Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 20 Hours. (20 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 18 Hours (9 x 2 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adolygu erthygl (750 o eiriau) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2000 o eiriau) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Adolygiad beirniadol (oddeunydd darllen dethol (1500 e) | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Cofnod ar ffurf blog ar thema ryngwladol/fyd-eang (750 e) | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Egliro cysyniad gwleidyddol ( 500 o eiriau) | 10% |
Asesiad Semester | Adolygu erthygl (750 o eiriau) | 20% |
Asesiad Semester | Cofnod ar ffurf blog ar thema ryngwladol/fyd-eang (750 e) | 15% |
Asesiad Semester | Egliro cysyniad gwleidyddol ( 500 o eiriau) | 10% |
Asesiad Semester | Traethawd (2000 o eiriau) | 30% |
Asesiad Semester | Adolygiad beirniadol (oddeunydd darllen dethol (1500 e) | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos gwybodaeth feirniadol o brif gysyniadau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol.
Dangos gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn mewn amgylchiadau penodol a’u mireinio a/neu eu beirniadu yn unol â'r cyd-destun
Amlinellu synnwyr eang o’' ddisgyblaeth a'i dyfodol
Dangos gallu i gyflwyno dadl gydlynol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Dangos gallu i lunio gwaith cwrs wedi ei gyflwyno'n briodol ac yn cynnwys y cyfeiriadau priodol
Nod
Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i ofod gwleidyddol 'y rhyngwladol' a pheri iddynt ymgyfarwyddo â syniadau elfennol ynghylch sut mae wedi ei drefnu, a'r ffordd y mae'n debyg ac yn wahanol i ofod gwleidyddol cartref. Bydd y modiwl yn archwilio gwreiddiau Ewropeaidd/Gorllewinol y drefn ryngwladol fodern a sut mae'r drefn hon, am y tro cyntaf, wedi clymu'r byd cyfan at ei gilydd. Y nod yw cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o gymeriad hanesyddol rhesymeg sylfaenol bywyd rhyngwladol modern ac o wreiddiau dwfn rhaniadau grym parhaus yn y drefn ryngwladol. Yn olaf, nod y modiwl fydd cyflwyno i fyfyrwyr y gwahanol fathau o actorion neu asiantwyr sy'n byw yn y gyfundrefn ryngwladol ac y byddant yn dod ar eu traws dro ar ôl tro wrth astudio. Bydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddeall pam ystyrir y rhain yn bwysig, beth yw eu prif nodweddion a sut mae'r maes rhyngwladol yn ymddangos wrth inni ganolbwyntio ar un set o blith yr actorion hyn.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn cynnig i fyfyrwyr amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol ar y rhyngwladol: damcaniaethol, hanesyddol, empiraidd, beirniadol. Cyflwynir y safbwyntiau hyn drwy gyfrwng tri chwestiwn penodol: Beth y'r Rhyngwladol? Beth yw gwreiddiau'r Rhyngwladol? Beth yw prif actorion y Rhyngwladol? Bydd y cwestiynau hyn, yn eu tro, yn ymwneud â dau brif bwnc yn nisgyblaeth gwleidyddiaeth ryngwladol: 1) ymblethu rhwng y cenedlaethol, y rhyngwladol a'r byd-eang, a'r gwrth-ddweud rhyngddynt; a 2) y syniad o’r rhyngwladol modern fel ffenomen fyd-eang o dras y Gorllewin – herio Gwleidyddiaeth Ryngwladol sy'n canolbwyntio ar y Gorllewin. Bydd y modiwl hefyd yn ceisio datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd allweddol, a bydd y rhain yn cael eu hymgorffori a'u datblygu ochr yn ochr â chynnwys deallusol y modiwl.
Cynnwys
Darlith 1 – Cyflwyniad
Adran 1 – Beth yw'r rhyngwladol?
Darlith 2 – Y gofod rhyngwladol
Darlith 3 – Y genedl-wladwriaeth
Darlith 4 – Y tu mewn a’r tu allan
Darlith 5 – Sofraniaeth
Darlith 6 – Rhoi trefn ar y rhyngwladol
Darlith 7 – Gofod anghyfartal
Adran 2 – Ei wreiddiau
Darlith 8 – O’r rhanbarthau i'r byd
Darlith 9 – O lawer i un
Darlith 10 – Gwreiddiau Ewropeaidd
Darlith 11 – Ewrop a’r byd
Darlith 12 – Rhesymeg fanwl y rhyngwladol
Darlith 13 – Trefn gyffredinol?
Adran 3 – Beth yw ei actorion?
Darlith 14 – Gwladwriaethau: y prif chwaraewyr?
Darlith 15 – Gwladwriaethau: mawr a bach
Darlith 16 – Sefydliadau rhyngwladol: beth ydynt?
Darlith 17 – Sefydliadau rhyngwladol: beth gallant ei wneud?
Darlith 18 – Actorion Anwladwriaethol: 'cymdeithas sifil’
Darlith 19 – Actorion Anwladwriaethol: Dieithriaid ac alltudion
Darlith 20 – Casgliad
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu’n eglur a sut i wneud y gorau ohonynt. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r lliaws ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r ffurf gyfathrebu fwyaf priodol. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a siarad ac i fod yn uniongyrchol o ran nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu i ystyried yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc yn unig, a chanolbwynt ac amcanion y ddadl neu’r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd gyflwyno’r asesiadau ysgrifenedig wedi’u geirbrosesu a dylai’r modd y byddant yn cyflwyno’r gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniant a chyfathrebu effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i fireinio a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn ystod eu bywyd gwaith, yn arbennig wrth siarad â grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir a chryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac i ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Bydd gweithio’n annibynnol a datrys problemau yn amcan canolog o’r modiwl; bydd cyflwyno ystod o asesiadau sgiliau astudio yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu myfyrwyr i ddatrys problemau drwy ofyn iddynt: fabwysiadau gwahanol safbwyntiau; trefnu data a llunio ateb i'r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gwneud sawl ymarfer tîm yn y seminarau. Ar gyfer nifer o bynciau’r modiwl hwn, bydd seminarau yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bychain lle gofynnir i fyfyrwyr drafod mewn grŵp y pynciau craidd sy’n ymwneud â phwnc y seminar. Mae’r trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn galluogi’r myfyrwyr i drafod ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Nod y modiwl yw hybu hunanreolaeth ond o fewn i gyd-destun y mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gydgysylltydd y modiwl a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dangos menter, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad y gwaith cwrs a phynciau’r cyflwyniadau. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau penodol i’r pwnc yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy’n berthnasol i’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd • Defnyddio ystod o fethodolegau wrth ddatrys problemau hanesyddol cymhleth a gwleidyddol gyfoes. |
Sgiliau ymchwil | Gofynnir i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o’r gwaith i'w asesu. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu, drwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4