryfel ym Mhatagonia), dilyniant gorthrwm, tramorwyr a damcaniaethau cynllwynio
Cyfnod yr Adennill: lleisiau Patagonaidd, brodorion yn mynnu hawliau + Camusu Aike (OND Benetton ayyb); Patagonia ar y newyddion

8.
22 Cyflwyno prosiectau ysgrifenedig
Dangosiad: Separado! + trafodaeth: Patagonia a'r gwahanol ddychmygion

9.
23 Iparraguirre a'i La tierra del fuego I

10.
24 Iparraguirre a'i La tierra del fuego II
Cloi: trosolwg o'r modiwl + gwerthuso profiad y myfyrwyr

11.
25 wythnos adolygu / paratoi ar gyfer arholiadau

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno prif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia gyfoes i fyfyrwyr israddedig drwy ddeunyddiau llenyddiaeth, ffilm a chyfryngau amrywiol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir: * Y galli i gyfathrebu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol (cyfraniad llafar yn ystod y gwersi, ysgrifennu prosiect, cyflwyniad llafar a pharatoi arholiad) * Y gallu i grynhoi a threfnu gwybodaeth * Y gallu i fynegi dadl a'i hamddiffyn
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir: * Y gallu i adnabod gwahaniaethau diwylliannol ac ymateb iddynt. * Y gallu i weithio'n annibynnol, gosod blaenoriaethau, rheoli amser yn effeithiol a chwblhau gwaith mewn pryd
Datrys Problemau Datblygir: * Y gallu i adnabod, trafod a dadansoddi materion cymhleth yn ymwneud â maes y modiwl * Y gallu i gynnig dadleuon rhesymegol, gwerthuso honiadau a datblygu barn feirniadol
Gwaith Tim Dysgir y seminarau mewn grwpiau bach ac mae trafodaethau grwp yn rhan annatod o'r profiad dysgu ar y modiwl
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir: * Y gallu i fyfyrio ar y broses ddysgu a defnyddio adborth adeiladol
Rhifedd Nid yw'r modiwl yn ymdrin â'r sgil hon yn uniongyrchol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir gwybodaeth bellach o'r pwnc a astudir (Ieithoedd Modern, Cymraeg, Daearyddiaeth) yn ogystal ag o'r iaith Gymraeg/Sbaeneg ar sail amrywiaeth o ffynonellau llafar ac ysgrifenedig
Sgiliau ymchwil Datblygir: * Y gallu i chwilio am wybodaeth bellach (ymchwilio) a chyflwyno gwaith ysgrifenedig * Y gallu i gasglu, crynhoi a dadansoddi gwybodaeth a thystiolaeth oddi ar ystod o ffynonellau cynradd ac eilradd (deunyddiau papur, clyweled ac electronig)
Technoleg Gwybodaeth Datblygir y gallu i ddefnyddio TG yn effeithiol, nid yn unig fel ffordd o gyfathrebu a chyflwyno gwaith ond hefyd fel cymorth ar gyfer dysgu (Blackboard a'r Porth, meddalwedd prosesu geiriau, ymchwilio ar y we).

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Nouzeilles, Gabriela a Graciela R Montaldo (2002) The Argentinia Reader: History, Culture, Politics Durham: Duke University Press Chwilio Primo Pe alo a, Fernana; Claudio Canaparo a Jason wilson (2010) Patagoni: Myths and Realities Rhydychen; Peter Lang Chwilio Primo Pratt, Mary Louise (1992) Imperial Eyes Llundain; Routledge Chwilio Primo Said, Edwrd W., (11978) Orientalism Efrog Newyss, Pantheon Books Chwilio Primo Williams, Glyn (1991) The Welsh in Patagonia: The State and the Ethnic Community Caerdydd; Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Williams, r, Bryn (1962) Y wladfa Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Nouzeilles, Gabriela (1999) Patagonia as borderland nature, culture, and the idea of the State Journal of Latin American Cultural Studies, (cyf 8), rhif 1, 35-48 http://www.tandfonline.com/doi/abs/10.1080/13569329909361947

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6