Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 40 awr yn Gymraeg |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 awr (4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau yn Semester 2 | 33% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad . Caiff ymgeiswyr fynd a chopi, heb ei farcio, o Blackstone's Criminal Law Statutes (unrhyw argraffiad) i mewn i'r arholiad. Rhaid i ddeunydd o'r fath a ganiateir mewn arholiad aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Cewch ddefnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau. | 67% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu | 33% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad . Caiff ymgeiswyr fynd a chopi, heb ei farcio, o Blackstone's Criminal Law Statutes (unrhyw argraffiad) i mewn i'r arholiad. Rhaid i ddeunydd o'r fath a ganiateir mewn arholiad aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Cewch ddefnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau. - os caiff yr arholiad ei fethu | 67% |
Canlyniadau Dysgu
Disgwylir i fyfyrwyr ddod i fedru adnabod a chymhwyso'r gyfraith berthnasol er mwyn datrys problemau. Disgwylir hefyd iddynt gloriannu a beirniadu'r gyfraith, a bod yn ymwybodol o'r lle sydd i'w ddiwygio.
Lluniwyd y safbwynt dadansoddol yn arbennig i annog myfyrwyr i lunio dadl argyhoeddiadol ar sail y dystiolaeth berthnasol. Er mwyn deall yn llawn y modd y mae'r gyfraith droseddol yn gweithio mewn cymdeithas, rhaid i fyfyrwyr werthfawrogi datblygiad hanesyddol, sylfaen ddamcaniaethol, a natur goruwchgenedlaethol gynyddol y pwnc. Mae'r modiwl yn hybu'r holl sgiliau deallusol a sgiliau pwnc a nodwyd yng nghanlyniadau dysgu'r rhaglen.
Disgrifiad cryno
Pwnc sylfaen yw Cyfraith Troseddau, a rhaid ei astudio a llwyddo ynddo er mwyn cael eich eithrio o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Un yn unig o'r canghennau lawer o'r gyfraith y gellir eu hastudio yw'r Gyfraith Troseddau, ond gellid dweud mai dyma'r gangen fwyaf a'r un sy'n treiddio i'r rhan fwyaf o feysydd. Hynny yw, mae'r gyfraith troseddau yn cyffwrdd a phob maes arall yng nghyfraith Cymru a Lloegr: mae'n treiddio i'r gyfraith fasnachol, cyfraith refeniw, cyfraith deuluol, cyfraith yr amgylchedd a llawer o feysydd eraill. Byddwch yn dod o hyd i'r gyfraith troseddau hyd yn oed wrth astudio cyfraith ryngwladol gyhoeddus. Mae'n dilyn felly fod astudio'r egwyddorion cyffredinol sy'n sylfaen i'r gyfraith troseddau yn rhan bwysig o unrhyw addysg go iawn yn y gyfraith. Rhaid inni bwysleisio na fydd y cwrs yn ceisio ymdrin a phob trosedd, na hyd yn oed y rhan fwyaf o droseddau penodol yng nghyfraith Cymru a Lloegr. Mae llawer gormod o droseddau o'r fath. Bydd y pwyslais ar yr egwyddorion sylfaenol. A ellir cael atebolrwydd troseddol heb brofi bai na bwriad troseddol? A ystyrir bod rhywun yn 'bwriadu' canlyniad os oedd yn gwybod ei fod yn sgil-effaith anochel i'r ymddygiad bwriadus? A all anwybodaeth am y gyfraith fyth fod yn amddiffyniad? Beth petai rhywun yn mynd ati i gyflawni rhyw drosedd, ond yn rhoi'r gorau i'r syniad cyn ei chyflawni? Er bod y pwyslais ar egwyddorion cyffredinol, ni ellir dysgu'r rhain na'u deall heb gyfeirio at droseddau penodol, a bydd nifer sylweddol o'r troseddau hyn yn cael eu hystyried yn fanwl. Gellir defnyddio