Module Information

Cod y Modiwl
GW12320
Teitl y Modiwl
Gwleidyddiaeth y Byd yng Nghyfnod y Ddau Ryfel Byd
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 x 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 8 x Seminar 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   [1x arholiad 2 awr]  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   [1x arholiad 2 awr]  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2,500 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Trafod cysyniadau megis `achosiad', `ffynonellau', `tystiolaeth', `dadl hanesyddol' a `hanesyddiaeth'.
2. Trafod nodweddion trefedigaethu Ewropeaidd tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
3. Trafod yr agweddau deongliadol cyffredinol tuag at ddechreuadau'r Rhyfel Byd Cyntaf
4. Trafod natur y Rhyfel Byd Cyntaf a'i effaith ar y system ryngwladol
5. Trafod effaith y Chwyldro yn Rwsia ar wleidyddiaeth y byd ar ol 1917
6. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o rol cenedlaetholdeb ac yn arbennig y cysyniad o `hunan-benderfyniad cenedlaethol' yn yr ymdrech am heddwch a ddilynodd y Rhyfel Byd Cyntaf
7. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ddeinameg cyffredinol ideoleg Ffasgaeth a Natsiaeth, ac yn enwedig eu perthynas a chysylltiadau rhyngwladol
8. Dangos dealltwriaeth dda o effaith y Dirwasgiad Mawr ar y system fyd-eang.
9. Trafod nodweddion gwleidyddiaeth yn Nwyrain Asia yn y cyfnod rhwng y Ddau Ryfel Byd a'r digwyddiadau'n arwain at gais Siapan am oruchafiaeth ranbarthol
10. Trafod y dadleuon hanesyddiaethol cyffredinol ynglyn a dechreuadau'r Ail Ryfel Byd
11. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o elfennau canolog gwleidyddiaeth ryngwladol yn ystod yr Ail Ryfel Byd
12. Trafod y dadleuon dros ddechreuadau'r Rhyfel Oer.

Nod

Prif nod y modiwl hwn yw olrhain esblygiad y system ryngwladol o 1900 hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945. Mae'n tybio nad oes gan y myfyriwr unrhyw wybodaeth flaenorol am y cyfnod, ond mae'n mynnu presenoldeb cyson ganddo/i yn y darlithoedd sy'n ffurfio asgwrn cefn deallusol y cwrs yn ogystal ag yn y pum grw^p trafod neu sesiwn diwtorial lle gall myfyrwyr gyfnewid safbwyntiau a phrofi eu dealltwriaeth o'r deunydd.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i natur ac arfer hanes rhyngwladol trwy edrych ar gysylltiadau rhyngwladol byd-eang yn ystod cyfnod y ddau ryfel byd (1914-1945).

Cynnwys

Mae'r modiwl yn dechrau drwy edrych ar y system ryngwladol cyn 1914. Bydd yn canolbwyntio ar y rol ddynamig a chwaraeodd ehangu trefedigaethol Ewropeaidd wrth ffurfio'r system, gan archwilio'r pwnc o safbwynt y trefedigaethwyr ac o safbwynt y gwledydd hynny a gafodd eu trefedigaethu. Bydd y modiwl wedyn yn mynd ati i asesu chwalfa'r system hon rhwng 1900 a 1914. Yna, bydd y ffocws yn newid i edrych ar wleidyddiaeth ryngwladol y Rhyfel Byd Cyntaf wrth iddo ddatblygu'n wrthdaro byd-eang. Bydd y Chwyldro yn Rwsia a'i effaith ar wleidyddiaeth y byd yn ganolog i'r rhan yma o'r modiwl. Ar ol edrych ar y Cytundeb Heddwch a ddaeth a diwedd i'r rhyfel byddwn yn troi i edrych ar y cyfnod cythryblus rhwng y ddau ryfel byd. O Ewrop i Ogledd America ac i'r byd tu hwnt, fe fyddwn yn ystyried yr effaith a gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gysylltiadau Ewropeaidd, ar gysylltiadau Ewrop a'r Unol Daleithiau ac ar gysylltiadau'r trefedigaethwyr gyda'r gwledydd hynny y bu iddynt eu trefedigaethu. Byddwn wedyn yn asesu'r berthynas rhwng y Dirwasgiad Mawr a gwleidyddiaeth ryngwladol radical y 1930au. Pynciau pwysig i'w hystyried yn y cyd-destun yma yw twf mudiadau gwleidyddol radical, yn enwedig yn Ewrop, a'u rol yn natgymaliad graddol y system ol-1918. Rhoddir sylw arbennig i rol rhyfel a chwyldro o fewn ideolegau Ffasgaidd a Natsiaidd. Fe awn ymlaen wedyn i edrych ar sut y polareiddiwyd gwleidyddiaeth yn Ewrop, gan dalu sylw arbennig i Ryfel Cartref Sbaen, cyn symud ymlaen i edrych ar ddyfodiad yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop yn 1939 ac yn y byd tu hwnt yn 1941. Drwy gydol y modiwl rhoddir pwyslais ar natur gydberthnasol gwleidyddiaeth mewn gwahanol ranbarthau or byd, o Ewrop i'r Mor Tawel i Ogledd Affrica. Bydd rhan olaf y modiwl yn ystyried gwleidyddiaeth yr Ail Ryfel Byd o nifer o onglau, o rol y trefedigaethau i rol strategaeth i wreiddiau'r Rhyfel Oer a datblygiad system ddeubegynol.

