Module Information

Cod y Modiwl
GW12420
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 Hours. (20 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 18 Hours (9 x 2 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adolygu erthygl (750 o eiriau)  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2000 o eiriau)  30%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad beirniadol (oddeunydd darllen dethol (1500 e)  25%
Asesiad Ailsefyll Cofnod ar ffurf blog ar thema ryngwladol/fyd-eang (750 e)  15%
Asesiad Ailsefyll Egliro cysyniad gwleidyddol ( 500 o eiriau)  10%
Asesiad Semester Adolygu erthygl (750 o eiriau)  20%
Asesiad Semester Cofnod ar ffurf blog ar thema ryngwladol/fyd-eang (750 e)  15%
Asesiad Semester Egliro cysyniad gwleidyddol ( 500 o eiriau)  10%
Asesiad Semester Traethawd (2000 o eiriau)  30%
Asesiad Semester Adolygiad beirniadol (oddeunydd darllen dethol (1500 e)  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos gwybodaeth feirniadol o brif gysyniadau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol.

Dangos gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn mewn amgylchiadau penodol a’u mireinio a/neu eu beirniadu yn unol â'r cyd-destun

Amlinellu synnwyr eang o’' ddisgyblaeth a'i dyfodol

Dangos gallu i gyflwyno dadl gydlynol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Dangos gallu i lunio gwaith cwrs wedi ei gyflwyno'n briodol ac yn cynnwys y cyfeiriadau priodol

Nod

Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i ofod gwleidyddol 'y rhyngwladol' a pheri iddynt ymgyfarwyddo â syniadau elfennol ynghylch sut mae wedi ei drefnu, a'r ffordd y mae'n debyg ac yn wahanol i ofod gwleidyddol cartref. Bydd y modiwl yn archwilio gwreiddiau Ewropeaidd/Gorllewinol y drefn ryngwladol fodern a sut mae'r drefn hon, am y tro cyntaf, wedi clymu'r byd cyfan at ei gilydd. Y nod yw cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o gymeriad hanesyddol rhesymeg sylfaenol bywyd rhyngwladol modern ac o wreiddiau dwfn rhaniadau grym parhaus yn y drefn ryngwladol. Yn olaf, nod y modiwl fydd cyflwyno i fyfyrwyr y gwahanol fathau o actorion neu asiantwyr sy'n byw yn y gyfundrefn ryngwladol ac y byddant yn dod ar eu traws dro ar ôl tro wrth astudio. Bydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddeall pam ystyrir y rhain yn bwysig, beth yw eu prif nodweddion a sut mae'r maes rhyngwladol yn ymddangos wrth inni ganolbwyntio ar un set o blith yr actorion hyn.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cynnig i fyfyrwyr amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol ar y rhyngwladol: damcaniaethol, hanesyddol, empiraidd, beirniadol. Cyflwynir y safbwyntiau hyn drwy gyfrwng tri chwestiwn penodol: Beth y'r Rhyngwladol? Beth yw gwreiddiau'r Rhyngwladol? Beth yw prif actorion y Rhyngwladol? Bydd y cwestiynau hyn, yn eu tro, yn ymwneud â dau brif bwnc yn nisgyblaeth gwleidyddiaeth ryngwladol: 1) ymblethu rhwng y cenedlaethol, y rhyngwladol a'r byd-eang, a'r gwrth-ddweud rhyngddynt; a 2) y syniad o’r rhyngwladol modern fel ffenomen fyd-eang o dras y Gorllewin – herio Gwleidyddiaeth Ryngwladol sy'n canolbwyntio ar y Gorllewin. Bydd y modiwl hefyd yn ceisio datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd allweddol, a bydd y rhain yn cael eu hymgorffori a'u datblygu ochr yn ochr â chynnwys deallusol y modiwl.

Cynnwys

Rhowch amlinelliad o'r cynnwys, fesul wythnos, gan nodi'r darlithoedd, y seminarau a/neu unrhyw ddulliau cyflwyno eraill.
Darlith 1 – Cyflwyniad
Adran 1 – Beth yw'r rhyngwladol?
Darlith 2 – Y gofod rhyngwladol
Darlith 3 – Y genedl-wladwriaeth
Darlith 4 – Y tu mewn a’r tu allan
Darlith 5 – Sofraniaeth
Darlith 6 – Rhoi trefn ar y rhyngwladol
Darlith 7 – Gofod anghyfartal

Adran 2 – Ei wreiddiau
Darlith 8 – O’r rhanbarthau i'r byd
Darlith 9 – O lawer i un
Darlith 10 – Gwreiddiau Ewropeaidd
Darlith 11 – Ewrop a’r byd
Darlith 12 – Rhesymeg fanwl y rhyngwladol
Darlith 13 – Trefn gyffredinol?

Adran 3 – Beth yw ei actorion?
Darlith 14 – Gwladwriaethau: y prif chwaraewyr?
Darlith 15 – Gwladwriaethau: mawr a bach
Darlith 16 – Sefydliadau rhyngwladol: beth ydynt?
Darlith 17 – Sefydliadau rhyngwladol: beth gallant ei wneud?
Darlith 18 – Actorion Anwladwriaethol: 'cymdeithas sifil’
Darlith 19 – Actorion Anwladwriaethol: Dieithriaid ac alltudion

Darlith 20 – Casgliad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu’n eglur a sut i wneud y gorau ohonynt. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r lliaws ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r ffurf gyfathrebu fwyaf priodol. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a siarad ac i fod yn uniongyrchol o ran nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu i ystyried yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc yn unig, a chanolbwynt ac amcanion y ddadl neu’r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd gyflwyno’r asesiadau ysgrifenedig wedi’u geirbrosesu a dylai’r modd y byddant yn cyflwyno’r gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniant a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i fireinio a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn ystod eu bywyd gwaith, yn arbennig wrth siarad â grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir a chryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac i ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gweithio’n annibynnol a datrys problemau yn amcan canolog o’r modiwl; bydd cyflwyno ystod o asesiadau sgiliau astudio yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu myfyrwyr i ddatrys problemau drwy ofyn iddynt: fabwysiadau gwahanol safbwyntiau; trefnu data a llunio ateb i'r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gwneud sawl ymarfer tîm yn y seminarau. Ar gyfer nifer o bynciau’r modiwl hwn, bydd seminarau yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bychain lle gofynnir i fyfyrwyr drafod mewn grŵp y pynciau craidd sy’n ymwneud â phwnc y seminar. Mae’r trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn galluogi’r myfyrwyr i drafod ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hybu hunanreolaeth ond o fewn i gyd-destun y mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gydgysylltydd y modiwl a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dangos menter, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad y gwaith cwrs a phynciau’r cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau penodol i’r pwnc yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy’n berthnasol i’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd • Defnyddio ystod o fethodolegau wrth ddatrys problemau hanesyddol cymhleth a gwleidyddol gyfoes.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o’r gwaith i'w asesu. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu, drwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4