Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x sesiynau 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x sesiynau 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 'Tiwtorial adborth' unigol am 10 munud ar gyfer pob aseiniad a gyflwynir |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 25% |
Arholiad Semester | 3 Awr (1 x arholiad 3 awr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 25% |
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 3 awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
Dangos eu bod yn gyfarwydd a chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol, sy'n gysylltiedig a ffurfio hunaniaethau cenedlaethol ym Mhrydain ac Iwerddon yn y cyfnod 1800-1914.
Ystyried yn feirniadol ffurfiad hunaniaethau cenedlaethol y pedair cenedl yn Ynysoedd Prydain, a'u perthynas a hunaniaeth Brydeinig sy'n pontio trostynt.
Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol, sy'n berthnasol i'r astudiaeth o hunaniaethau cenedlaethol yn y gorffennol.
Casglu a dadansoddi eitemau priodol o dystiolaeth hanesyddol.
Darllen, dadansoddi, ac ystyried yn feirniadol destunau eilaidd.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl hwn yw astudio datblygiad hunaniaethau cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain yn y ganrif a rhagor ar ol pasio'r Ddeddf Uno rhwng Prydain ac Iwerddon a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 1801. Byddem yn ystyried y thema hon yng ngoleuni'r syniad sy'n pwysleisio'r ffordd y bydd cenhedloedd yn gweithredu fel 'cymunedau'r dychymyg'. Creu ymdeimlad o berthyn i Brydain yw un o themau canolog y modiwl ond hefyd byddem yn trin sut cafodd hunaniaethau eraill - Seisnigrwydd, Albanrwydd, Cymreictod a pherthyn i Iwerddon - eu mynegi yn y cyfnod hwn, yn annibynnol ar Brydain ac mewn cysylltiad a hi.
Cynnwys
1. Cyflwyniad
2. Gwladgarwch Prydeinig a'r Rhyfeloedd gyda Ffrainc, 1793-1815
3. Y Frenhiniaeth a'r 'Genedl', 1800-1837
4. Gwleidyddiaeth a Dinasyddiaeth, 1815-32
5. Siartaeth: Mudiad Cenedlaethol?
6. Y Mudiad er Diddymu’r Undeb rhwng Prydain ac Iwerddon
7. Gwrth-Babyddiaeth yng Nghanol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
8. Hunaniaeth Genedlaethol yr Alban
9. Rhyddfrydiaeth a Chenhedloedd Prydain
10. Y Chwyldro mewn Cyfathrebu
11. Ail-ddyfeisio'r Frenhiniaeth, 1870-1914
12. Ceidwadaeth, Seisnigrwydd a Disraeli
13. Undebaeth Gwyddelig, 1885-1914
14. Imperialaeth Poblogaidd a Phrydeindod
15. Chwaraeon Torfol ac Hunaniaeth Genedlaethol
16. Addysg, y Wladwriaeth a'r Bobl
17. Argyfwng Prydeindod, 1899-1914
18. Prydeindod ar Drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf
Seminarau:
1. Rhyfel gyda Ffrainc ac hunaniaeth Brydeinig, 1793-1815
2. 'Cwlt y frenhiniaeth'
3. Siartaeth a dinasyddiaeth yn y 1830au a'r 1840au
4. Delweddau'r cefn gwlad a Seisnigrwydd
5. Ucheldiroedd yr Alban ac hunaniaeth Albanaidd
6. Chwaraeon ac hunaniaeth genedlaethol
7. Imperialaeth poblogaidd ac hunaniaeth Brydeinig, 1870-1914
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydKeith Robbins Nineteenth Century Britain Chwilio Primo Linda Colley Britons: Forging the Nation 1707-1837 Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6