Module Information

Cod y Modiwl
HA38330
Teitl y Modiwl
Yr Almaen Ers 1945
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 x sesiynau 50 munud
Seminarau / Tiwtorialau 5 x sesiynau 2 awr
Seminarau / Tiwtorialau 'Tiwtorial adborth' unigol am 10 munud ar gyfer pob aseiniad a gyflwynir
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Arholiad Semester 3 Awr   (1 x arholiad 3 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 3 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth bendant o ddulliau cyfoes a dadleuon ynglŷn â hanes diwylliant yr Almaen ers 1945.




Arddangos gwybodaeth o ddiwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas yr Almaen

Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol â gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd

Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol a chynhyrchu dadleuon priodol

Arddangos y gallu i weithio fel unigolion ac mewn grwpiau

Arddangos y medrau sydd yn briodol i astudio yr Almaen ers 1945 a chynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol

Disgrifiad cryno

Yn Mai 1945 roedd y Trydydd Reich wedi ei orchfygu ac roedd y wlad wedi'i dinistrio. O ganlyniad i'r goresgyniad a'r Rhyfel Oer crëwyd dwy wladwriaeth wedi eu sylfaenu ar ideolegau gwrthgyferbyniol. Bydd y modiwl yn edrych ar gwymp y Trydydd Reich, sefydliad y ddwy wladwriaeth, eu gwleidyddiaeth ddomestig a thramor a rôl ganolog yr Almaen yn y Rhyfel Oer. Bydd yn trafod cymdeithas a diwylliant Almaenig a themâu fel cof a hunaniaeth. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y broses o ail-uno'r wlad a Gwladwriaeth Berlin.

Nod

Cyflwyno'r myfyrwyr i themâu canolig hanes yr Almaen ers 1945 a hanes Ewrop fodern yn gyffredinol.

Magi sgiliau dadansoddi a dehongli'r myfyrwyr trwy ddefnyddio a thrin ffynonellau cynradd a deall sut mae haneswyr yn eu defnyddio.

Annog y myfyrwyr i feddwl yn feirniadol fel modd o weithio'n agos a'r hanesyddiaeth.

Cynnwys

1. Cyflwyniad - Themâu yn Hanes Modern yr Almaen
2. Diwedd y Trydydd Reich
3. Gorchfygiad, Alltudiaeth a Goresgyniad, 1945-8
4. Creu'r ddwy Almaen
5. Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (GFfA) (i): Adenauer, Ail-adeiladu a'r Wirtschaftswunder
6. GFfA (II): Westbindung a pholisi tramor
7. Y ddwy Almaen a'r Rhyfel Oer
8. Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (GDdA): Yr Undeb Sofietaidd ar y Elbe
9. Argyfwng Berlin, 1958-1962
10. 1960au: Atgyfnerthiad y system o ddwy wladwriaeth Almaenig
11. Brand a Ostpolitik: dwy wladwriaeth, un genedl
12. Gwladwriaeth a Chymdeithas yn GFfA
13. Gwladwriaeth a Chymdeithas yn GDdA
14. Cydfodolaeth a Gwrthdaro: Y Ddwy Almaen yn y 1980s
15. Cwymp Wal Berlin a diwedd GDdA
16. Ail-uno a thu hwnt
17. Cof Natsïaeth a Chomiwnyddiaeth
18. Casgliadau: Themâu yn hanes modern yr Almaen

Seminarau (pob pythefnos)
1. Sefydlu'r Ddwy Wladwriaeth
2. Ailadeiladu a chadarnhau
3. Polisi tramor a'r cwestiwn Almaenig yn y Rhyfel Oer
4. Y Wladwriaeth a Chymdeithas yn y Ddwy Almaen
5. Cwymp Wal Berlin ac ail-uno'r Almaen

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Heb fod yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6