Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x sesiynau 2 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 'Tiwtorial adborth' unigol am 10 munud ar gyfer pob aseiniad a gyflwynir |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1 - 1 x traethawd 1,500 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 - 1 x traethawd 1,500 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | 1 x prosiect 5,000 o eiriau | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 5,000 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 1,500 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | 3 Awr 1 x prosiect atodol (ail-sefyll) 5,000 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifiad cryno
Sut mae clywed lleisiau'r oesoedd canol? A oes posib cael syniad iawn o sut oedd pobl yn teimlo a sut oeddent yn meddwl? I ba raddau mae'r bosibl cael at y `gwirionedd? wrth edrych ar ffynonellau'r cyfnod? Dyma'r materion y bydd y modiwl hwn yn ymdrin a hwy. Wrth edrych ar ffynonellau llenyddol o'r cyfnod, yn enwedig barddoniaeth, byddwn yn trafod pa mor agos maent yn dod a ni at adnabod y bobl a'r gymdeithas a'r cynhyrchodd. Mae corff mawr o farddoniaeth wedi goroesi o Gymru'r oesoedd canol ac maent yn amrywiol iawn yn eu natur. O'r doniol i'r difrifol, o'r rhywiol i'r crefyddol, o ganmol i wawdio, maent i gyd yn ein dysgu am fywyd y cyfnod ac yn taflu goleuni ar agweddau gwahanol o gymdeithas: cyfoeth, eiddo, rhyfela, gwleidyddiaeth, diwylliant, hunaniaeth, credoau, emosiynau a dioddefaint. Wrth astudio'r ffynonellau, yn eu ffurf gwreiddiol ac ar ffurf diweddariadau, daw myfyrwyr i werthfawrogi pwysigwydd ffynonellau llenyddol a'r modd y gellir eu defnyddio i ddeall hanes a chael golwg ar deimladau a syniadau'r gorffennol.
Nod
1. Rhagarweiniad: barddoniaeth a Chymru'r oesoedd canol
2. Canu mawl a marwnad - Llais y bardd? Llais y noddwr?
3. Canu serch a natur
4. Canu crefyddol
5. Canu brud
6. Barddoniaeth a gwleidyddiaeth
7. Barddoniaeth a'r personol
8. Barddoniaeth a diwylliant materol
9. Barddoniaeth fel ffynhonnell ffeithiol
10. Casgliadau: darlun o gymdeithas ganoloesol?
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6