Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Cyfres o seminarau wythnosol, 1 awr yr un. |
Eraill | Cyflwyniadau gan fyfyrwyr. |
Eraill | Cws Preswyl 5-diwrnod. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar ar bwnc cyfredol mewn ffiseg | 20% |
Asesiad Semester | Ymarferion ar gynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru ar PHM5760 neu Cyflwyniad ac arholiad llafar ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar PHM5760 | 40% |
Asesiad Semester | Erthygl ysgrifenedig ar bwnc cyfredol mewn ffiseg | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Ail-sefyll cydrannau a fethwyd | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos dysgu annibynnol drwy ymgymryd ag adolygiad o bapur ar bwnc amserol mewn Ffiseg a llenyddiaeth atgyfnerthu.
Cyflwyno a chyfleu y pwnc amserol i gynulleidfa anarbenigol mewn erthygl wyddoniaeth boblogaidd.
Dangos y gallu i gyflwyno pwnc gwyddonol cyfredol i gynulleidfa nad ydynt yn arbenigwyr ac ymateb i gwestiynau gan y gynulleidfa.
Arddangos y sgiliau sy'n sail i gynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil (myfyrwyr nad sydd wedi cofrestru ar PHM5760).
neu
Dangos y gallu i gyflwyno'r wyddoniaeth sy'n sail i'w prosiect blwyddyn olaf a mynd i'r afael a chwestiynau manwl ar y gwaith mewn arholiad llafar (myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar PHM5760).
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu yng nghyd-destun pynciau Ffiseg. Ystyrir dwy agwedd gymharus. Mae'r gyntaf yn mynd i'r afael a chyflwyniad o bwnc Ffiseg amserol mewn erthygl ysgrifenedig a anelir at y cyhoedd cyffredinol a chyflwyniad byr ar y pwnc i gynulleidfa o'u cyfoedion. Mae'r ail agwedd yn ystyried sgiliau cyfathrebu sy'n bwysig ar gyfer gweithrediad llwyddiannus prosiect ymchwil. Mae'r ail agwedd yn amrywio ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl PHM5760 Upper Polar Atmosphere yn UNIS yn eu hail semester, a disgwylir i'r myfyrwyr yma baratoi cyflwyniad a chael arholiad llafar.
Cynnwys
Caiff cynllunio, cyflwyno ac asesu prosiect ymchwil (ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru ar PHM5760) sylw mewn cwrs sgiliau ymchwil preswyl byr. Fel arfer, caiff y cwrs ei drefnu ar y cyd gan staff Ffiseg ym Mhrifysgolion Aberystwyth , Caerdydd ac Abertawe a chaiff ei gynnal yng Ngregynog ar ddiwedd Semester 1. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau.
Ar gyfer y cyflwyniad ac arholiad llafar (myfyrwyr wedi'u cofrestru ar PHM5760 ) mae disgwyl i'r myfyrwyr roi cyflwyniad am eu prosiect Blwyddyn 4 i banel bychan o aseswyr ac yna ymateb ar lafar i gwestiynau manwl ar y maes astudio. Bydd yr arholiad llafar yn Gymraeg.
Caiff y modiwl hwn ei gyflwyno fel cyfres o seminarau wythnosol o 1 awr yr un. Mae yna hefyd gwrs preswyl 5-diwrnod.
Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r cyflwyniad llafar a sefyll yr arholiad llafar yn Gymraeg.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn anelu at ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu myfyriwr israddedig yng nghyd-destun pynciau a phrosiectau mewn Ffiseg. Mae'r sgiliau yn hanfodol ar gyfer Ffisegwyr proffesiynol, i gyfathrebu cysyniadau Ffiseg i'w cyd-weithwyr ac i'r cyhoedd cyffredinol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig yn ganolog i'r modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Anelir y modiwl at baratoi myfyrwyr i gyflwyno ffiseg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Mae'r sgiliau cyflwyno yma yn ran bwysig o unrhyw yrfa Ffiseg a maent yn drosglwyddadwy i unrhyw ddisgyblaeth neu lwybr gyrfa. |
Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn elfen hanfodol o'r modiwl: papurau ymchwil ffiseg, prosiect ymchwil a phrosiect blwyddyn-olaf cwrs israddedig. |
Gwaith Tim | Mae gwaith grwp yn rhan o'r cwrs preswyl ar sgiliau ymchwil. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Caiff fyfyrwyr adborth ar eu cyfathrebu ac ansawdd eu gwaith i wella eu sgiliau cyflwyno. |
Rhifedd | Mae sgiliau Mathemategol yn ran hanfodol o bapurau ymchwil Ffiseg a hefyd o waith prosiect yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae'r rhain yn dibynnu ar y testunau a ddewisir i'w hystyried. |
Sgiliau ymchwil | Mae ymchwiliadau llenyddiaeth a holi gwyddonol yn ran ganolog o'r modiwl. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio adnoddau electronig ar gyfer ymchwil berthnasol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7