Darlithiau
1. Cyflwyniad i hanes rhyngwladol a dulliau astudio hanes
2. Ehangiad cymdeithas yn Ewrop a gwleidyddiaeth y byd cyn 1914
3. Gwreiddiau'r Rhyfel Byd Cyntaf
4. Strategaeth a gwleidyddiaeth yn ystod y Rhyfel Mawr
5. Y Chwyldro yn Rwsia
6. Cenedlaetholdeb a Chytundeb Heddwch Paris 1919
7. Ailadeiladu Ewrop wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf
8. Twf Ffasgaeth a Natsiaeth
9. Y Dirwasgiad Mawr a gwleidyddiaeth ryngwladol
10. Y Rhyfel Sino-Japaneaidd a chais Japan am oruchafiaeth yn Nwyrain Asia
11. Dyfodiad yr Ail Ryfel Byd
12. O ryfel yn Ewrop i ryfel byd-eang, 1940-1941
13. Gwleidyddiaeth difodiant hiliol
14. Gwleidyddiaeth a strategaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd
15. Ymerodraeth a Rhyfel Byd
16. Yr Ail Ryfel Byd a gwreiddiau'r Rhyfel Oer

Seminarau
1. Gwleidyddiaeth Imperialaeth a Datrefedigaethu
2. Gwreiddiau'r Rhyfel Byd Cyntaf
3. Y Chwyldro yn Rwsia
4. Yr Unol Daleithiau a'r Byd rhwng y Rhyfeloedd
5. Gwreiddiau'r Ail Ryfel Byd yn Ewrop
6. Dyfodiad y Rhyfel yn y Mor Tawel
7. Gwleidyddiaeth Ryngwladol yr Ail Ryfel Byd
8. Yr Ail Ryfel Byd a Diwedd yr Ymerodraethau




Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar a'u trosglwyddo'n glir a threfnus yn ysgrifenedig. Byddant hefyd yn dysgu sut i fynegi eu hunain yn gadarn. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a gwaith tîm fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl yn cynnwys seminarau penodol ar sgiliau astudio allweddol yn ogystal â sesiynau ar Gynlluniau Datblygiad Personol. Bydd trafodaethau mewn seminarau yn benodol yn help i ddatblygu sgiliau llafar myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at gyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Gwaith Tim Ni fydd gwaith tîm yn rhan ganolog o'r modiwl hwn. Ond bydd yn rhaid i fyfyrwyr ddysgu sut i gydweithio a chyfathrebu'n effeithiol o fewn cyd-destun grwp yn ystod seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd a'u pynciau cyflwyno. Rhaid iddynt gyfrannu at drafodaethau seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser a'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau.
Rhifedd Yn ystod y modiwl, disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ychydig o gasglu data, dadansoddi rhifyddol a dehongli cysyniadau allweddol penodol.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn asesu gallu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun a bod ei dd/dealltwriaeth o gysyniadau allweddol o safon ddigonol i fynd ymlaen at waith lefel anrhydedd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4