Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 awr yn Saesneg. |
Seminarau / Tiwtorialau | 3 awr. 3 x 1 awr yn Gymraeg. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arhoiliad . Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad. | 100% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arhoiliad . Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai myfyrwyr fod wedi sicrhau gwybodaeth a sgiliau sy'n berthnasol mewn cyd-destun cyfreithiol, megis;
Gwybodaeth am reoleiddio gweithgareddau gweinyddol ym Mhrydain.
Sgiliau darllen a dadansoddi deddfwriaeth allweddol ac achosion.
Dealltwriaeth o ffactorau cyd-destunol, megis y ddeinameg wleidyddol sy'n ffurfio rol a phwerau cyfreithiol y corff gweithredol.
Dylai myfyrwyr hefyd feithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy megis:
- y gallu i ddarllen a deall deunyddiau cyfreithiol; gwell pwerau dadansoddi; sgiliau datrys problemau a'r gallu i lunio dadl gyfreithiol gydlynol.
- dylai myfyrwyr ddatblygu sgiliau i gyfathrebu eu syniadau'n glir ac yn gryno drwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar a'r traethawd a asesir.
- dylai ymarferion yn ystod y seminarau ddatblygu sgiliau gwaith tim gan gynnwys hunanymwybyddiaeth, hunanhyder a sgiliau rhyngbersonol.
Disgrifiad cryno
Yn ogystal a darparu gwybodaeth sylfaenol am y gyfraith weinyddol, amcan y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth feirniadol i fyfyrwyr o feysydd dethol o weithgaredd llywodraethol y weinyddiaeth. Amcan allweddol o'r cwrs yw hybu diddordeb myfyrwyr yn yr hyn sy'n faes cyfreithiol hynod o berthnasol ac un sy'n symud yn gyflym.
Nod
Datblygu dealltwriaeth feirniadol o'r modd y mae'r gyfraith yn rheoleiddio ac yn hwyluso gweithgareddau llywodraeth.
Datblygu dealltwriaeth feirniadol o'r modd yr ydym ni, fel dinasyddion, yn rhan o'r darlun fel y rhai a lywodraethir. Sut mae'r maes hwn o'r gyfraith yn hyrwyddo lles cymdeithas? Pa drefniadau sy'n bodoli i'n gwarchod ni pan aiff pethau o le?
Cynnwys
Bydd darlithoedd yn cwmpasu materion allweddol ac yn darparu sail ar gyfer astudio annibynnol pellach. Caiff rhestrau darllen a nodiadau eu darparu i gefnogi'r rhaglen o ddarlithoedd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr adeiladu ar yr hyn y byddant yn ei ddysgu yn ystod y darlithoedd er mwyn datblygu lefel dda o ddealltwriaeth o'r pwnc.
Bydd y seminarau yn gyfle i fyfyrwyr drafod pynciau pob darlith ac ymdrin ag unrhyw broblemau. Bydd cwestiynau neu dasgau penodol yn cael eu gosod cyn pob seminar a disgwylir i fyfyrwyr weithio'n annibynnol a pharatoi'n ddigonol ar gyfer y sesiynau hyn. Nod y seminarau yw hybu dealltwriaeth feirniadol a dysgu annibynnol, gan annog cyfranogiad gweithredol mewn gwaith grwp a datblygu hunanhyder.
Maes llafur
Bydd y modiwl hwn yn cwmpasu pynciau megis
- Natur a diben y gyfraith weinyddol
- Yr ystad weinyddol fodern - gwthio'r ffiniau'n ol ac esblygiad Rheolaeth Gyhoeddus Newydd.
- Cyflwyniad i adolygiad barnwrol.
- Trefniadau cwyno anfarnwrol - system yr Ombwdsmon.
- Rol llywodraeth leol.
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydCraig, PP (2008) Administrative Law 6th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo Leyland, Peter (2008) Textbook on Admninistrative Law 6th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Wade, William (2009) Administrative Law 10th ed. Oxford University Press Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6