Module Information

Cod y Modiwl
GW35320
Teitl y Modiwl
Rhyfela Wedi Waterloo: Hanes Milwrol 1815-1918
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 darlith 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 5 seminar 1.5 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x 2 awr)  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1 x 2 awr)  60%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 2,500 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Asesu'n feirniadol effaith rhyfeloedd Napoleon ar nifer o wledydd Ewrop a'u lluoedd arfog.
2. Trafod y sialensiau a wynebodd luoedd arfog Ewrop wrth weithredu mewn cyd-destunau an-Ewropeaidd yn oes imperialaeth.
3. Disgrifio a dadansoddi'r ffactorau allweddol, y tueddiadau hanesyddol a'r deinameg strwythurol a ddylanwadodd ar y newidiadau mewn ffurf, syniadaeth a dulliau ymladd amrywiol luoedd arfog Ewropeaidd ac an-Ewropeaidd yn y cyfnod dan sylw.
4. Gwerthuso'n feirniadol rol lluoedd morwrol a lluoedd tir a'u strwythurau a'u recriwtio mewn perthynas a gwahanol ddiwylliannu gwleidyddol strategol cenedlaethol a ffurfiau rhyfel.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn caniatau i fyfyrwyr archwilio hanes Rhyfeloedd Napoleon o ran strwythurau, recriwtio a meddwl strategol lluoedd arfog Ewrop, ac i adnabod ac arddangos y tueddiadau yn y meysydd hyn a'r newidiadau technolegol a effeithiodd ar y lluoedd arfog o fewn a thu allan i Ewrop, hyd at ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18).

Cynnwys

Darlithoedd:
1. Napoleon
2. The Concert of Europe a Rhyfel cyfyngedig: y Crimea
3. Rhyfeloedd Uno'r Almaen
4. Rhyfel Cartref America 1861-65
5-6. Ymyrraeth Ewrop yn Affrica a 'Rhyfelodd Bychain' Trefedigaethol
7-8. Datblygiadau Rhyfel Morwrol, 1815-1918
9. Y Chwyldro Arfau, 1879-1914
10. Symudiadau Cyntaf y Rhyfel Mawr, Awst 1914
11-12. Ffosydd y Ffrynt Gorllewinol, 1915-16
13. Rhyfel Ffrainc: 'Aux armes, citoyens?'
14. Disbyddiad yr Entente, 1917
15-16. Cwymp y Kaiser, 1918

Seminarau
1. Effaith Rhyfeloedd Napoleon
2. Rhyfela canol y 19 ganrif
3. Oes Aur Britannia, 1871-1914
4. Tuag at Ryfel Llawn: Y Ffrynt Gorllewinol
5. Tuag at Ryfel Llawn: yr ymylon a rhyfela'r mor

Nod

Bwriad y modiwl yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr astudio datblygiadau milwrol a dadleuon hanesyddiaethol ynglyn a rhyfela, recriwtio a threfniadaeth y lluoedd arfog, datblygu strategaeth ac effaith newidiadau technolegol ar y lluoedd arfog a gweithrediadau, o gyfnod diwedd Rhyfeloedd Napoleon (1815) hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf (1918).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu i drafodaethau seminar. Er mwyn hyrwyddo hyn, bydd y cydlynydd yn gofyn i dri neu bedwar myfyriwr ymhob grwp seminar i baratoi o flaen llaw a dosbarthu'n electronig un dudalen o bwyntiau ar agweddau o bwnc y seminar ac i gyflwyno is-bwnc mewn cyflwyniad byr na chaiff ei asesu. Bydd myfyrwyr eraill (eto wedi'u nodi o flaen llaw) yn ymateb i'r cyflwyniad cyn agor y seminar i'r myfyrwyr eraill i gyd. Bydd myfyrwyr yn dysgu hefyd sut i gyflwyno eu syniadau a'u cyfleu mewn ffordd glir strwythuredig yn ysgrifenedig. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r trafodaethau mewn seminarau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno. Bydd dysgu am y broses o gynllunio gwaith cwrs a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at seminarau hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau mewn seminarau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Gwaith Tim Ni fydd gwaith tim yn elfen asesedig o'r modiwl hwn. Ond disgwylir i fyfyrwyr ddysgu rhyngweithio a chyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun grwp yn y seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Datblygu'r sgiliau cysyniadol ac ymarferol sydd eu hangen i gynnal eu medrusrwydd strategol eu hunain. - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allur myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr i wneud defnydd o wefannau wrth ymchwilio a chasglu data at eu traethawd, yn ogystal ag wrth baratoi pynciau trafod mewn seminarau ac wrth adolygu at yr arholiad. Mae yna nifer o wefannau yn canolbwyntio ar ryfela a hanes milwrol o Napoleon i'r Rhyfel Byd Cyntaf. A nifer ar wrthdaro 1914-18 yn benodol. Bydd disgwyl hefyd I fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6