lladdiad (homicide) er enghraifft, i egluro ac esbonio amryw byd o egwyddorion. Gall lladd fod yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon; yn fwriadol neu'n ddamweiniol; yn rhagfwriadol neu'n ganlyniad i gythruddo sydyn. Gall y lleiddiad fod yn feddw neu'n sobr, neu yn wallgof; gall y dioddefwr farw ar unwaith, neu farw wedyn yn sgil esgeulustod meddygol. Mae yna reswm arall hefyd dros astudio dewis gweddol helaeth o droseddau. Mae angen i gyfreithiwr troseddau wybod er na ellir llunio un cyhuddiad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, efallai y gellir llunio trosedd ychydig yn wahanol. Efallai y byddai cyhuddiad o fyrgleriaeth waethygedig yn llwyddo lle y byddai cyhuddiad o ladrad yn methu. Y gyfraith troseddau yw'r pwnc y mae myfyrwyr newydd yn y gyfraith yn dymuno ei astudio ran amlaf, ac rydym yn ffyddiog na fyddant yn cael eu siomi. Mae'n lliwgar ac yn frawychus mewn mannau, ac a gwedd ddynol iawn arni. Ond nid pwnc hawdd mohono. Mae'n amlygu i fyfyrwyr broblemau cymhleth dehongliad statudol, ac yn gofyn am lawer o waith astudio cyfraith achos - a llawer ohoni'n croesddweud ei hun ac yn ansicr. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i gwestiynu a beirniadu'r gyfraith, gan geisio ei deall ar yr un pryd.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gywir o amcanion ac egwyddorion sylfaenol cyfraith droseddol Cymru a Lloegr, a gwybodaeth ymarferol o amrywiaeth gweddol eang o droseddau ac amddiffyniadau penodol.
Cynnwys
- Diffiniadau a gwahaniaethau hanfodol
- Swyddogaeth y Gyfraith Droseddau mewn cymdeithas
- Egwyddorion sylfaenol y Gyfraith Droseddau
2.1 Actus Reus
- Camwaith neu anwaith
- Troseddau cyflwr amgylchiadau
- Troseddau ymddygiad a chanlyniad
- Achosiaeth
- Gwirfoddoldeb ac awtomatiaeth
- Gwahanol fathau o mens rea
- Rhagwelediad
- Bwriad
- Gwybodaeth neu gred
- Byrbwylltra (gan wahaniaethu rhwng Cunningham a Caldwell)
3. Lladdiad
- Mathau o laddiad anghyfreithlon
- Llofruddiaeth
- Dynladdiad dehongliadol
- Dynladdiad byrbwyll
- Lladd dan golli rheolaeth
- Cyfrifoldeb lleiedig
- Lladd trwy esgeuluster garw
- Ymosod a churo
- Ymosod sy'n achosi gwir niwed corfforol
- Clwyfo a niwed corfforol difrifol
- Troseddau treisgar eraill
- Trais
- Cyfathrach rywiol anghyfreithlon
- Cynorthwyo ag anogi
- Y gyfraith gyffredin a chynllwynion statudol
- Ymgais
- Cynorthwyo, ategu, cynghori neu gaffael
- Mens rea y cyfranwyr
- Tynnu'n ol o gyfraniad
- Cyd-fenter
- Salwch meddyliol/gwallgofrwydd
- Awtomatiaeth
- Meddwdod
- Hunanamddiffyn
- Gorfodaeth
- Rheidrwydd
- Camgymeriad
- Lladrad
- Ysbeilio
- Byrgleriaeth
- Mynd ymaith heb dalu
- Twyll
Rhestr Ddarllen
Dylid Ei Brynu(2010) Blackstone's Statutes on Criminal Law 2010-2011 Oxford University Press Chwilio Primo Herring, Jonathan (2010) Criminal Law: text, cases and materials 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Testun Ychwanegol Atodol
Allen, M. (2010) Elliott and Wood's Cases and Materials on Criminal Law 10th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo Clarkson, Keating and Cunningham (2010) Criminal Law: Texts and Materials 7th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo Jefferson, Michael (2009) Criminal Law 9th ed. Pearson Longman Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4