Module Information
Cod y Modiwl
FG35620
Teitl y Modiwl
Prosiect (20 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
PH15720 neu PH15510 a chwblhau Blwyddyn 2 yn llwyddiannus.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | Gwaith prosiect yn ystod oriau labordy arferol (88 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | Ymgynghori rheolaidd gyda goruchwylydd prosiect (3 awr) |
Eraill | Cyflwyniadau llafar (9 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adolygiad o'r llenyddiaeth a Chynllun Prosiect. | 30% |
Asesiad Semester | Adroddiad Terfynol | 45% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (Yn Gymraeg) | 15% |
Asesiad Semester | Cynnydd Prosiect | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Gweithio'n annibynnol ar brosiect penagored.
Chwilio, dadansoddi a dyfynnu lenyddiaeth wyddonol yn briodol.
Paratoi a chyflwyno adroddiad cynhwysfawr erbyn y dyddiad cyflwyno a roddir.
Cyflwyno y gwaith ar lafar.
Cynnwys
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwiliad penagored o bwnc Ffiseg penodol. Dylai hyn ganiatau i'r myfyrwyr gymhwyso gwybodaeth a thechnegau y maent wedi'u dysgu yn y cwrs hyd yma. Rhoddir pwyslais ar ddeall a chymhwyso egwyddorion ffiseg sylfaenol.
Disgwylir i fyfyrwyr gynllunio a rheoli rhaglen astudio annibynnol, gydag arweiniad gan eu Goruchwylydd, ac i ysgrifennu adroddiad gwyddonol ffurfiol.
Bydd cyflwyniad llafar yn cael ei roi ar ddiwedd y modiwl i ddangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol y prosiect a'i gyd-destun ehangach.
Bydd goruchwylydd neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r Cynllun Prosiect a'r Cyflwyniad Llafar yn Gymraeg.

Disgrifiad cryno
Prosiect yw'r modiwl hwn lle mae myfyrwyr yn ymchwilio i broblem o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Gall natur y broblem fod yn arbrofol, damcaniaethol, dadansoddi data, offer neu fodelu cyfrifiadurol. Mae'r modiwl dwbl ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn Anrhydedd Cyfun a Chynlluniau Gradd Prif bwnc/Is-bwnc.
Mae'r myfyrwyr fel arfer yn gweithio mewn parau neu ar eu pen eu hunain. Bydd pob myfyriwr yn rhoi cyflwyniad ac adroddiad. Mae anghenion labordy, cyfrifiadura, dadansoddi ayb y gwahanol brosiectau yn wahanol, ond fel canllaw dylai cyfanswm yr amser ar y prosiect fod yn 200 awr.

Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6