Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 traethawd 2,000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | 1 x dyddiadur dadansoddol 2,500 gair | 40% |
Asesiad Semester | 1 adroddiad 2,000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos, trwy waith ysgrifenedig, y gallu i berthnasu esiamplau penodol o'r profiad ymarferol o wleidyddiaeth Cymru i'r dadleuon a'r materion cyfoes yn y llenyddiaeth academaidd ehangach ar Gymru wedi datganoli.
Disgrifio a dadansoddi strwythurau trefniadaethol a llunio penderfyniadau y sefydliad lleoliad gwaith.
Trafod gweithdrefnau'r Cynulliad Cenedlaethol a dadansoddi ei berthynas ag ystod o sefydliadau sy'r weithgar yng ngwleidyddiaeth Cymru wedi datganoli.
Enghreifftio a gwerthuso'r amrywiol sianeli o ddylanwadu ar y Cynulliad Cenedlaethol a'r brosesau llunio polisi.
Trafod eu sgiliau trosglwyddadwy ysgrifenedig a llafar eu hunain ac adnabod y ffyrdd y bu i'r lleoliad gwaith eu cryfhau.
Cynnwys
Disgwylir i fyfyrwyr gadw cofnod dadansoddol a ffeithiol yn ystod cyfnod y lleoliad gan nodi aseiniadau ac apwyntiadau, cyfarfodydd a derbyniadau a fynychwyd, a chaiff un o'r asesiadau ei seilio ar hyn.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl hwn yw cynyddu a dyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o wleidyddiaeth Cymru a gafwyd ar fodiwlau eraill ar y cwrs, yn enwedig GWM 1630 Datganoli a Chynulliad Cenedlaethol Cymru trwy gynnig profiad gwaith ymarferol mewn sefydliad sy'n ymwneud yn uniongyrchol a gwleidyddiaeth Cymru o ddydd i ddydd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr dreulio cyfnod yn gweithio mewn sefydliad sy'n chwarae rhan flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru wedi datganoli ac felly'n rhoi dealltwriaeth well iddynt o'r math o yrfa allai fod o'u blaen wedi gorffen eu hastudiaethau. |
Datrys Problemau | Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl; bydd cyflwyno gwaith asesedig ac aseiniadau yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. |
Gwaith Tim | Yn ystod y profiad gwaith disgwylir i fyfyrwyr setlo mewn amgylchedd gwaith newydd a chwblhau'r tasgau ar eu cyfer. Golyga hyn gefnogi gwaith staff parhaol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth ond o fewn cyd-destun cymorth gan y Cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain. |
Rhifedd | Ni fydd casglu data rhifyddol yn elfen ganolog o'r modiwl hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadu a gwerthuso esiamplau a syniadau. |
Sgiliau ymchwil | Bydd cyflwyno gwaith asesedig ac adroddiad yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil addas a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn annog sgiliau ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig (megis BIDS ac OCLC). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7